Bwrdeistref Middlesbrough

awdurdod unedol yng Ngogledd Swydd Efrog

Awdurdod unedol yn sir seremonïol Gogledd Swydd Efrog, Gogledd-ddwyrain Lloegr, yw Bwrdeistref Middlesbrough (Saesneg: Borough of Middlesbrough). Mae'r awdurdod unedol yn cynnwys tref fawr Middlesbrough, a mae'n rhan o Awdurdod Cyfun Cwm Tees, gyda Bwrdeistrefi Darlington, Hartlepool, Redcar a Cleveland, a Stockton-on-Tees.

Bwrdeistref Middlesborough
Mathardal awdurdod unedol yn Lloegr, bwrdeisdref Edit this on Wikidata
PrifddinasMiddlesbrough Edit this on Wikidata
Poblogaeth148,285 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGogledd Swydd Efrog
(Siroedd seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd53.8888 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.573°N 1.238°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE06000002 Edit this on Wikidata
GB-MDB Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholcouncil of Middlesbrough Borough Council Edit this on Wikidata
Map

Mae gan yr awdurdod unedol arwynebedd o 53.9 km², gyda 140,980 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Fwrdeistref Redcar a Cleveland i'r dwyrain, Ardal Hambleton i'r de, a Bwrdeistref Stockton-on-Tees i'r gorllewin a'r gogledd.

Awdurdol unedol Bwrdeistref Middlesbrough yng Ngogledd Swydd Efrog

Daeth Middlesbrough yn fwrdeistref sirol yn Riding Gogleddol Swydd Efrog yn 1889. Yn 1968 daeth y fwrdeistref yn rhan o Fwrdeistref Sirol Teesside, a daeth yn rhan o sir Cleveland ar 1 Ebrill 1974. Diddymwyd Cleveland ar 1 Ebrill 1996, a daeth Middlesbrough yn awdurdod unedol yn sir seremonïol Gogledd Swydd Efrog.

Mae'r fwrdeistref yn cynnwys canol tref Middlesbrough, yn ogystal â maestrefi fel Linthorpe, Acklam, a Coulby Newham. Mae'n gorwedd yn rhan isaf Cwm Tees, tua phum milltir o aber y Tees, a mae'r Bryniau Eston yn edrych dros y fwrdeistref o'r de.

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 7 Hydref 2020