Mae Bryn y Briallu (Saesneg: Primrose Hill) yn fryn 256 troedfedd (78 m) ar ochr ogleddol Regent's Park yng ngogledd Llundain, Lloegr, ble ceir golygfa wych dros Lundain. Hwn yw'r bryn agosaf i ardal Soho, cartref Iolo Morganwg gynt ac i'w gyfoeswr William Blake. Yma ym 1792 y cynhaliwyd Gorsedd y Beirdd gyntaf Iolo Morganwg. Dewiswyd Alban Hefin neu Hirddydd Haf, sef canol haf, ar gyfer seremoni gyntaf Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Roedd y seremoni yn defnyddio deuddeg carreg o'i boced. Wedyn daeth Derwyddon Seisnig i'r lle a dechrau'r 'Primrose Hill Druids', y grwp neo-baganaidd sy'n dal i fynychu Côr y Cewri ar Alban Hefin, ond yn dychwelyd i Fryn y Briallu ym mis Medi bob blwyddyn i ddathlu y cyhydnos.

Bryn y Briallu
Mathbryn, parc Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Llundain Camden
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Uwch y môr65 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.5396°N 0.1608°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ282838 Edit this on Wikidata
Cod postNW1, NW3, NW8 Edit this on Wikidata
Map
Golygfa o ben Bryn y Briallu

Adferwyd y briallu i'r bryn yn 2008, ac anrhydeddwyd Iolo Morganwg gan Orsedd Beirdd Ynys Prydain ym Mehefin 2009; gosodwyd carreg yno a chynhaliwyd seremoni'r Orsedd i gofio diwrnod sefydlu'r Orsedd. Cadeirwyd y seremoni gan Huw Edwards.

 
Cofeb Iolo Morganwg

Mae gan y bryn ei le yn hanes Gorsedd y Beirdd. Cynhaliwyd gorsedd gyntaf o'r Beirdd Iolo Morganwg yma ar 21 Mehefin 1792, ar Alban Hefin. Roedd y seremoni yn defnyddio deuddeg carreg o boced Iolo. Yma y clywyd am y tro cyntaf yn gyhoeddus yr ymadrodd "yn llygad haul a wyneb goleuni" ac yma hefyd y gwelwyd gyntaf roi'r cleddyf noeth yn y wain fel arwydd o heddwch. Cynhaliwyd ail seremoni gan Iolo ar 22 Medi yn yr un flwyddyn. Gwgai'r awdurdodau at y gweithgareddau hyn. Roedd Iolo yn heddychwr a gweriniaethwr ac yn un o'r rhai a safodd yn gyhoeddus yn erbyn y rhyfel â Ffrainc ac o blaid y Chwyldro Ffrengig. Mewn canlyniad, gwaharddwyd Iolo Morganwg rhag cynnal rhagor o'i orseddau ar Fryn y Briallu.[1]

Fel Regent's Park i lawr y bryn, mae Bryn y Briallu yn rhan o'r Parciau Brenhinol ers 1841. Mae'r maesdref gerllaw yn dyddio o'r cyfnod Fictoraidd. Mae Bryn y Briallu yn un o ardaloedd ffasiynol Llundain erbyn heddiw ond mae awyrgylch 'pentref dinesig' yn parhau. Ym mis Hydref 1678 llofruddiwyd Edmund Berry Godfrey ar y bryn.

Mae Bryn y Briallu yn ymddangos mewn cerdd gan William Blake:

"...The fields from Islington to Marylebone
To Primrose Hill and Saint John's Wood
Were builded over with pillars of gold
And there Jerusalem's pillars stood..."

Dringodd Blake i ben Bryn y Briallu a honnodd iddo gael sgwrs gydag 'Ysbryd yr Haul". Credodd Blake y byddai un o bileri'r Teml Caersalem Newydd yn sefyll ar y Bryn.

Dwy filltir i ffwrdd mae Poland Street, Soho, lle roedd Iolo Morgannwg a Blake yn byw a chymdeithasu ar un adeg.

Bryn y Briallu - Llên, Teledu, Ffilm a Chân

golygu
  • Mae'r cymeriad enwog Martha Jones yn cyrraedd y Ddaear yna hefyd yn y rhaglen Doctor Who yn y bennod, The Sound of Drums. Cymro wrth gwrs yw'r awdur Russell T. Davies
  • Mae Billy Bragg yn sôn am "seeing Angels up on Primrose Hill' yn ei gân 'Upfield' "I dreamed I saw a tree full of angels, up on Primrose Hill". Cyfaddefodd iddo fod o dan dylanwad William Blake.
  • Primrose Hill, enw nofel gan Helen Falconer. Faber a Faber, Llundain, 1999.
  • Yn llyfr H. G. Wells' The War of the Worlds, dyma wersyll y Marsianaid.
  • Yn ffilm Dodie SmithThe Hundred and One Dalmatians, mae'r teulu Dearly yn byw yn lleol, Regent's Park's Outer Circle, a'r Bryn yn gyfleus iawn i'r ci Pongo.
  • Cenir am Fryn y Briallu mewn cân Blur sef For Tomorrow. Peintwyd y geiriau "and the view's so nice", o'r gân ar y llwybr yn arwain i ben Bryn y Briallu
  • Crybwyllir Bryn y Briallu yn y sengl gan Appleton, Everything Eventually, a'r llinell "Let's go fly a kite on Primrose Hill". Ffilmiwyd ar y Bryn gan lawer o fandiau a ffilmiau diweddar e.e. Oasis, Red Hot Chili Peppers a Madness

Trigolion Enwog

golygu

Cysylltir nifer o enwogion â'r Bryn, gan gynnwys:

Cysylltiad â Chymru

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Melville Richards, 'Eisteddfod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg', Twf yr Eisteddfod (Llys yr Eisteddfod Genedlaethol, 1968), tud. 30.

Gweler hefyd

golygu

Dolenni allanol

golygu