Arthur Tysilio Johnson

Awdur, ffermwr ieir, a garddwr o Loegr a oedd yn byw yng Nghymru oedd Arthur Tysilio Johnson (187320 Medi 1956).

Arthur Tysilio Johnson
Ganwyd1873 Edit this on Wikidata
Bu farw20 Medi 1956 Edit this on Wikidata
Galwedigaethffermwr Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Roedd Johnson yn byw yn Bulkeley Mill ger Conwy, Sir Gaernarfon am gyfnod. Bu'n ysgolfeistr yn Ysgol Ramadeg Llanelwy a yn arddwr marchna yn Bulkeley Mill. Casglodd blanhigion yn Ewrop, Califfornia, a Chanada. Ymysg ei lyfrau ar deithio a phlanhigion y mae California: An Englishman's Impressions of the Golden State (1913), A Garden in Wales (1927), Hardy Heaths and some of their Nearer Allies (1928), Plant Names Simplified (1931), a The Mill Garden (1949).

Ysgrifennodd The Perfidious Welshman, llyfr dychanol ar y Cymry a gyhoeddwyd gan Stanley Paul & Co. yn Llundain ym 1910, dan yr enw "Draig Glas" [sic]. Ymosododd y llyfr ar gymeriad a medr y genedl Gymreig, gan feirniadu Anghydffurfiaeth, hanes, Cymry enwog, traddodiadau, addysg, gwleidyddiaeth, y celfyddydau, cerddoriaeth, chwaraeon, a'r agwedd negyddol tuag at yfed alcohol yng Nghymru. Teitlau dwy bennod olaf y llyfr ydyw "Some Hints for the English Visitor in Wales" a "Conclusion: Tips for Taffy", sydd yn gorffen gan awgrymu:

It will never be possible for you to be quite equal to an Englishman, but you may make him your ideal. By doing so you may, perhaps, in course of time realise the awful misfortune of having been born Welsh, and endeavour, for the sake of others as well as of yourself, to forget it.

If that does not take the conceit out of you nothing else ever will.

Roedd ymatebion y wasg Seisnig i'r llyfr ar y cyfan yn ffafriol ond yn anghytûn ar eu dadansoddiad o'r gwaith. Yn ôl adolygiad yn y Daily Mail, "the book has been written to show just how ridiculous and unreasonable the traditional gibes against Welshman are in the aggregate. This being so, we do not think that Welsh readers will find any offence in the book." Ar y llaw arall ysgrifennwyd yn y Winning Post: "English people who are more or less acquainted with Wales and its aborigines will recognise that there is a great deal of truth underlying his [Draig Glas] humorous observations, and may even wonder whether there is so very much exaggeration after all". Yn y Western Mail, tybiodd Syr Marchant Williams bod The Perfidious Welshman yn rhoi achos meddwl i'r Cymry, gan ysgrifennu, "There is some foundation of truth for many of the statements of 'Draig Glas.' [...] It must be allowed that Wales is backward in architecture, that the Nonconformist chapels are not as decorative as they might be, that the National Eisteddfod is not entirely free from imperfections, that orchestral music is sadly neglected in the Principality, and that Nonconformist ministers are too prone to dabble in politics."

Yn yr un flwyddyn, ysgrifennodd Johnson ymateb i lyfr ei hunan gan ddefnyddio'r enw "An Englishman", a gyhoeddwyd eto gan Stanley Paul & Co. gyda'r teitl The Welshman's Reputation. Amddiffyniad o'r Cymry yn wyneb y gyfrol gynt oedd y llyfr hwn, gan ganolbwyntio'n bennaf ar berthynas hiliol agos y Cymry a'r Saeson i ddadlau bod unrhyw ymosodiad ar drigolion Cymru yn ymosodiad ar drigolion holl Ynys Brydain. Ysgrifennodd y Parchedig William Morris Roberts o Aberdyfi ymateb i The Perfidious Welshman gyda'r teitl Reply to the Perfidious Welshman dan yr enw "Fluellyn", a gyhoeddwyd gan Hughes & Son yn Wrecsam.

Dolenni allanol golygu