Byd a Betws (drama deledu)
Cyfres ddrama deledu Gymraeg o'r 1960au yw Byd a Betws a gynhyrchwyd gan BBC Cymru. Idwal Jones a Gruffudd Parry oedd yr awduron, a Gwenlyn Parry oedd y Golygydd.[1] Darlledwyd y gyfres o 28 Rhagfyr 1966 ar BBC Cymru, ond bu Rowland Lucas yn dilyn hanes y cyn-gynhyrchu yn wythnosol yn Y Cymro, yn ystod yr Hydref 1966. Roedd 16 pennod yn y gyfres.[2]
Enghraifft o'r canlynol | cyfres ddrama deledu |
---|---|
Dyddiad cynharaf | 1966 |
Golygydd | Gwenlyn Parry |
Awdur | Idwal Jones a Gruffudd Parry |
Iaith | Cymraeg |
Cysylltir gyda | BBC Cymru |
Math | drama deledu |
Dyddiad y perff. 1af | 28 Rhagfyr 1966 |
Hyd | 16 Pennod |
Cyfarwyddwr | George P Owen |
Cynhyrchydd/wyr | Wilbert Lloyd Roberts |
Cwmni cynhyrchu | BBC Cymru |
Disgrifiad byr
golygu"Darlun o fywyd pob dydd tri theulu mewn pentref ar lan y môr" yw prif plot y gyfres, yn ôl y newyddiadurwr Rowland Lucas yn Y Cymro [Tachwedd 1966]
"Mae Byd a Betws mewn dwy ran", dywed Lucas yn Rhagfyr 1966, "Yn y rhan gyntaf, cewch gwrdd â hen weinidog; yn yr ail ran, â gweinidog newydd. Mae mwy o wahaniaeth rhyngddynt nag oedran yn unig. Mae agwedd y ddau at y byd o'n cwmpas yn wahanol hefyd."[3]
Cynhyrchu
golyguCafodd y ddrama ei hymarfer yn Neuadd Y Felinheli ym 1966, cyn symud i 'stiwdio'r' BBC [Stwidio A Broadway] yng Nghaerdydd ar gyfer y saethu. Dibynodd Wilbert Lloyd Roberts ar Gwmni Theatr Cymru am nifer o actorion.[4]
Criw
golygu- Cynhyrchydd - Wilbert Lloyd Roberts
- Cyfarwyddwr - George P Owen
- Cynorthwydd Cynhyrchu - Eifiona Llewelyn Hughes
- Ysgrifenyddes - Margaret Morris
- Cynllunydd - Pauline Harrison a Peter Phillips
- Rheolwr Llawr - Robin Hughes
- Prif Gynorthwydd Cynhyrchu - John Hefin Evans
- Props - Pat Burge a Dave Phillips
- Gwisgoedd - Coleen O'Brien
- Coluro - Lynne Gleave
Cymeriadau a'r Cast
golygu- Solomon Jones - Charles Williams
- Parch Glanffrwd Morris - E. T Edwards
- Olga Bevan - Gaynor Morgan Rees
- Mrs Orme-Jones - Nesta Harris
- Rici Ward - Owen Garmon
- Morfydd Orme-Jones - Beryl Williams
- Cadwaladr Orme-Jones - Llew Thomas