Bryn Euryn
Saif Bryn Euryn fymryn i'r gorllewin o Landrillo-yn-Rhos, tua milltir a hanner i'r gogledd-orllewin o Fae Colwyn, ym mwrdeistref sirol Conwy; cyfeiriad grid SH832798. Mae'n fryn 131 medr o uchder a goronir gan fryngaer.
Math | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 12.23 ha |
Cyfesurynnau | 53.303119°N 3.756095°W |
Cod OS | SH8322079847 |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 15metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.
Wrth droed Bryn Euryn ceir Llys Euryn, safle llys canoloesol a fu'n perthyn i ystad Ednyfed Fychan, distain Llywelyn Fawr. Gellir cyrraedd y gaer trwy ddilyn llwybr trwy'r coed o'r maes parcio ger yr hen lys.
Dosbarthiad
golyguDosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 131 metr (430 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 8 Mehefin 2009.
Y fryngaer
golyguCodwyd caer ar ben y bryn yn Oes yr Haearn. Does dim tystiolaeth archaeolegol iddi gael ei defnyddio yng nghyfnod y Rhufeiniaid, ond ymddengys i'r hen gaer gael ei hatgyweirio ar ddechrau'r cyfnod ôl-Rufeinig, mor gynnar â'r 5g efallai, a chael ei defnyddio fel amddiffynfa.[2] Mae traddodiad[3] yn ei chysylltu â'r Brenin Maelgwn Gwynedd (tua 480-547) a atgyfnerthodd Gaer Ddegannwy, rhai milltiroedd i'r gorllewin, ar ddechrau'r 6g.
Ar y copa ceir olion dwy gorlan amddiffynnol, mewnol ac allanol, ac olion adeiladau hirsgwar sydd i'w dyddio i'r Oesoedd Canol cynnar. Hefyd o'r cyfnod hwnnw, ceir gweddillion dau gwningar crwn.[4]
Roedd hyn yn lleoliad strategol pwysig sy'n amddiffyn y mynediad i'r Creuddyn ac Afon Conwy ar hyd yr arfordir o gyfeiriad y dwyrain.
Cofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: DE071.[5] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ “Database of British and Irish hills”
- ↑ Helen Burnham, Clwyd and Powys, cyfres Ancient and Historic Wales (HMSO, 1995), tud. 53
- ↑ Thomas Pennant, Teithiau yng Nghymru, tud. 444.
- ↑ Clwyd and Powys, tud. 54
- ↑ Cofrestr Cadw.
Dolennau allanol
golygu- Clwb Mynydda Cymru
- Lleoliad ar wefan Streetmap Archifwyd 2016-03-06 yn y Peiriant Wayback
- Lleoliad ar wefan Get-a-map Archifwyd 2012-09-30 yn y Peiriant Wayback