Brwydr Mynydd Camstwn
Ymladdwyd Brwydr Gallt Campston neu Frwydr Mynydd Camstwn, ger Y Grysmwnt (Cyfeirnod OS: SO362224) fwy na thebyg ar 10 Mehefin 1405[1] rhwng byddin Owain Glyn Dŵr, Tywysog Cymru, a byddin Harri V, brenin Lloegr dan arweiniad Iarll Warwick. Lladdwyd nifer o Gymry, gan gynnwys Elis ap Richard ap Howell ap Morgan Llwyd, Cludwr Baner Glyn Dŵr wrth i Fyddin Cymru ddianc o faes y gad. Llwyddodd y Saeson i gael y llaw uchaf a throedle arall yn Sir Fynwy.
Math o gyfrwng | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 10 Mehefin 1404 |
Lleoliad | Y Grysmwnt |
Gwladwriaeth | Teyrnas Lloegr |
Rhanbarth | Sir Fynwy |
Ceir cyfeiriad at y frwydr yng Nghroniclau Owain Glyn Dŵr a sgwennwyd gan y bardd Gruffudd Hiraethog rhwng 1556 a 1564: Yn yr un flwyddyn hono y bv y lladdfa ar gymru ar vynydd kamstwm.[2]
Ceir disgrifiad gan Harry (a ddaeth yn ddiweddarach yn frenin) at ei dad (Harri IV, brenin Lloegr), ond mae'n rhaid ei ddarllen gyda phinsiad reit fawr o halen, gan ei fod yn chwyddo'r disgrifiadau o'i fyddin ei hun. Disgrifia symudiad y byddinoedd cyn y frwydr yn eitha manwl. Dywed, 'ar 11 Mawrth, daeth cynrychiolwyr o'r Fyddin Gymreig o rannau o Forgannwg, Brynbuga a Gwent, 8,000 i gyd gan losgi ar y diwrnod hwnnw dref y Grosmwnt, o fewn Arglwyddiaeth Mynwy a Jenvoia'. Felly, digwyddodd y frwydr yn union wedi i'r Fyddin Gymreig gipio Castell y Grysmwnt.
Arweiniwyd y Saeson gan Gilbert Talbot, Syr William Newport a Syr John Greyndor, a cheir tystiolaeth fod marchogion brenin Lloegr, mewn arfwisgoedd. Ymddengys fod ymddangosiad y Saeson yn ddirybudd i'r Cymry, a oedd wrthi'n anrheithio'r dref; nid oeddent yn eu disgwyl. Cafwyd brwydr fer, a ffodd y Cymry oddi yno.
Cefndir
golyguDrwy 1404-5 ymosododd y Cymry yn eitha rheolaidd ar dde Swydd Henffordd, gan greu anhrefn a llanast yno. Daliai'r Saeson eu gafael ar gastell y Fenni, Sir Fynwy, a nifer o gestyll eraill gan gynnwys Trefynwy, Brynbuga, y Grysmwnt, Ynysgynwraidd a Chastell Gwyn, ond roedd y tiroedd o'u cwmpas yn cael ei reoli gan y Cymry, a gellir ystyried de Cymru yn y cyfnod hwn, o ran y cestyll Seisnig hyn, yn un gwarchae anferthol.
Wedi'r frwydr
golyguYchydig wedi'r frwydr hon, ym Mai cafwyd cyflafan Pwll Melyn. Fodd bynnag, enillodd y Cymry un o'u brwydrau pwysicaf: Brwydr Craig-y-dorth, un filltir i'r gogledd-ddwyrain o eglwys Cwmcarfan, Sir Fynwy.[3]
Lleoliad
golyguMae'n bur debyg fod maes y gad ar y llwybr sy'n ymestyn o Henffordd i Langiwa dros grib Mynydd Camstwn i Llanfihangel Crucornau ac i'r Fenni. Fe'i lleolir tua 3 km i'r de-orllewin o'r Grysmwnt ac 8 km i'r gogledd-ddwyrain o'r Fenni (NGR SO 362 224).[4] Archwiliwyd yr ardal yn y 2010au ond ni chafwyd hyd i olion y frwydr.
Darllen pellach
golygu- J.E.Lloyd, Owain Glyndwr, 1931, t.87.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ meysyddbrwydro.cbhc.gov.uk; Adroddiad i Lywodraeth Cymru gan Chris E Smith; adalwyd 18 Awst 2018.
- ↑ [NLW Peniarth MS 135. Cyhoeddwyd y testun gan J.E. Lloyd, Owen Glendower (Rhydychen, 1931), 152 (Yn yr un flwyddyn hono y bv y lladdfa ar gymru ar vynydd kamstwm)
- ↑ meysyddbrwydro.cbhc.gov.uk; adalwyd 8 Mehefin 2018.
- ↑ D.H. Williams, White Monks in Gwent and the Border (Pont-y-pŵl, 1976), t36.