Bwrdeistref Darlington
awdurdod unedol yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Swydd Durham, Gogledd-ddwyrain Lloegr, yw Bwrdeistref Darlington (Saesneg: Borough of Darlington). Mae'r awdurdod unedol yn rhan o Awdurdod Cyfun Cwm Tees, gyda Bwrdeistrefi Hartlepool, Middlesbrough, Redcar a Cleveland, a Stockton-on-Tees.
Math |
awdurdod unedol, bwrdeisdref ![]() |
---|---|
| |
Ardal weinyddol | Swydd Durham |
Prifddinas |
Darlington ![]() |
Poblogaeth |
106,566 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Swydd Durham (Sir seremonïol) |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
197.4758 km² ![]() |
Cyfesurynnau |
54.5167°N 1.55°W ![]() |
Cod SYG |
E06000005 ![]() |
GB-DAL ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol |
Cyngor Bwrdeistref Darlington ![]() |
![]() | |
Mae gan yr ardal arwynebedd o 197 km², gyda 106,803 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Stockton-on-Tees i'r dwyrain, awdurdod unedol Swydd Durham i'r gogledd, a Gogledd Swydd Efrog i'r de.
Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974.
Rhennir y fwrdeistref yn 24 o blwyfi sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Darlington, lle mae ei phencadlys.
Gweler hefydGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ City Population; adalwyd 13 Gorffennaf 2020