System Cyfres Oes Oes (Ma)
Cwaternaidd Pleistosenaidd Gelasaidd ifancach
Neogenaidd Plïosenaidd Piacensaidd 2.588–3.600
Sancleaidd 3.600–5.332
Mïosenaidd Mesinaidd 5.332–7.246
Tortonaidd 7.246–11.608
Serravallaidd 11.608–13.65
Langhianaidd 13.65–15.97
Bwrdigalaidd 15.97–20.43
Acwitanaidd 20.43–23.03
Paleogenaidd Oligosenaidd Cataidd hynach
Israniadau'r Cyfnod Neogen, yn ôl IUGS, fel a gaed yng Ngorffennaf 2009.

Cyfres neu 'Epoc' (symbol PO[1]) o amser daearegol ydy'r Plïosen (Saesneg: Pliocene) sy'n ymestyn o 5.33 miliwn hyd at 2.58 o flynyddoedd cyn y presennol (CP).[2]. Dyma'r ail gyfres yn y Cyfnod Neogen yn y Gorgyfnod Cenosoig.

Mae'n dilyn y gyfres Mïosen a daw'r gyfres Pleistosenaidd ar ei ôl. Mae'r 4 prif ffurfiad rhewlifol wedi digwydd oddi fewn i'r Cyfnod Plïosenaidd. Mae hefyd yn cynnwys yr Oes Gelasaidd a barodd rhwng 2.588 a 1.806 miliwn CP.

Fel gyda'r rhaniadau daearegol eraill o amser, yr hyn sy'n diffinio ei ddechrau a'i ddiwedd yw stratwm daearegol, sef haenau gwahanol o greigiau, ond amcangyfrif yw'r dyddiadau hyn, wrth gwrs. Mae'r Plïosen ychydig yn wahanol: yr hyn sy'n ei ddiffinio yw tymheredd, gyda'r Mïosen yn gynhesach. Mae diwedd y gyfres Plïosen yn cael ei ddiffinio gan ddechrau rhewlifau'r Pleistosen.

Mamaliaid yn y cyfnod hwn yng Ngogledd America.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Geologic Age Symbol Font (StratagemAge)" (PDF). USGS. 99-430. Cyrchwyd 2011-06-22.
  2. Gweler ICS 2009.