Arthur Machen

awdur Cymreig yn yr iaith Saesneg

Awdur o Gymru oedd Arthur Machen neu Arthur Llewelyn Jones (3 Mawrth 186315 Rhagfyr 1947).[1]

Arthur Machen
Ganwyd3 Mawrth 1863 Edit this on Wikidata
Caerllion Edit this on Wikidata
Bu farw15 Rhagfyr 1947 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ysgol Cadeirlan Henffordd Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfieithydd, nofelydd, llenor, beirniad llenyddol, newyddiadurwr, actor llwyfan, gwleidydd Edit this on Wikidata
Arddullllenyddiaeth arswyd Edit this on Wikidata
llofnod
Ei gartref yn Llanddewi Fach, lle treuliodd ei blentyndod

Bywgraffiad

golygu

Bywyd cynnar

golygu

Ganed yr awdur yng Nghaerllion ar Wysg, Gwent, ym 1863, ac fe'i bedyddiwyd yn Arthur Llewelyn Jones (cyfenw ganedig ei fam oedd Machen). Roedd ei dad, John Edward Jones, yn offeiriad Anglicanaidd, ficar eglwys fach Llanddewi ger Caerllion, a chafodd Arthur ei fagu yn y rheithordy yno. Cafodd ei waith ei ddylanwadu'n gyson gan dirliniau tywyllach Gwent a'r Mynydd Du. Elfen arall o'i blentyndod yng Ngwent i ddylanwadu ar ei ffuglen oedd y darganfyddiadau cyson gan archaeolegwyr lleol o gerfluniaeth baganaidd o gyfnod y Rhufeiniaid.[2]

Yn un ar ddeg oed cafodd ei anfon i Ysgol Eglwys Gadeiriol Henffordd, lle cafodd yr addysg glasurol safonol oedd yn briodol i fachgen o'r dosbarth canol. Roedd yn ddisgybl galluog, ond un ar wahân, gyda diddordeb yng nghilffyrdd rhyfedd ac arcên llenyddiaeth a hanes. Serch ei allu ysgolheigaidd amlwg, doedd ei rieni ddim yn ddigon cyfoethog i'w anfon i Rydychen. Llwyddodd ei rieni i'w ddarbwyllo i ddilyn gyrfa mewn newyddiaduraeth. I'r perwyl hwnnw fe symudodd i fyw yn Llundain.[3]

Treuliodd Machen y 1880au cynnar yn byw mewn unigedd o fewn ehangder y brifddinas ymerodraethol, dinas fwya'r byd pryd hynny. Roedd yn byw mewn tlodi, mewn maestrefi anghysbell, ond yn hytrach na gwneud ymdrech benderfynol i feistrioli ei alwedigaeth fel newyddiadurwr, darllenai'n eang iawn a fforio rhannau pella'r ddinas. Daeth ei thirluniau mor nwmenaidd iddo â thirluniau Gwent ei blentyndod gynt: daeth Machen yn arbenigwr ar y pentrefan hŷn a gafodd ei lyncu gan filâu oes Victoria. Cadwodd ei hun ar wahân o fenter swnllyd y ddinas.

Cyhoeddi

golygu

Ym 1884 cynhyrchodd ei lyfr cyntaf, The Anatomy of Tobacco, a llwyddodd i drefnu ei gyhoeddiad gan George Redway o Covent Garden, llyfrwerthwr ac argraffwr oedd yn ddigon hoff o allu Machen i gynnig gwaith iddo fel isolygydd ar y cylchgrawn Watford's Antiquarian. Yn ail hanner y 1880au dechreuodd ddod allan o'i arwahanrwydd ifanc a'i unigedd. Cyfieithodd o'r Ffrangeg Heptamerone Marguerite de Navarre, Le Moyen de Parvenir Beroalde de Verville, a Memoirs Casanova. Cyhoeddwyd hefyd ei lyfr ei hun o ramant Rabelaisaidd, The Chronicles of Clemendy. Erbyn 1887 roedd ei rieni wedi marw, ac yn 24 oed fe briododd Amy Hogg.

