Brwydr y Grysmwnt

brwydr rhwng Owain Glyn Dŵr a milwyr Harri V, brenin Lloegr

Brwydr rhwng un o gapteiniaid Owain Glyn Dŵr, sef Rhys Gethin, a milwyr Harri V, brenin Lloegr oedd Brwydr y Grysmwnt, a ymladdwyd yn 1405. Saif Castell y Grysmwnt ger pentref o'r un enw (Cyfeirnod OS: SO4024) yng ngogledd eithaf Sir Fynwy, 10 milltir i'r gogledd o Drefynwy, o fewn tafliad carreg â'r ffin rhwng Sir Fynwy a Swydd Henffordd yn Lloegr.

Brwydr y Grysmwnt
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
DyddiadMawrth 1405 Edit this on Wikidata
LleoliadCastell y Grysmwnt Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Brwydrau rhwng y Cymry a'r Eingl-Normaniaid

Cododd Rhys Gethin fyddin o tua 10,000 o filwyr a llwyddodd i losgi'r dref - y tryddydd mwyaf yn ne Cymru ar y pryd.

Danfonodd brenin Lloegr, sef Harri V fyddin gan gynnwys John Talbot, John Talbot, Iarll 1af Amwythig, Syr William Newport a Syr John Greynder a fartsiodd o Henffordd gan drechu'r Cymry. Lladdwyd rhwng 800 a 1,000 ohonyn nhw. Cymerwyd Owain ap Gruffydd ap Rhisiart, Ysgrifennydd Owain Glyn Dŵr a'i frawd-yng-nghyfraith John Hanmer yn garcharorion ac aethpwyd a nhw i Dŵr Llundain.

Gweler hefyd

golygu