Australopithecus africanus
Aelod o'r genws Australopithecus (o'r is-lwyth Australopithecine) a fu'n byw ar y Ddaear ac sydd bellach wedi'i ddifodi yw Australopithecus africanus. Dyma'r hominin cyntaf i esblygu o'r epa ac mae'n perthyn yn agos iawn i'r Australopithecus afarensis. Fe'i dosbarthwyd i'r tacson hwn yn 924. Yn ddiweddar, yn dilyn ymchwil gan Paleoanthropolegwyr ac archaeolegwyr dyddiwyd y ffosiliau i rhwng 3.3 a 2.1 miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP), h.y. yn ystod yr epoc Plïosen hwyr a chychwyn y Pleistosen.
Delwedd:Australopithèque Cerveau Double.jpg, Mrs Ples Face.jpg | |
Enghraifft o'r canlynol | ffosil (tacson) |
---|---|
Safle tacson | rhywogaeth |
Rhiant dacson | Australopithecus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Australopithecus africanus Amrediad amseryddol: Plïosen | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Primatiaid |
Is-urdd: | Haplorhini |
Teulu: | Hominidae |
Llwyth: | Hominini |
Genws: | † Australopithecus |
Rhywogaeth: | africanus |
Cred nifer o baleoanthropolegwyr fod A. africanus yn perthyn yn uniongyrchol i fodau dynol modern.[1] Dim ond mewn pedwar lleoliad yn ne Affrica y cafwyd hyd i esgyrn yr A. africanus, ac mae'r darganfyddiadau hyn i gyd yn awgrymu ei fod yn rhywogaeth tal a main. Y lleoliadau hyn yw: Taung (1924), Sterkfontein (1935), Makapansgat (1948) ac Ogof Gladysvale (1992).[2]
Ffosiliau enwog
golyguY plentyn Taung
golyguCanfyddwyd y ffosil hwn yn 1924 gan yr Athro Raymond Dart mewn chwarel galch yn Taung ger Kimberley yn Ne Affrica.[3][4] Y ffosil mwyaf nodedig oedd y penglog hwn a oedd yn gyfuniad o nodweddion epa a dyn. Roedd hi'n amlwg o siap yr esgyrn fod y rhywogaeth yma'n teithio ar ddwy goes. Fe'i bedyddiwyd gan Dart yn Australopithecus africanus ("epa de Affrica");[2] Rhoddwyd iddo'r llysenw "Y Plentyn Taung".
Dyma'r tro cyntaf i'r gair 'epa' (-pithecus) gael ei gysylltu gyda hominin mewn astudiaeth (a chyhoeddiad) gwyddonol, pwysig. Roedd hyn, felly, yn ddatganiad fod bod dynol wedi tarddu o epa. Oherwydd rhagfarn yr anthropolegydd Seisnig Syr Arthur Keith, fodd bynnag, a gredodd mai epa ydoedd ac mai yn Ewrop y byddai'r "ddolen goll" yn cael ei darganfod, byddai 30 mlynedd wedi'i dreulio cyn i wyddoniaeth dderbyn mai'r Athro Raymond Dart oedd yn gywir.
Mrs. Ples
golyguCytunai'r Paleoanthropolegydd Robert Broom gyda Dart, fod y Plentyn Taung yn un o hynafiaid bod dynol. Gweithiai Broom o Amgueddfa Transvaal, Pretoria yn Ne Affrica.[5] Yn 1936, yng nghrobil ogofâu Sterkfontein cafwyd hyd i'r oedolyn cyntaf o'r is-lwyth australopithecine, darganfyddiad a oedd yn cadarnhau honiad Broom, i raddau helaeth. Amcangyfrifodd Broom fod gwactod ymennydd yr oedolyn hwn yn 485 cc (canfuwyd y penglog gan G. W. Barlow) a galwyd yr esgyrn hyn yn Plesianthropus transvaalensis ("Bron-yn-ddynol, o Dransvaal"). Yn 1947, darganfuwyd esgyrn eraill hynod o debyg, gerllaw, esgyrn benyw yn ei chanol oed, a bedyddiwyd hithau hefyd yn Plesianthropus transvaalensis[6]. Llysenw'r esgyrn hyn oedd "Mrs. Ples", er fod y penglog, yn y 2010au wedi'i gadarnhau i fod yn benglog dyn ifanc.
Yn ddiweddarach cadarnhawyd mai Australopithecus africanus oedd y ddau ddarganfyddiad, a newidiwyd yr enwau. Maint gwactod penglog Mrs Ples hithau yw 485 cc, a sylweddolwyd fod y gallu i gerdded ar ddwy goes wedi datblygu cyn i'r ymennydd ddatblygu. Anghytunai Athro Raymond Dart gyda hyn gan fynnu nad oedd y fath beth yn bosib.[7]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Human Evolution by The Smithsonian Institution's Human Origins Program". si.edu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2005-11-02. Cyrchwyd 2016-07-16.
- ↑ 2.0 2.1 "Australopithecus africanus". archaeologyinfo.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-06-13. Cyrchwyd 2016-07-16.
- ↑ "Raymond Dart and our African origins". uchicago.edu.
- ↑ "Biographies: Raymond Dart". talkorigins.org.
- ↑ "Primate Origins" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2008-02-27. Cyrchwyd 2016-07-16.
- ↑ K. Kris Hirst. "John T. Robinson". About.com Education. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-06-20. Cyrchwyd 2016-07-16.
- ↑ Endocranial Capacity of Early Hominids, Charles A. Lockwood, William H. Kimbel. Science 1 Ionawr 1999: Cyfrol 283 rh. 5398 t. 9