Cacen felys Otomanaidd yw Basbousa (hefyd namoura, revani, hareseh ac enwau eraill) yn draddodiadol a darddoddsy'n dod o Dwrci, er ei bod, bellach, yn boblogaidd mewn gwledydd eraill hefyd. Fe'i gwneir o gytew semolina a'i goginio mewn padell,[1] yna'i felysu â Dŵr blodau orennau, dŵr rhosod neu surop syml, a'i dorri'n siapiau diemwnt fel arferl.

Basbousa
Mathteisen Edit this on Wikidata
Yn cynnwyssemolina Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae i'w gael yn y rhan fwyaf o ardaloedd a leolwyd ers talwm o fewn yr Ymerodraeth Otomanaidd,[2] ac mae i'w weld yng nghoglau'r Dwyrain Canol, bwyd Gwlad Groeg, bwyd Aserbaijan, bwyd Twrcaidd, a llawer o wledydd eraill.

Enwau golygu

 
Basbousa yn y Dwyrain Canol, y Balcanau a Gogledd Affrica ar ben almonau

Mae i'w gael yng ngheginau'r Dwyrain Canol, y Balcanau a Gogledd Affrica o dan amrywiaeth o enwau, gan gynnwys:[3]

  • Arabeg yr Aifft: basbūsah
  • Arabeg Libya: basbousa
  • Arabeg: هريسة harīsa (sy'n golygu stwnsh neu falu), نمورة nammoura
  • Armeneg: Շամալի shamali
  • Groeg: ραβανί (ravani), ρεβανί ( revani ), σάμαλι (samali).
  • Twrceg: revani
  • Macedoneg: (ravanija), раванија

Basbousa yw enw'r Aifft ar y pwdin hwn, ac fe'i gelwir yr un peth yng Ngogledd Affrica. Fe'i gelwir yn aml yn "hareesa" yn y Lefant, a hefyd yn Alexandria, er mewn rhannau eraill o'r Aifft mae hareesa yn fath gwahanol o bwdin. Saws coch sbeislyd yw "haressa" yng Ngogledd Affrica! Mae Basbousa yn bwdin poblogaidd ymhlith yr holl Eifftiaid; mae'n brif ddysgl draddodiadol yn yr Aifft yn Eid a Ramadan, ac i Gristnogion pan maen nhw'n ymprydio, fel y Grawys a'r Nadolig, ag y gellir ei ddarparu ar gyfer figaniaid.

 
Basbousa figanaidd (Saws afal yn lle'r wy)

Amrywiadau golygu

Mae Pastūsha (neu pastūçha) yn amrywiad o basbousa a darddodd yn Kuwait yn y 2010au. Fel basbousa, mae'n cael ei wneud o semolina wedi'i socian mewn surop melys. Fe'i nodweddir gan ychwanegu pistachios wedi'u malu'n fân a dŵr blodau orennau.

Basbousa bil ashta - amrywiad o'r Lefant o basbousa wedi'i lenwi â gwely o hufen ashta yn y canol.

Gweler hefyd golygu

  • Bwyd Arabaidd
  • Rhestr o bwdinau Twrcaidd
  • Hurma
  • Melomakarono

Cyfeiriadau golygu

  1. "Arabic Dessert". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-08. Cyrchwyd 2015-01-14.
  2. Marks, Gil (17 November 2010). Encyclopedia of Jewish Food. HMH. ISBN 978-0-544-18631-6.
  3. Abitbol, Vera (2019-09-25). "Syria: Basbousa". 196 flavors (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-10-04.

Darllen pellach golygu