Arthfael
Sant a thywosog Llydewig o 5 a 6g oedd Arthfael (Llydaweg: Arzhel, Armael ac Armel; Lladin: Armagilus) a anwyd ym Morgannwg.[1] Defnyddir y ffurfiau benywaidd 'Arzela' ag 'Armelle' yn enwau ar ferched Llydewig. Sefydlodd Arthfael nifer o eglwysi yn Llydaw, gan gynnwys Plouharnel ('plwy' + 'Armel'; Llydaweg: Sant-Armael-ar-Gilli), Il-ha-Gwilen, lle'i claddwyd a lle bu Harri Tudur a'i ewyrth Siasbar yn addoli yn ystod eu cyfnod ar ffo yn Llydaw. Mae ei ddiwrnod gŵyl ar 16 Awst.
Arthfael | |
---|---|
Ganwyd | 482 Teyrnas Morgannwg |
Bu farw | 570 Ploermael |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | crefyddwr |
Swydd | abad |
Dydd gŵyl | 16 Awst |
Tad | Hywel fab Emyr Llydaw |
Rhieni
golyguYn ôl y Historia Regum Britanniae, fe'i ganed ym Morgannwg, yn fab i Hywel fab Emyr Llydaw, un o gydymdeithion pennaf Arthur yn ôl traddodiadau cynnar Cymru ac a oedd yn fab i Emyr Llydaw, brenin Llydaw. Dan ei enw Lladin 'Hoel' cafodd Hywel fab Emyr Llydaw ei gysylltu â'r fersiynau diweddarach o chwedl Trystan ac Esyllt gan feirdd Ffrengig ac Eingl-Normanaidd fel Béroul a Thomas o Brydain. Yn eu gwaith portreadir Hywel/Hoel fel Dug Llydaw a thad Esyllt (Iseult), gwraig Trystan (Tristan neu Tristram). Ni wyddys pwy oedd ei fam. Yn ôl traddodiad cynnar arall, Buddig; c. 460 – c. 550), brenin Llydaw oedd tad Arthfael. Mae'n bosib ei fod yn gefnder i Sant Cadfan.[1]
Chwedl y Ddraig
golyguCeir chwedl iddo godi mynachdy yn y 6g, wedi iddo drechu draig yn yr ardal. Dywedir iddo ei dal a'i glymu gyda'i ddillad, cyn gorchymyn i'r ddraig foddi ei hun yn yr afon gyfagos ym Mont-Saint-Armel. Gwelir ef, gan rai, fel y gŵr a achubodd Llydaw rhag ei gelyn.[2]
Harri Tudur
golyguYn Nhachwedd 1483, yn dilyn buddugoliaeth Edward IV dros y Lancastriaid ym Mrwydr Tewkesbury, ffodd Siasbar a Harri Tudur i Ffrainc am eu bywydau, ond chwythodd y gwynt eu llong i Le Conquet, Penn-ar-Bed (Finistere), Llydaw lle croesawyd y ddau gan Francis II, Dug Llydaw a chawsant eu cadw yn Château de l'Hermine i ddechrau cyn eu trosglwyddo i Château de Suscinio, Morbihan, yn Hydref 1472. Credodd Harri iddynt gael eu hachub gan sant Arthfael (Sant Arfel yn Llydaweg), sant a oedd a'i eglwys (yn Plouharnel) bum milltir o Josselin lle cynhaliwyd Jasper yn 'garcharor' yn 1474. Yn ôl traddodiad lleol, bu'r ddau Gymro yma lawer o weithiau yn gweddio ar Sant Arthfael.[3] Mae'n bosib fod Harri yn gweld ef ei hun yn y sant: ganwyd Arthfael yng Nghymru gan ffoi i Lydaw, felly hefyd Harri. Yn y cyfnod hwn, roedd llawer o greiriau (neu arteffactau) a oedd yn perthyn i'r sant yn Eglwys Plouharnel. Yn dilyn Brwydr Maes Bosworth, gorchmynodd i ddau gerflyn o'r sant gael eu llunio a'u gosod yn Abaty Westminster, Llundain, ac mae'r ddau'n dangos Arthfael barfog gyda draig ger ei draed. Yn ei law dde ceir maneg o fael (cofier yr enw!) Un o'r bobl a gynorthwyodd Harri yn ystod ei alltudiaeth yn Llydaw a Ffrainc oedd John Morton, a gwelir cerflun o Arthfael hefyd yn ei gofeb ef. Deunaw mlynedd wedi Bosworth dychwelodd Harri, yn frenin coronog, i'r eglwys hon, cymaint o arwr iddo oedd Arthfael. Comisiynodd Harri ffenestr liw ar gyfer y capel lle y cyfarfu'r Stanleys y noson cyn Brwydr Maes Bosworth, sef Eglwys Merevale, ac yn y ffenestr, yn y mur deheuol, ceir darlun o Arthfael, gyda'i wisg eglwysig, mynachaidd ar agor, ac oddi tano - gwisg o fael. Mae'n cario Beibl a sach, ac yn y sach ceir draig. Mae'n bosib i Harri gomisiynu'n darlun hwn gan ei fod yn credu i Sant Arthfael ei gynorthwyo i drechu'r gelyn ym Mrwydr Maes Bosworth. Dylid nodi hefyd mai enw mab hynaf ei fab Harri VIII oedd 'Arthur' ac enw ei fab llwyn-a-pherth oedd Filfel.[4]
Eglwysi
golyguCymuned | Eglwys | Cyfesurynnau | Map |
---|---|---|---|
Plouarzhel, Penn-ar-Bed | 48°26′N 4°44′W / 48.43°N 4.73°W | ||
Plouharnel, Mor-Bihan | 47°35′N 3°07′W / 47.59°N 3.11°W | ||
Sant-Armael, Mor-Bihan | 47°34′23″N 2°42′32″W / 47.573°N 2.709°W | ||
Sant-Armael-ar-Gilli, Il-ha-Gwilen (Breizh-Uhel) | 48°00′40″N 1°35′24″W / 48.011°N 1.590°W |
Gweler hefyd
golygu- Rhys Ap Arthfael, Brenin Glywysing a Gwent (ganwyd 792)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 catholicsaints.info; adalwyd 27 Ebrill 2016
- ↑ earlybritishkingdoms.com; adalwyd 27 Ebrill 2016.
- ↑ Chris Skidmore, Bosworth: Birth of the Tudors (Llundain, 2013) tud. 370
- ↑ See Peter Beauclerk-Dewar & Roger Powell, "King Henry VII (1457-1509):Roland de Velville (1474-1535)", yn Royal Bastards: Illegitimate Children of the British Royal Family (Stroud, 2008), e-lyfr, tud. 177-186.