Biocemeg

(Ailgyfeiriad o Biocemegydd)

Biocemeg, neu weithiau cemeg biolegol, yw'r astudiaeth o brosesau cemegol o fewn organebau byw. Mae llawer o'r astudiaeth yn ymwneud â phroteinau, carbohydradau, asidau niwclëig, lipidau, a'u ymadweithiau.[1]

Biocemeg
Enghraifft o'r canlynolgwyddoniaeth ryngddisgyblaethol, cangen o fewn cemeg, cangen o fywydeg, disgyblaeth academaidd Edit this on Wikidata
Mathbywydeg, cemeg organig Edit this on Wikidata
Rhan ocemeg, bywydeg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r prosesau biocemegol hyn yn cynnwys rheoli gwybodaeth drwy signalu a thrwy reoli llif yr egni drwy fetabolaeth, ac yn gyfrifol am fywyd yr organebau a chyfoeth yr amrywiaeth bywyd ar y Ddaear. Yn ystod degawd ola'r 20g, gwelwyd twf aruthrol yn y maes hwn, a gwelwyd biocemeg yn datblygu o fewn pob adran o wyddorau gwybyddiaeth (life sciences)[2]: botaneg, meddygaeth, geneteg ayb, a phob un yn ymwchwilio'n fanwl i fiocemeg o fewn eu gwyddor hwy.[3] Heddiw, yn 2017, prif ganolbwynt y gwaith yw'r ymgais i geisio deall sut y mae moleciwlau biolegol yn arwain at brosesau o fewn celloedd organebau byw,[4] gwaith sy'n berthnasol iawn i'r astudiaeth o feinweoedd, organau a'r organeb yn ei gyfanrwydd.[5]—hynny yw, popeth o fewn maes bioleg.

Strwythur DNA 1D65[6]

Cymry blaenllaw yn y maes golygu

Un o'r bobl mwyaf blaenllaw yn y maes hwn yw'r Fonesig Athro Jean Thomas FRS (Caergrawnt).

Cyfeiriadau golygu

  1. "Biochemistry". acs.org.
  2. "Termau Addysg Uwch y Coleg Cymraeg; www.colegcymraeg.ac.uk;". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-29. Cyrchwyd 2017-04-26.
  3. Voet (2005), t. 3.
  4. Karp (2009), t. 2.
  5. Miller (2012), t. 62
  6. Gwefan rcsb.org; adalwyd 26 Ebrill 2017.