Castell-paen

pentref ym Mhowys, Cymru

Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Castell-paen[1] (Saesneg: Painscastle).[2] Fe'i enwir ar ôl ei gastell, Castell Paun. Saif yn agos i'r ffîn a Lloegr, tua hanner y ffordd rhwng Llanfair-ym-Muallt a'r Gelli Gandryll.

Castell-paen
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth524 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd5,487.45 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.107373°N 3.218581°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000337 Edit this on Wikidata
Cod OSSO165465 Edit this on Wikidata
Map

Hanes y castell golygu

Daw'r enw Castell Paun o enw'r arglwydd Normanaidd Pain Fitz John, a adeiladodd y castell cyntaf yma yn hanner cyntaf y 12g. Lladdwyd ef gan y Cymry yn 1137, a daeth ardal Elfael i feddiant Madog ab Idnerth. Cipiwyd y castell gan William de Braose tua 1195. Ymosodwyd ar y castell gan beiriannau rhyfel[3] nerthol byddin Rhys ap Gruffudd, Tywysog Deheubarth, yn 1196, ac ildiodd y castell iddo; o fewn wythnosau, gwnaed cytundeb heddwch. Yn 1198 gosododd Gwenwynwyn ab Owain o Bowys warchae ar y castell ond gorchfgwyd ef gan fyddin dan Geoffrey fitz Peter a lladdwyd oddeutu 3,000 o Gymry.[4]

Meddianwyd y castell gan Iorwerth Clud yn 1215. Llosgwyd y castell gan y Cynry yn ystod ymgyrchoedd Llywelyn ap Iorwerth yn y cylch. Fe'i hail-adeiladwyd fel castell o gerrig gan y brenin Harri III a Hubert de Burgh yn 1231. Yn 1233 daeth y castell i feddiant Ralph Tosny, a bu ym meddiant y teulu hyd nes i Llywelyn ap Gruffudd ei gipio yn 1265. Ail-adeiladwyd y castell gan Ralph Tosny arall yn 1276.

Llyfryddiaeth golygu

  • Remfry, P.M., Painscastle, 1066 to 1405

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 4 Tachwedd 2021
  3. Gwefan saesneg Castles of Wales
  4. Reference Wales; golygydd John May; Gwasg prifysgol Cymru; 1994