Erbyn diwedd y 1880au roedd Machen wedi cyhoeddi cyfieithiadau a gwaith gwreiddiol ill dau, ond y cyfan wedi ei ysgrifennu mewn pastiche o Saesneg y 17g. Yna, yn sydyn iawn tua 1890, dechreuodd ysgrifennu yn y Saesneg gyfoes. Erbyn 1891 roedd Machen wedi dangos ei allu i ysgrifennu ffuglen gyfoes gyffrous, a chwiliodd am orchest fwy. Symudodd gyda'i wraig i fyw mewn bwthyn ym Mryniau Chiltern, lle ysgrifennodd The Great God Pan.[4] Yn dilyn ei llwyddiant tramgwyddus cyhoeddodd The Three Impostors, ym 1895. Trwy'r ddwy nofel hyn fe gafodd Machen ei gydnabod fel afatar y dull newydd 'dirywiol' o esthetigaeth.

Roedd gwaradwydd Oscar Wilde, ym 1895, yn arwyddocaol o bobl yn troi'n erbyn estheteg y 1890au a'i ddiwylliant.[5] Fel canlyniad ni chyhoeddodd Machen ddim am bron i ddegawd, er iddo ysgrifennu rhan helaeth o'i waith gorau rhwng 1895 a 1900. Ym 1899 bu farw Amy o gancr; cafodd ymddatodiad nerfus, yn crwydro strydoedd Llundain fel cymeriad allan o'i ffuglen ei hun. Gwellhaodd fesul tipyn, gyda chymorth ei gyfeillion, y blaenaf o'u plith oedd A. E. Waite. Cafodd Machen ei wahodd gan Waite i ymuno â the Hermetic Order of the Golden Dawn, grŵp hud defodol ffasiynol oedd yn cyfrif William Butler Yeats ac Aleister Crowley ymhlith ei aelodau.[6]

Saib o lenyddiaeth

golygu

Ym 1901 cymerodd gam oedd yn un annhebyg i ysgrifennwr sefydlog: ymunodd â theatr un cwmni fel bachgen newydd. Cynigiodd cwmni Frederick Benson gyfeillach a gobaith iddo ar ôl colli ei wraig. Ymunodd yn frwdfrydig â'r grŵp. Gwellhaodd o'i golled gan ddod yn bersonoliaeth newydd, yn loddestwr a raconteur, yn alltroedig a deimlai'n esmwyth gyda'i fyd.

Ym 1903 priododd ei ail wraig, Dorothie Purefoy Hudleston. Fel ei wraig gyntaf, roedd hi'n ferch o'r dosbarth canol o dueddiadau artistig a bohemaidd. Roedd hi wedi dod i Lundain i astudio canu, ac wedi ymglymu ag actorion cwmni Benson oedd yn arfer mynychu'r Cafe de l'Europe. Ar ôl priodi roedd y cwpl yn cydfyw mewn ffordd fohemaidd, yn teithio i theatrau un cwmni Prydain. Yn ystod blynyddoedd cynnar ei ail briodas, ymddengys i Machen gefnu'n benderfynol ar lenyddiaeth am ysbaid, ond erbyn 1902 roedd Hieroglyphics wedi cael ei dderbyn ar gyfer ei gyhoeddi.

Erbyn 1907 roedd diddordeb Machen wedi troi at grefydd, ac wedi ymuno â staff The Academy, newyddiadur llenyddol o duedd Uwch Anglicanaidd, eiddo ei olygydd, yr Arglwydd Alfred Douglas.

Newyddiaduriaeth

golygu

Tua diwedd y degawd Edwardaidd dechreuodd Machen chwilio am ddull o fodolaeth a fyddai'n fwy sefydlog na'r theatr un cwmni a newyddiaduraeth rhan amser ar ei liwt ei hun. Gweithiodd ar brawf ym 1908 a 1909 ar gyfer tabloid yr Arglwydd Northcliffe, y Daily Mail, ac ym 1910 fe ddaeth yn aelod o staff y chaer-newyddiadur, yr Evening News. Bu Machen yn ohebydd ar gelfyddydau a chrefydd, ond roedd hefyd yn cael ei gydnabod fel meistr ysgrifennu, a galwyd arno ar gyfer digwyddiadau o bwys, er enghraifft, gwasanaeth angladd Capten Scott ym 1913. Roedd y papur yn ei drin yn dda, ond edrychodd Machen ar ei gyflogaeth gyda'r papur fel un uffernol. Serch hynny gweithiodd yn galed, ac ym 1914, ar ddechrau'r Rhyfel Mawr, enillodd Machen enw annisgwyl i'w hun trwy'r papur.

