Bwrdeistref Hartlepool
Awdurdod unedol yn sir seremonïol Swydd Durham, Gogledd-ddwyrain Lloegr, yw Bwrdeistref Hartlepool (Saesneg: Borough of Hartlepool). Mae'r awdurdod unedol yn rhan o Awdurdod Cyfun Cwm Tees, gyda Bwrdeistrefi Darlington, Middlesbrough, Redcar a Cleveland, a Stockton-on-Tees.
Math |
awdurdod unedol, bwrdeisdref ![]() |
---|---|
| |
Ardal weinyddol | Swydd Durham |
Poblogaeth |
93,242 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Swydd Durham (Sir seremonïol) |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
93.5595 km² ![]() |
Cyfesurynnau |
54.68639°N 1.21083°W ![]() |
Cod SYG |
E06000001 ![]() |
GB-HPL ![]() | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol |
Cyngor Bwrdeistref Hartlepool ![]() |
![]() | |
Mae gan yr ardal arwynebedd o 93.3 km², gyda 93,663 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio awdurdod unedol Swydd Durham i'r gogledd-orllewin, Bwrdeistref Stockton-on-Tees i'r de, a Môr y Gogledd i'r gogledd-ddwyrain.
Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974, fel un o'r pedair ardal an-fetropolitan dan reolaeth cyngor sir Cleveland, ond daeth yn awdurdod unedol, sy'n annibynnol ar y sir, ar 1 Ebrill 1996.
Rhennir y fwrdeistref yn wyth plwyf sifil, gydag ardal di-blwyf sy'n cynnwys tref Hartlepool, lle mae ei phencadlys.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ City Population; adalwyd 13 Gorffennaf 2020