Larry Adler
Roedd Lawrence "Larry"" Cecil Adler (10 Chwefror 1914 - 6 Awst 2001) yn gerddor o'r Unol Daleithiau ac yn un o ganwyr harmonica mwyaf medrus y byd.[1]
Larry Adler | |
---|---|
Ganwyd | Lawrence Cecil Adler 10 Chwefror 1914 Baltimore |
Bu farw | 7 Awst 2001 o niwmonia Ysbyty Sant Tomos |
Man preswyl | Hampstead |
Label recordio | Audio Fidelity |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfansoddwr, actor ffilm, cyfansoddwr cerddoriaeth ffilm, harmonicist, cerddor jazz |
Arddull | jazz |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Adler yn Baltimore, Maryland yn fab Louise Adler a Sadie (née Hack) ei wraig. Roedd ei deulu yn Iddewig.
Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Uwchradd Baltimore City College. Astudiodd gerddoriaeth yng Ngholeg Cerddoriaeth Peabody, ond cafodd ei wahardd am chwarae fersiwn o'r gân boblogaidd, Yes, We Have No Bananas, yn hytrach na waltz Grieg mewn A leiaf mewn cyngerdd coleg.[2]
Priododd Eileen Walser ym 1952; bu iddynt ddwy ferch ac un mab. Wedi ysgaru ym 1957. Priododd Sally Kline ym 1959; bu iddynt un ferch. Bu hefyd yn cael perthynas all briodasol efo’r actores Ingrid Bergman[3]
Gyrfa
golyguDysgodd ei hun sut i ganu'r Harmonica.
Ym 1927 enillodd gystadleuaeth dalent yn dair ar ddeg oed am ganu miniwét gan Beethoven ar yr hyn a gafodd ei ystyried fel tegan cerddorol[4] ar y pryd.
Ym 1928 dihangodd o’i gartref cartref gan ffoi i Efrog Newydd. Yn Efrog Newydd cafodd ei waith theatr gyntaf, yn chware ran crwt tlawd yn canu ei offeryn i gardota ar y stryd.
Ymddangosodd mewn ffilm am y tro cyntaf ym 1934 yn Many happy Returns. Wedi hynny cafodd ran mewn pum ffilm arall:
- The Singing Marine (1937) yn chwarae Larry;
- The Big Broadcast of 1937
- Sidewalks of London (1938), lle chwaraeodd virtuoso harmonica o'r enw Constantine..
- Music for Millions (1944) yn chwarae Larry;
- Three Daring Daughters (1948) yn chwarae ei hun;
Cafodd ei gyflogi gan y cyfarwyddwr theatr C B Cochran i berfformio yn Llundain am y tro cyntaf ym 1934. Bu ei berfformiadau yn Llundain mor boblogaidd bu cynnydd 20 gwaith ar werthiant o harmonicâu.
Adler oedd y chwaraewyr harmonica cyntaf i berfformio gweithiau mawr a ysgrifennwyd ar gyfer yr offeryn. Ysgrifennwyd nifer ar ei gyfer: gan gynnwys
- Jean Berger Concerto ar gyfer Harmonica a Cherddorfa Caribbean (1941),
- Cyril Scott -Serenâd ar gyfer harmonica a phiano gan 1936
- Ralph Vaughan Williams - Rhamant mewn D fflat ar gyfer Harmonica piano a cherddorfa linynnol a chafodd ei berfformio gyntaf y Efrog Newydd ym 1952[5]
- Darius Milhaud - Suite Anglais (Paris, Mai 28, 1947)
- Arthur Benjamin- Harmonica Concerto (1953),
- Malcolm Arnold - Harmonica Concerto, Op. 46 (1954, a ysgrifennwyd ar gyfer The Proms).
Roedd Adler hefyd yn perfformio trawsgrifiadau o ddarnau ar gyfer offerynnau eraill, megis Bach, Vivaldi, Bartók, Beethoven, Debussy, Falla, Gershwin (Rhapsody in Blue), Mozart, Poulenc, Ravel (Boléro), Stravinsky a Walton.
Yn ystod y 1940au, ffurfiodd Adler a'r dawnsiwr, Paul Draper, act a theithiodd yn rhyngwladol, gan berfformio fel unigolion a gyda'i gilydd ym mhob perfformiad. Un rhif poblogaidd oedd I Got Rhythm gan Gershwin.
Gweithgareddau an-Americanaidd
golyguYm 1938 ffurfiwyd pwyllgor gan Dŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau i ymchwilio i weithgareddau an-Americanaidd, annheyrngar a thanseiliol honedig ar ran dinasyddion preifat, gweithwyr cyhoeddus, a'r sefydliadau hynny yr amheuir bod ganddynt gysylltiadau comiwnyddol. Ym 1947, cynhaliodd y pwyllgor naw diwrnod o wrandawiadau i bropaganda a dylanwad comiwnyddol honedig yn y diwydiant ffilmiau yn Hollywood. O ganlyniad i’r gwrandawiadau cafodd dros 300 o bobl oedd yn gweithio yn y diwydiant eu rhoi ar restr du o bobl oedd a chydymdeimlad honedig i'r chwith gwleidyddol. Nid oedd yn hawdd i’r sawl oedd eu henwau ar y rhestr i gael gwaith yn Hollywood wedyn. Rhoddwyd enw Adler ar y rhestr, a gan hynny aeth i fyw yn alltud i Lundain.[6]
Cafodd enwebiad Oscar ym 1953 am ei waith ar y trac sain y ffilm Genevieve, er hynny cafodd ei enw ei dynnu'n wreiddiol o'r credydau yn yr Unol Daleithiau o ganlyniad i restr ddu.
Gyrfa ddiweddarach
golyguWedi ei lwyddiant ar Genevive ysgrifennodd sgoriau ar gyfer nifer o ffilmiau eraill gan gynnwys A Cry from the Streets (1958), The Hellions (1961), The Hook (1963), King & Country (1964) ac A high Wind in Jamaica (1965).
Ei waith olaf oedd recordio’r deuawd "Young at Heart" gyda’r gantores Cymreig Cerys Matthews.[7]
Marwolaeth
golyguBu farw yn Ysbyty St Thomas, Llundain, yn 87 mlwydd oed, ar 7 Awst 2001[8]. Cafodd ei amlosgi yn Amlosgfa Golders Green, lle mae ei ludw yn parhau.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Barry Kernfeld, ed. (2002). "Adler, Larry". The new Grove dictionary of jazz. 1 (2nd ed.). New York: Grove's Dictionaries Inc. tud. 16. ISBN 1-56159-284-6.
- ↑ Raymond Holden, Adler, Lawrence Cecil [Larry] (1914–2001), Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, Jan 2005; online edn, Jan 2011, adalwyd 26 Medi 2017
- ↑ The Guardian Wild about Larry adalwyd 26 Medi 2017
- ↑ BBC 7 Awstt, 2001, Larry Adler: Mouth organ virtuoso adalwyd 26 Medi 2017
- ↑ The Free-Reed Journal A Living Legend: Interview With Larry Adler adalwyd 26 Medi 2017
- ↑ New York Times Larry Adler, Political Exile Who Brought the Harmonica to Concert Stage, Dies at 87 adalwyd 26 Medi 2017
- ↑ IDBM Larry Adler Biography adalwyd 26 Medi 2017
- ↑ Guardian Obituaries Larry Adler adalwyd 26 Medi 2017