The Bowmen

golygu

Bu'r brwydr gyntaf o sylwedd rhwng Prydain a'r Almaen ym Mons, Gwlad Belg, yn Awst 1914. Fis ar ôl y brwydr ysgrifennodd Machen stori fer, The Bowmen, a gafodd ei chyhoeddi yn yr Evening News, stori oedd yn disgrifio saethwyr nefol, o ddyddiau Agincourt, yn ymddangos yn y nefoedd a saethu ei saethau ar yr Almaenwyr ac felly'n osgoi gorchfygiad. Dim ond ychydig wythnosau ar ôl y cyhoeddiad dechreuodd Machen dderbyn ceisiadau am fanylion ei ffynhonnell ar gyfer y stori. Esboniodd Machen fod y stori'n dod yn gyfan gwbl o'i ddychymyg, ond roedd yna eisoes nifer sylweddol o bobl oedd yn credu bod y stori'n un ffeithiol - bod "angylion" yn wir wedi ymddangos ac wedi ymladd o blaid Prydain. Doedd y rhain ddim am gredu esboniad Machen; gwell ganddynt oedd credu stori "Angylion Mons".[7]

Parhau fel newyddiadurwr

golygu

Yn ystod ail ddegawd y ganrif roedd bywyd Machen yn un o barchusrwydd, gyda swydd fwrdeisiol, sefydlog. Ganed ei ddwy ferch, Hilary a Janet, yn ystod y degawd hwn, ac roedd Machen yn gallu rhoi iddynt holl fanteision cartref aelwyd ddiogel. Er hynny, collodd ei swydd gyda'r Evening News ym 1919 ar ôl cyhoeddi ysgrif goffa i'w gyn olygydd, yr Arglwydd Alfred Douglas, a oedd yn dal yn fyw mewn gwirionedd, ac a oedd yn anhapus am rai o'r pethau roedd Machen wedi ysgrifennu amdano.[8]

Serch hynny, parhaodd Machen i ennill ei fywyd fel newyddiadur. Yna, yn sydyn, fe'i ddarganfuwyd fel seren. Roedd ei straeon o'r 1890au wedi cael eu darganfod gan do newydd o Americanwyr ifanc. Roedd Vincent Starrett, James Branch Cabell a Carl Van Vechten yn dri o'r Americanwyr mwyaf dylanwadol i broselytio gwaith Machen, ac i awgrymu nad oedd y Machen wedi cael ei anrhydeddu yn ei wlad ei hun. Daeth Machen yn enw cyfarwydd ar ddwy ochr yr Iwerydd, ond gan gynulleidfaoedd gwahanol. Yn yr Unol Daleithiau cafodd ei ffuglen ei hedmygu gan academigwyr a'r avant-garde; Ym Mhrydain doedd dim lle o fewn moderniaeth lenyddol academigwyr a'r avant-garde i waith ffantasi, ac roedd ei ddilynwyr yn aml yn wrth-faterolwyr.

Erbyn 1925 roedd y boom Machen ar ben. Yn anffodus doedd e ddim wedi elwi'n ddigonol ohoni i allu treulio ei flynyddoedd olaf yn gyffyrddus. Felly bu rhaid iddo barhau i weithio fel traethodydd a newyddiadurwr, ac awdur ffuglen.

Trwy'r rhan fwyaf o'r 1920au roedd Machen a'i wraig yn byw yn St Johns Wood, lleoliad ffasiynol. Roeddent yn enwog am eu partion. Ar ôl y 1930au doedd Machen ddim yn ysgrifennu mwyach, Symudodd gyda'i wraig i Amersham, Swydd Buckingham,[9] lle cawsant fywyd dymunol. Bu farw ym 1947, yn fuan ar ôl marwolaeth ei wraig.

Gwaith

golygu

Mae'r rhan fwyaf o ffuglen Arthur Machen yn straeon byr. Achosodd ei stori fer hir The Great God Pan (1894), ei lwyddiant sylweddol cyntaf fel awdur, wylltio cyhoeddus yn Llundain oherwydd roedd y stori trwy ei phrif gymeriad -cythreules baganaidd- yn ymddangos i gysylltu synnwyr arswyd y darllenwyr â rhywioledd trythyll. Roedd ei straeon byr eraill pryd hynny hefyd yn fforio paganiaeth a rhywioledd: y mwyaf enwog ohonynt The Inmost Light a The White People, yr ail yn adroddiad person cyntaf annaearol am ferch sy'n cael ei haflonyddu gan gerfddelw anfad mae hi'n darganfod mewn coed.[10] Mae The Three Impostors (1895) yn ei hanfod yn gasgliad o straeon byr wedi eu cysylltu mewn fframwaith sengl, gan gynnwys The Black Seal, stori am anthropolegydd sy'n darganfod tylwyth o fodau cyntefig sy'n byw yn anialwch ucheldiroedd Cymru, a The White Powder, stori am ddyn ifanc anffodus sy'n cael ei ddirywio'n llysnafedd. Gellir gweld y straeon hyn i gyd fel esiamplau'r ffurf lenyddol ffantastig, wedi eu lleoli o fewn y byd go iawn, eto'n tueddu i aflonyddu ein synnwyr o'i bosibiliadau cynefin. Roeddent hefyd yn gyffrous iawn am eu hamser, ac yn cynorthwyo sylfaenu'r ffurf lenyddol gyfoes o arswyd.[11]

