Brwydr Cwnsyllt

brwydr rhwng Owain Gwynedd a byddin enfawr Harri II, brenin Lloegr ym 1157
(Ailgyfeiriad o Brwydr Bryn y Glo)

Brwydr a chyflafan rhwng Owain Gwynedd a byddin enfawr Harri II, brenin Lloegr ym mis Gorffennaf 1157 oedd Brwydr Cwnsyllt (neu 'Frwydr Bryn y Glo', 'Brwydr Coed Ewloe' neu 'Frwydr Coed Penarlâg'),[1] gyda'r Cymry'n fuddugol.

Brwydr Cwnsyllt
Enghraifft o'r canlynolbrwydr Edit this on Wikidata
Dyddiad1157 Edit this on Wikidata
Rhan oYmosodiad y Normaniaid ar Gymru Edit this on Wikidata
LleoliadEwlo Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Diagram lleoliad, gan ddefnyddio nodweddau modern i leoli'r maes y gad tebygol (Coed Cwnsyllt uwchlaw Nant y Fferm)

Cwmwd yng ngogledd-ddwyrain Cymru ar lan aber afon Dyfrdwy oedd Cwnsyllt (Saesneg: Coleshill). Gyda chymydau Prestatyn a Rhuddlan, roedd yn rhan o gantref Tegeingl. Digwyddodd y frwydr yma, ar safle ger Bryn y Glo, yn 1157 a dihangodd brenin Lloegr o'r gyflafan trwy groen ei ddannedd.

Brwydr rhwng byddin enfawr Harri II, a'r Tywysog Owain Gwynedd ydoedd; ni wyddus yn union faint o filwyr oedd yn y naill fyddin na'r llall, ond credir, efallai fod cymaint â 3,000 o ddynion ym myddin Owain ac efallai 4 gwaith hynny ym myddin y Norman. Er hyn, llwyddodd y fyddin Gymraeg i drechu'r Normaniaid.

Trechwyd llynges Brenin Lloegr tua'r un pryd ym Môn gan y Cymry lleol a lladdwyd Henry Fitz Roy. Credai'r hanesydd J. E. Lloyd mai hwylio o Benfro i Ruddlan oedd y bwriad, ond i Fitz Roy benderfynu ymosod ar Fôn ar y ffordd, gan reibio a llosgi dwy eglwys: Llanbedrgoch a Llanfair Mathafarn Eithaf. Lladdwyd Fitz Roy gan y Cymry, a dihangodd y rhai a oedd yn weddill yn ôl i'w llongau.

Yn yr un flwyddyn, ymosododd y Normaniaid ar Rhys ap Gruffudd, Brenin y Deheubarth.

Y frwydr golygu

Cododd milwyr Owain wersyll ger Abaty Dinas Basing, tua 12 milltir o Saltney yng ngogledd-ddwyrain Cymru, a danfonwyd rhan o'i fyddin o dan arweiniad dau o'i feibion i Goed Ewloe i guddio a pharatoi ar gyfer rhagod. Am ryw reswm, teithiodd y fyddin Saesnig drwy'r coed ac ymosododd y Cymry gan ladd nifer ohonynt. Cael a chael oedd hi i Harri fedru ffoi gyda'i fywyd.[2]

