Bwrdeistref Stockton-on-Tees

awdurdod unedol yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr

Awdurdod unedol yng Ngogledd-ddwyrain Lloegr yw Bwrdeistref Stockton-on-Tees (Saesneg: Borough of Stockton-on-Tees). Fe'i rhennir gan Afon Tees yn rhan ogleddol yn sir seremonïol Swydd Durham a rhan ddeheuol yn sir seremonïol Gogledd Swydd Efrog. Mae'r rhan yn Swydd Durham yn fwy. Mae'r awdurdod unedol yn rhan o Awdurdod Cyfun Cwm Tees gyda Bwrdeistrefi Darlington, Hartlepool, Middlesbrough a Redcar a Cleveland.

Bwrdeistref Stockton-on-Tees
Mathardal awdurdod unedol yn Lloegr, bwrdeisdref Edit this on Wikidata
PrifddinasStockton-on-Tees Edit this on Wikidata
Poblogaeth199,966 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1996 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Durham
Gogledd Swydd Efrog
(Siroedd seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd204.9625 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.55°N 1.33°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE06000004 Edit this on Wikidata
GB-STT Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of Stockton-on-Tees Borough Council Edit this on Wikidata
Map

Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 204 km², gyda 197,348 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Hartlepool ac awdurdod unedol Swydd Durham i'r gogledd, Bwrdeistref Darlington i'r gorllewin, Ardal Hambleton i'r de, a Bwrdeistref Middlesbrough i'r dwyrain.

Y rhan o Fwrdeistref Stockton-on-Tees yn Swydd Durham
Y rhan o Fwrdeistref Stockton-on-Tees yng Ngogledd Swydd Efrog

Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974, fel un o'r pedair ardal an-fetropolitan dan reolaeth cyngor sir Cleveland, ond daeth yn awdurdod unedol, sy'n annibynnol ar y sir, ar 1 Ebrill 1996.

Rhennir y fwrdeistref yn 19 o blwyfi sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Stockton-on-Tees, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys trefi Billingham, Eaglescliffe, Ingleby Barwick, Thornaby-on-Tees a Yarm.

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 23 Gorffennaf 2020