Barthold Georg Niebuhr

Hanesydd a diplomydd Almaenig oedd Barthold Georg Niebuhr (27 Awst 17762 Ionawr 1831).

Barthold Georg Niebuhr
Portread o Barthold George Niebuhr.
Ganwyd27 Awst 1776 Edit this on Wikidata
Copenhagen Edit this on Wikidata
Bu farw2 Ionawr 1831 Edit this on Wikidata
Bonn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethDenmarc–Norwy, Teyrnas Prwsia, Denmarc Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethhanesydd, gwleidydd, diplomydd, academydd, economegydd, ysgolhaig clasurol, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
SwyddHistoriographer of the Prussian state Edit this on Wikidata
Cyflogwr
TadCarsten Niebuhr Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Copenhagen, yng nghyfnod Denmarc–Norwy, lle yr oedd ei dad, Carsten Niebuhr, daearyddwr Almaenig, y pryd hwnnw yn trigiannu. Yr oedd y duedd gref at ddysgu a amlygodd o'r bron o'i fabandod yn peri i'w gydnabod ei ystyried yn rhyfeddod, ac yn wahanol i lawer o blant a amlygasant y duedd hon yn foreu, yr oedd ei alluoedd i gasglu gwybodaeth yn cryfhau fel y cynyddai mewn dyddiau. Wedi cael ei addysg ragbaratoawl o dan arolygiaeth ei dad, treuliodd y blynyddoedd o 1794 i 1796 yn Mhrifysgol Kiel yn astudio'r gyfraith ac athroniaeth. Yn y cyfnod hwn fe ddaeth yn gyfarwydd â syniadaeth Immanuel Kant.[1] Ar ei ddychweliad i Ddenmarc, penodwyd ef yn ysgrifennydd i weinidog y cyllid, Ernst Heinrich von Schimmelmann. Ym 1798 aeth i Brifysgol Caeredin, lle yr ymroddodd efe yn bennaf i efrydu'r gwyddorau naturiol.

Dychwelodd i Copenhagen eto ym 1799 ac am bum mlynedd bu mewn amryw swyddi o dan lywodraeth Denmarc. Perffeithiodd ei ddealltwriaeth o faterion ariannol ac ym 1804 fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr y banc cenedlaethol.[2] Arweiniwyd ef, pa fodd bynnag, i ymneilltuo o bob swydd wladol oherwydd ei dueddiadau gwleidyddol cryfion, yr hyn a barodd iddo ymollwng gorff ac enaid dan lywodraeth teimlad o gasineb at Napoleon, oedd y pryd hwnnw wedi ymaflyd yn yr Almaenwyr. Mewn cydffurfiad â'r golygiadau hyn, aeth Niebuhr i wasanaeth gwladol Brenin Prwsia ym 1806. Yn ystod y tair blynedd nesaf bu yn gyfrannog yn y digwyddiadau yr aeth llywodraeth ei flaenor, Karl Awst von Hardenberg, drwyddynt, ar ôl brwydr anffodus a dinistriol Jena, a'r dylanwad a enillodd y gorchfygwr dros achosion Prwsia mewn canlyniad iddi.

Yr oedd agoriad prif athrofa Berlin, Prifysgol Friedrich Wilhelm, ym 1810, yn ddechreuad cyfnod newydd ym mywyd Niebuhr. Er mwyn cefnogi'r sefydliad newydd, traddododd gyfres o ddarlithiau ar hanesyddiaeth Rufeinig, pa rai, trwy wneud yn hysbys ffrwyth y ddamcaniaeth feirniadol newydd a gymhwyswyd ganddo i egluro tystiolaeth hanesyddol dywyll, a sefydlodd ei gymeriad fel un o'r rhai mwyaf gwreiddiol ac athronyddol o hanesyddion ar bynciau'r Henfyd. Drwy ei benodiad i fod yn llysgennad Prwsiaidd i Lys y Pab yn Rhufain, ym 1816—lle yr arhosodd hyd 1823—cafodd gyfleustra i brofi llawer o gwestiynau oedd yn dwyn perthynas â phethau lleol a chymdeithasol. Ar ei ddychweliad o Rufain, gwnaeth ei breswylfod yn ninas Bonn, a thraddododd yno gyfres o ddarlithiau a fu yn foddion i ddatblygu ei ystorfeydd diderfyn o ddysgeidiaeth glasurol a hynafiaethol. Ar y gwaith hwn yr oedd pan y torrodd y chwyldro allan ym 1830. Yr oedd Niebuhr ar y pryd yn egwan o ran iechyd, ac yn hawdd effeithio yn ddwys ar ei deimlad, a chymerodd yntau olwg eithafol ar ganlyniadau'r symudiad hwn, a thybiai y buasai yr un canlyniadau echrydus yn ei ddilyn a'r chwyldro cyntaf a gymerodd le yn Ffrainc, a'r canlyniad a fu iddo syrthio i iselder meddwl ac i fwy o lesgedd corfforol, yr hyn a derfynodd yn ei farwolaeth.

Yr oedd Niebuhr yn ddyn o gyraeddiadau llawer ehangach na'r cyffredin: yr oedd yn enwog fel dyn hyddysg mewn gorchwylion, yn ddiplomydd galluog, yn ysgolhaig manwl, ac yn ddyn o athrylith wreiddiol gref. Yr oedd wedi meistroli dros ugain o ieithoedd cyn bod yn 30 oed, a chyfoethogodd lenyddiaeth ei oes a'i wlad â llawer o weithiau gwerthfawr.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "Barthold Georg Niebuhr" yn Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 16 Rhagfyr 2021.
  2. (Saesneg) Barthold George Niebuhr. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2021.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.