Manylion yn nhrefn amser golygu

  • 17 Gorffennaf 1157: Harri II, brenin Lloegr yn cynnal cyngor brenhinol yn Northampton, lle cytunwyd i geisio goresgyn tiroedd y brenin Owain Gwynedd.
  • 24 Mehefin: cofnododd Robert de Torigni i Harri II baratoi ar gyfer cyrch ar ogledd-ddwyrain Cymru, gyda gorfodaeth 'y dylai pob dau farchog ymarfogi trydydd marchog er mwyn ymosod ar fôr a thir.'[3]
  • Diwedd Gorffennaf 1157: ymgasglodd y fyddin Normanaidd yn Saltney Marsh, i'r gorllewin o Gaer (Saltney heddiw), gyda Harri II yn bresennol.
  • Yr un pryd crynhodd Owain Gwynedd a'i feibion Dafydd a Cynan y Fyddin Gymreig yn 'Ninas Basing' (o bosib ger Abaty Dinas Basing) gan godi amddiffynfa gref o'u cwmpas (gweler yr Annales, RBH a Peniarth MS 20). Awgryma rhai haneswyr fod 'Dinas Basing' yn cyfeirio at ' Hen Blas'.
  • Holltodd Harri ei fyddin yn ddwy ran; aeth nifer fawr o farchogion ar hyd yr arfordir, ac aeth y gweddill, gan gynnwys ef ei hun ymlaen i ymosod ar fyddin Owain drwy goed Penarlâg ('coed Pennardlaoc' yn ôl Peniarth MS). Credir, bellach, mai Coed Cwnsyllt (Bryn y Glo) oedd y lleoliad.
  • Cofnoda'r Annales Cambriae stori wahanol: i'r brenin a'i fyddin gyfan deithio ar hyd yr arfordir cyn troi tua'r tir a thuag at y coed rhyngddo a byddin Owain yn ‘Dinas Basing’. Noda Gerallt Gymro mai enw'r coed oedd 'Coed Coleshill'.
  • Mae mwyafrif y croniclau perthnasol yn nodi i Harri gael ei ragodi gan y Fyddin Gymreig wrth iddo deithio drwy'r coed. Noda William of Newburgh a Jocelin de Brakelond fod 4 o brif filwyr gyda'r brenin, a'u milwyr a'u marchogion arfog hy nid gwŷr traed yn unig.[4]
  • Dafydd a Cynan oedd arweinwyr y rhan o'r fyddin a oedd yn cuddio yn y coed; noda'r croniclau hefyd i'r Normaniaid gael colledion 'enfawr'.
  • Yn ôl Brenhinedd y Saeson, erlidiwyd y Normaniaid gan Dafydd ap Owain, gan eu 'lladd a'u llofruddio' yr holl ffordd, hyd at yr afon yng Nghaer. Mae hyn yn cydfynd gyda cherdd gan Cynddelw Brydydd Mawr.
  • Enwir dau o'r prif farchogion a laddwyd: Eustace fitz John, cwnstabl Caer a Robert de Courcy.
  • Nodir i Henry o Essex, llumanwr brenin Lloegr, daflyd prif faner y brenin i'r llawr, gan gredu ei fod yn farw.
  • Symudodd Owain ei ran ef o'i fyddin o 'Dinas Basing' i 'Gil Owain', i'r de o Lanfair Talhaearn, a oedd ym mhlwyf Llanelwy, ac oddi yno i'r de o Fodelwyddan.[5]

Yn dilyn y frwydr golygu

nid oes cofnod o faint oedd yn y naill fyddin na'r llall, ac ni wyddus faint a laddwyd. Gwyddus, fodd bynnag, fod llawer iawn o fyddin y Normaniaid wedi eu lladd.

Cyhuddodd Robert de Montfort lumanwr brenin Lloegr, Henry o Essex, o frad a llwfrdra a chollodd ei safle a'i dir gan fyw mewn mynachdy wedi hynny.

Lleoliad 'Dinas Basing' golygu

Ceir dau bosibilrwydd:

  1. Abaty Dinas Basing yn Nhreffynnon. Dyma'r lleoliad a nodir gan J. E. Lloyd a Cathcart-King; nid yw mor debygol, erbyn heddiw, a'r ail leoliad.
  2. SJ 222 734 - ym Mhlwyf Cwnsyllt - tua tair cilometr i'r de-ddwyrain o Dreffynnon; un km i'r de o Fagillt. Yn 1157 roedd yma gastell mwnt a beili a chapel, o fewn ffosydd amddiffynnol. Mae llethrau serth naturiol y nant yn amddiffyn gogledd, de a dwyrain y gaer hon.

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan www.cylchgronaucymru.llgc.org.uk; Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  2. "Gwefan Balchder Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-06-01. Cyrchwyd 2012-09-22.
  3. Welsh Battlefields, Historical Research: Coleshill (1157); Border Archaeology.
  4. D.J. Cathcart King, Henry II and the Fight at Coleshill, Welsh History Review Cyfr. 2 (1964-5), 372.
  5. Brut y Tywysogion: Llyfr Coch Hergest, gol. & traws. T. Jones (Caerdydd 1973), 135-6.
  • J.E. Lloyd, A History of Wales from the earliest times to the Edwardian Conquest, 2 gyfrol (Llundain 1939), II, 494-5.
  • R.R. Davies, The Age of Conquest: Wales 1063-1415 (Rhydychen 2000), 48-50