Drama fuddugol cystadleuaeth Tlws Y Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Myrddin 1974 yw Byd o Amser gan y llenor Eigra Lewis Roberts.

Byd o Amser
AwdurEigra Lewis Roberts
CyhoeddwrGwasg Gomer
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi1976
PwncAnn Griffiths
Argaeleddallan o brint
GenreDramâu Cymraeg

Disgrifiad byr

golygu

Mae'r ddrama yn seiliedig ar hanes yr emynyddes Ann Griffiths o Ddolwar Fach. "Nid drama hanesyddol mo hon" yn ôl y dramodydd, "er bod ynddi amryw o ffeithiau a gydnabyddir yn gyffredinol fel rhai cywir."[1]

Aeth Eigra ymlaen i nodi mai "Ymgais sydd yma i gyflwyno portread dramatig o un y bu peth wmbreth o ddadlau a dyfalu yn ei chylch; un sy'n cael ei hadnabod fel emynyddes alluog ac yn cael ei chydnabod yn gyfrinydd ond a oedd, uwchlaw popeth arall, yn ferch nwydus a synhwyrus, a'i hoes fer yn un frwydr o geisio cadw cydbwysedd rhwng pethau Crist a phethau'r byd. Ann Thomas - yr athrylith unig na chafodd , mwy nag unrhyw broffwyd arall, ei deall na'i gwerthfawrogi yn ei lle na chan ei phobl ei hun."

Mae'r ddrama mewn pum rhan:

  • Rhan 1 - Gwanwyn 1796
  • Rhan 2 - Gwanwyn 1797
  • Rhan 3 - Gwanwyn 1799
  • Rhan 4 - Gwanwyn 1800
  • Rhan 5 - Gwanwyn 1805

Daw teitl y ddrama o frawddeg glo llythyr yn llawysgrifen Ann ei hun i Elizabeth Evans, Bwlch Aeddan, cyfeilles iddi hi a chwaer i Ruth. "Hyn oddi wrth eich garedig chwaer sy'n cyflym deithio drwy FYD O AMSER i'r byd mawr a bery byth."[2]

Cyhoeddwyd y ddrama gan Gwasg Gomer ym 1976, blwyddyn ar ôl i Cwmni Theatr Cymru ei llwyfanu ym 1975.

Cymeriadau

golygu
  • Ann Thomas / Griffiths
  • Thomas Evans - Y Curad
  • John Hughes
  • William - Y Porthmon
  • Edward Owen - Y Tafarnwr
  • Siôn Thomas - Brawd Ann
  • Huw Morys
  • Malan Huws
  • Ruth Evans
  • Llanc

Cynyrchiadau nodedig

golygu
 
Actorion y ddrama Byd o Amser ar ymweliad â Dolwar Fach, cartref Ann Griffiths

Llwyfannwyd y ddrama am y tro cyntaf gan Cwmni Theatr Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Dwyfor 1975 ac aed â hi ar daith wedi hynny. Cyfarwyddwr Nesta Harris; cast:[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Bro Myrddin. 1974.
  2. 2.0 2.1 Roberts, Eigra Lewis (1976). Byd O Amser. Gomer.