Actor a llenor Cymreig oedd Huw Tudor (ganwyd 1939), a anwyd yn Llanfachreth, Sir Fôn.[1] Roedd o'n wyneb a llais cyfarwydd ar y llwyfan, teledu a ffilmiau Cymraeg am dros 30 mlynedd, rhwng 1960 a 1999.[2] Cyfranodd tuag at sawl cynhyrchiad gan Gwmni Theatr Cymru. Roedd o'n adnabyddus am ei lais dramatig ac am ei berfformiadau cofiadwy mewn cynyrchiadau fel Barbarossa (1989) a Rhandir Mwyn (1973).

Huw Tudor
GanwydNorman Owain Williams
1939
Llanfachraeth, Ynys Môn
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor Cymreig

Ei enw bedydd oedd Norman Owain Williams.

Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Llanfachraeth ac Ysgol Uwchradd Caergybi. Dechreuodd ei yrfa darlledu pan yn 16 oed, cyn derbyn ysgoloriaeth i fynychu coleg RADA yn Llundain.[1][2]

Portreadodd y cymeriad Thomas Holme yn y Rhandir Mwyn, addasiad teledu o nofel Marion Eames, i BBC Cymru. Arweiniodd hyn at ei ddiddordeb yn hanes William Penn, gan mai Holme oedd y gŵr benododd Penn yn brif oruchwyliwr ac asiant ei stad ym Mhennsylvania. Bu ar sawl ymweliad â'r Amerig.[3]

Roedd hefyd yn aelod o'r Seiri Rhyddion.[1]

Cafodd ei anrhydeddu ym 1984 fel Cymrawd Oes o'r International Biographical Association am ei wasanaeth i ddiwylliant Cymraeg.[2]

Un o'i ymddangosiadau olaf ar S4C oedd mewn addasiad Harri Pritchard Jones o ddrama Saunders Lewis, Brad ym 1994. Ni fu'n gweithio yn ystod ei flynyddoedd olaf, oherwydd gwaeledd.[3]

Gwaith

golygu

Ffilmiau

golygu

Teledu

golygu

Llwyfan

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 "Archifau Huw Tudor".
  2. 2.0 2.1 2.2 Cwmni Theatr Gwynedd (1992). Rhaglen The Druid's Rest.
  3. 3.0 3.1 "BBC - Gogledd Orllewin - Huw Tudor - ar drywydd Cymry America". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2024-08-28.
  4. "BBC Television". www.78rpm.co.uk. Cyrchwyd 2024-10-06.
  5. "Y Graith (1980)". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2024-08-28.
  6. "Diar Diar Doctor". Wici Y Cyfryngau Cymraeg. Cyrchwyd 2024-08-28.
  7. "Huw Tudor | Actor". IMDb (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-28.
  8. "Rhagorol online catalogue". diogel.gwynedd.llyw.cymru. Cyrchwyd 2024-08-28.
  9. 9.0 9.1 "Rhagorol online catalogue". diogel.gwynedd.llyw.cymru. Cyrchwyd 2024-08-28.