Llywarch ap Llywelyn
Un o'r mwyaf o'r beirdd llys Cymraeg a adnabyddir fel Beirdd y Tywysogion oedd Llywarch ap Llywelyn, y cyfeirir ato hefyd wrth ei enw barddol Prydydd y Moch (fl. 1173 - 1220). Fe'i cysylltir â llys Teyrnas Gwynedd yn nheyrnasiad Dafydd ab Owain Gwynedd a Llywelyn Fawr. Roedd yn fardd cenedlaetholgar iawn ac mae ei gefnogaeth frwd i bolisi Llywelyn Fawr o uno Cymru yn elfen amlwg yn ei farddoniaeth.[1]
Llywarch ap Llywelyn | |
---|---|
Ganwyd | 12 g Cymru |
Bu farw | 1220 |
Galwedigaeth | bardd |
Blodeuodd | 1173 |
Plant | Dafydd Benfras |
Bywgraffiad
golyguYchydig iawn o wybodaeth sydd gennym am y bardd ar wahân i dystiolaeth ei gerddi. Mae'n debygol iawn mai brodor o gwmwd Is Dulas yng nghantref Rhos, yn y Berfeddwlad, oedd Llywarch. Mae Arolwg Arglwyddiaeth Dinbych a wnaed yn 1334 yn cofnodi 'Gwely Prydydd y Moch' (ystyr 'gwely' yw "tir"). Mae'n bosibl y cafodd y bardd y tir fel nawdd gan Llywelyn Fawr. Cofnodir 'Melin Prydydd y Moch' hefyd, a byddai'r bardd yn derbyn ffioedd sylweddol am gael malu ŷd ffermwyr yr ardal.[1]
Mae ei ffugenw 'Prydydd y Moch' yn cael ei ddadansoddi mewn sawl ffordd. Mae'n bosibl ei fod yn deillio o linellau herfeiddiol iawn mewn cerdd bygwth i Gruffudd ap Cynan ab Owain Gwynedd lle mae'n cymharu canu i'r tywysog hwnnw i "heu rhag moch merierid" ('taflu perlau i'r moch', cyfeiriad amlwg at yr adnod Beiblaidd yn Efengyl Mathew). Posiblrwydd arall yw mai meichiad - un sy'n cadw moch - oedd y bardd yn ei ieuenctid, cyn iddo ymddyrchafu yn fardd. Yn ardal Llangernyw cofnodir 'Gafael Prydydd y Moch' ('gafael'="tir") hefyd (cofnodir yn Llyfr Coch Asaph a ffynonellau eraill).[1]
Nid yw'n amhosibl fod y bardd Dafydd Benfras, a'i olynodd fel pencerdd llys Gwynedd, yn fab iddo.
Cerddi
golyguCedwir 19 awdl o waith y bardd, cyfanswm o 1,318 o linellau, ac 11 cyfres o englynion (462 llinell). Mae hyn yn gorff o ganu sy'n ail yn unig i waith Cynddelw Brydydd Mawr. Ceir sawl cerdd i dywysogion ac arglwyddi Gwynedd, sef Dafydd ab Owain Gwynedd, Rhodri ab Owain Gwynedd, Gruffudd ap Cynan ab Owain Gwynedd, Maredudd ap Cynan o Wynedd, Hywel ap Gruffudd o Feirionnydd, Gruffudd ap Hywel a Gruffudd ap Llywelyn: ond ei waith amlycaf yw ei ganu i'w noddwr pwysicaf Llywelyn Fawr. Mae'r canu hwn yn cynnwys 'Y Canu Mawr' ac 'Y Canu Bychan', lle gwelir cenedlgarwch y bardd a'i deyrngarwch at Lywelyn ar ei grymusaf.[1]
Canodd hefyd i Fadog ap Gruffudd Maelor o Bowys, Iorwerth ap Rhotbert o Arwystli, a Rhys Gryg o Ddeheubarth. Yr unig gerddi ganddo ar glawr sy ddim yn gerdd fawl neu farwnad i noddwyr yw ei awdl foliant i Gwenllïan ferch Hywel o Wynllŵg ac 'Awdl yr Haearn Twym'.[1]
Llyfryddiaeth
golyguMae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
- Gwaith Llywarch ap Llywelyn, gol. Elin M. Jones (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1994). Y golygiad safonol o waith y bardd, yng 'Nghyfres Beirdd y Tywysogion'.
Cyfeiriadau
golygu