Ym mhob un o'r straeon uchod, mae grymoedd anfad yn cael eu gwysio; rhywbeth hynafol ac ofnadwy, cythraul, cythreules, neu fod cynoesol sy'n dod i mewn i'r byd cyfoes. Fel llawer o straeon arswyd, mae'r rhain yn foeswersi: yn aml annogir y darllenwr i fwynhau dyrchafiad grymoedd atafistig, wrth iddynt gosbi'r rhai sydd wedi pechu. Cafodd Machen ei lwyddiannau cyntaf gyda'r fath yma o waith, sy'n dal yn boblogaidd heddiw, ond i lawer o ddarllenwyr heddiw ysgrifennwyd ei ffuglen orau yn ystod ail hanner y 1890au.

Erbyn hyn roedd ei agweddau moesol wedi symud. Daeth yn agos iawn at adael i'r un grymoedd tywyll paganaidd gael posibilrwydd atgynhyrchiol. Ymhlith y rhain mae'r nofel The Hill of Dreams (1907) yn rhagori. Mae'r stori'n dilyn meddiant graddol arlunydd ifanc gan greadur paganaidd sy'n byw o'i fewn, yn debyg i'r ffordd mae Hyde Stevenson yn byw o fewn Jekyll. Mae'r nofel hon, a ystyrier y gorau o waith Machen, yn creu Llundain rithweledol, dywyll, mor rymus yn ei sylweddoliad ond mewn dull gwahanol â Llundain Sherlock Holmes. Dangosodd cyfres o ysgrifau byr iawn o'r un cyfnod ddathliad amwys tebyg o rymoedd rhywiol paganaidd, a hefyd diddordeb Machen mewn barddoniaeth ryddiaith avant-garde y dirywiad Ffrengig. Casglwyd y rhain ynghyd i ffurfio Ornaments in Jade. Tua diwedd y 1890au dechreuodd ymddiddori mewn potensial iachusol cyfriniaeth fwy uniongred. Yn A Fragment of Life mae'r stori'n croniclo bywyd Edward Darnell, sy'n gwneud taith fewnol o fod yn glerc sy'n byw mewn maestref i fod yn gyfriniwr. O holl waith Machen, y stori hon sydd y fwyaf llwyddiannus o ran dychmygu aileni cyfriniol o fewn byd go iawn. Mewn nofel arall The Secret Glory (1922) mae'n fforio mewn ffordd debyg bywyd bechgyn sy'n cofleidio myth y greal, i ddarganfod ecstasi a merthyrdod. Mae'r stori N, a ysgrifennodd Machen pan oedd dros saithdeg oed, yn fath o chwedl seicodelig am ddarganfod realiti arall sy'n bodoli mewn maestref lwyd ostyngedig yng Ngogledd Llundain.

Boed mewn paganiaeth dywyll ddychmygol neu mewn atgynhyrchiad cydriniol, mae ffuglen Machen yn gyson yn ei fforiad o'r hyn roedd yn galw ecstasi, testun roedd yn ei fforio i'r eithaf yn Hieroglyphics (1902), ei waith o theori lenyddol.[12]

Llyfryddiaeth

golygu
 
Llofnod

[13]

  • The Chronicle of Clemendy (1888): straeon ffantasi o fewn fframwaith stori am frawdoliaeth wledig yng Nghymru gyda gwreiddiau cyfriniol.
  • The Lost Club (1890): stori fer am gymdeithas gyfrinachol yn Llundain a diflaniadau defodol ei haelodau.
  • The Great God Pan (ysgrifennwyd 1890-1894; cyhoeddwyd 1894): nofel arswyd byr. Cyhoeddwyd gyntaf ynghyd â The Inmost Light fel Cyfrol V yng Nghyfres Keynotes John Lane.[14]
  • The Inmost Light (1894): stori arswyd fer. Mae gwyddonydd yn carcharu enaid ei wraig mewn em ddisglair, gan adael rhywbeth arall i'w chorff di enaid, ond mae'r em yn cael ei dwyn.
  • The Shining Pyramid (1895): stori arswyd byr. Mae trefniadau rhyfedd o gerrig yn ymddangos ar gyrion eiddo dyn ifanc. Mae ef a ffrind yn ceisio dehongli eu hystyr cyn ei bod hi'n rhy hwyr.
  • The Three Impostors (1895): nofel arswyd yn ymgorffori sawl stori fer, gan gynnwys The Novel of the White Powder a The Novel of the Black Seal, sydd yn aml wedi cael eu blodeuo ar wahân. Yn droi o amgylch hanes chwilio am ddyn â sbectol.[15]
  • The Novel of the Black Seal:mae'r prif gymeriad yn raddol datgelu cyfrinachau hil gudd nad yw'n ddynol ond sydd wedi bodoli cyn esblygu'r dynol rhyw yn cuddio ym mryniau Cymru, a gwir natur plentyn gwirion ei natur a anwyd trwy gyfathrach rhwng mam ddynol a thad o'r hen hil.
  • The Novel of the White Powder: mae ymddygiad dyn yn cymryd tro rhyfedd ar ôl iddo ddechrau cymryd presgripsiwn newydd. Nid yw ei chwaer yn gwybod a yw hyn yn beth da neu'n beth drwg.
  • The Red Hand (1895): stori dditectif/arswyd byr sy'n cynnwys y prif gymeriadau o'r Three Impostors. Mae'n canolbwyntio ar lofruddiaeth a berfformiwyd gyda bwyell carreg hynafol.
  • The Hill of Dreams (ysgrifennwyd 1895-1897; cyhoeddwyd 1907): nofel yn amlinellu gwallgofrwydd troellog tywyll, cyfriniol, parchedig ofn, cnawdolrwydd, arswyd ac ecstasi arlunydd. Ystyrir yn gyffredinol yn gampwaith mwyaf Machen.
  • Ornaments in Jade (ysgrifennwyd 1897; cyhoeddwyd 1924): cerddi rhyddiaith, rhai ohonynt yn awgrymu pwerau paganaidd tywyll.
  • The White People (ysgrifennwyd 1899; cyhoeddwyd 1904): stori arswyd byr. Wedi'i gyflwyno fel dyddiadur merch ifanc, yn manylu ar ei ymwneud cynyddol ddwfn i ddewiniaeth. Fe'i disgrifir yn aml fel un o'r straeon byrion arswyd gorau erioed.
  • Hieroglyphics: Nodyn ar Ecstasi mewn Llenyddiaeth (ysgrifennwyd 1899; cyhoeddwyd 1902): taith lenyddol yn manylu ar athroniaeth Machen am lenydda a'i allu i greu ecstasi.[16]
  • A Fragment of Life (ysgrifennwyd 1899–1904; cyhoeddwyd 1904): nofel fer. Mae cwpl ifanc yn ymwrthod ag ystrydebau bywyd materol o blaid yr ysbrydol.
  • The House of the Hidden Light (Ysgrifennwyd ym 1904 gydag Arthur Edward Waite. Dim ond tri chopi a gyhoeddwyd. Ailargraffwyd mewn rhifyn o 350 copi gan Tartarus Press, 2003): llyfr o ohebiaeth gyfriniol mewn cod.
  • The Secret Glory (ysgrifennwyd 1899–1908; cyhoeddwyd 1922): nofel. Mae bachgen ysgol bonedd yn cael ei swyno gan straeon am y Greal Sanctaidd ac yn dianc o'i ysgol ormesol i chwilio am ystyr ddyfnach i fywyd.[17]
  • The Bowmen (1914): yn y stori hon, a ysgrifennwyd ac a gyhoeddwyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, daw ysbrydion saethwyr o frwydr Agincourt, dan arweiniad San Siôr, i gynorthwyo milwyr Prydain. Cyfeirir at hyn fel tarddiad chwedl Angel Mons.[18]
  • The Great Return (1915): stori fer. Mae'r Greal Sanctaidd yn dychwelyd i bentref Cymreig.[19]
  • The Terror (1917): nofel arswyd byr. Arswyd goruwchnaturiol gwledig wedi'i osod ym Mhrydain yn ystod y rhyfel, lle mae cyfres o lofruddiaethau cefn gwlad anesboniadwy yn digwydd heb unrhyw arwydd o bwy na beth sy'n gyfrifol.[20]
  • Far Off Things (1922): gyfrol gyntaf hunangofiant.[21]
  • Things Near and Far (1923): ail gyfrol hunangofiant.
  • Out of the Earth (1923): stori arswyd byr ynglŷn â chreulondeb ciaidd y tylwyth teg, sy'n efelychu'r Rhyfel Byd Cyntaf.
  • The London Adventure (1924): y drydedd gyfrol a'r olaf o hunangofiant.
  • Dog and Duck (1924): traethodau.[22]
  • The Glorious Mystery (1924): traethodau a byr bortreadau.
  • The Canning Wonder (1925): astudiaeth ffeithiol o ddirgelwch y 18g o ddiflaniad Elizabeth Canning. Daw Machen i'r casgliad bod Canning yn dweud celwydd am rai neu bob un o'i champau.[23]
  • Dreads and Drolls (1926): traethodau (argraffiad estynedig, Tartarus Press: 2007).
  • Notes and Queries (1926): traethodau.
  • Tom O'Bedlam and His Song (1930): traethodau.
  • Opening the Door (1931): stori fer. Hanes trosgynnol dirgel dyn i mewn i ryw dir ysgarthol allanol.
  • The Green Round (1933): nofel. Mae dyn yn cael ei aflonyddu gan gorrach ar ôl ymweld â'r rownd werdd ar draeth.
  • N (1934): stori fer. Ccanfyddiad o wlad cudd y tylwyth teg yn Llundain.
  • The Children of the Pool (1936): casgliad straeon byrion gan gynnwys straeon arswyd y cyfnod hwyr Change ac Out of the Picture.
  • Arthur Machen & Montgomery Evans: Letters of a Literary Friendship, 1923–1947 (Kent State University Press, 1994): Gohebiaeth.
  • Bridles and Spurs (1951): traethodau.

Cyfeiriadau

golygu
  1. "MACHEN, ARTHUR (1863 - 1947) a gyfenwyd yn ARTHUR LLEWELLIN JONES i gychwyn, awdur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-10-11.
  2. "Tracing the life of Caerleon mystic, Arthur Machen". South Wales Argus. Cyrchwyd 2020-10-11.
  3. "Machen, Arthur Llewelyn Jones (1863–1947), writer". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/37711. Cyrchwyd 2020-10-11.
  4. Worth, Aaron (2018-10-31). "The Horror of Geologic Time". The Paris Review. Cyrchwyd 2020-10-11.
  5. "Arthur Machen". Spartacus Educational. Cyrchwyd 2020-10-11.
  6. Starrett, Vincent (1918). Arthur Machen : a novelist of ecstasy and sin. Chicago : W. M. Hill.
  7. "Friends of Arthur Machen". www.arthurmachen.org.uk. Cyrchwyd 2020-10-11.
  8. "Arthur Machen | Welsh writer". Encyclopedia Britannica. Cyrchwyd 2020-10-11.
  9. "Arthur Machen". Amersham Museum. Cyrchwyd 2020-10-11.
  10. E. F. Bleiler. "Arthur Machen" yn: Bleiler, E. F., gol. Supernatural Fiction Writers. Efrog Newydd: Scribner's, 1985. ISBN 0-684-17808-7 (tud. 351–3).
  11. Walter, Damien G. (2009-09-29). "Machen is the forgotten father of weird fiction". The Guardian. ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2020-10-11.
  12. "Machen, Arthur (Llewellyn)", gan Brian Stableford yn David Pringle (gol), St. James Guide to Horror, Ghost and Gothic Writers. Llundain: St. James Press, 1998, ISBN 1558622063 (tud. 382–84).
  13. "Summary Bibliography: Arthur Machen". www.isfdb.org. Cyrchwyd 2020-10-11.
  14. Machen, Arthur (1894). The Great God Pan.
  15. Machen, Arthur. The Three Impostors; or, The Transmutations.
  16. Machen, Arthur (1923). Hieroglyphics : a note upon ecstasy in literature / by Arthur Machen. A.A. Knopf.
  17. Machen, Arthur (20 Maw 2011). The Secret Glory.
  18. Machen, Arthur (14 Tach 2004). The Angels of Mons: The Bowmen and Other Legends of the War.
  19. Machen, Arthur (18 Maw 2011). The Great Return.
  20. Machen, Arthur (20 Maw 2011). The Terror: A Mystery.
  21. Machen, Arthur (3 Chwefror 2011). Far Off Things.
  22. Machen Arthur (1926). Dog And Duck.
  23. Machen, Arthur (1920). The Canning Wonder.