Solfach

pentref yn Sir Benfro

Pentref glan-môr a chymuned yn Sir Benfro, Cymru, yw Solfach[1] (hefyd Solfa, Saesneg: Solva). Saif yng ngorllewin y sir, tua 3 milltir i'r dwyrain o Dyddewi, mewn gilfach môr ar Fae Sain Ffraid, ar aber Afon Solfach. Mae ganddo harbwr ardderchog a bu'n ganolfan masnach arfordirol am ganrifoedd. Fe'i lleolir ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Solfach
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8744°N 5.1889°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000474 Edit this on Wikidata
Cod OSSM802243 Edit this on Wikidata
Cod postSA62 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auPaul Davies (Ceidwadwyr)
AS/auStephen Crabb (Ceidwadwr)
Map

Heddiw mae'r pentref yn ganolfan hwylio a gwyliau glan-môr poblogaidd. Mae Llwybr Arfordir Penfro yn rhedeg trwy'r pentref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Paul Davies (Ceidwadwyr)[2] ac yn Senedd y DU gan Stephen Crabb (Ceidwadwr).[3]

Prif stryd Solfach

Hanes golygu

Mae hanes Solfach fel porthladd yn ymestyn yn ôl i'r 14g o leiaf. Cyfeirir ato gan yr hynafiaethydd George Owen yn 1603. Erbyn 1811 roedd yna 36 o longau'n defnyddio'r porthladd gyda naw warws ar eu cyfer yn y pentref. Roedd nwyddau fel ŷd, barlys a phren yn cael eu hallforio i Fryste a deuai nwyddau cyffredinol yn ogystal â glo a chalch i mewn o Fryste, porthladdoedd De Cymru ac o mor bell i ffwrdd ag Iwerddon. Ond fel yn achos nifer o borthladdoedd bychain tebyg dirywiodd ei fasnach gyda dyfodiad y rheilffyrdd ganol y 19g.

Veir olion caer oes haearn ar ben Y Gribin, penrhyn ar ochr ddwyreiniol yr harbwr.[4]

Cofnodir fod pobl wedi ymfudo i'r Unol Daleithiau o Solfach. Yn 1848 y pris am y fordaith oedd £3 i oedolion a 30 swllt i blant. Roedd y siwrnai'n cymryd rhwng 7 a 14 wythnos, gan ddibynnu ar y gwyntoedd a'r tywydd. Roedd y calch a fewnforid i Solfach yn cael ei losgi mewn odynnau yn y pentref a'i werthu wedyn i ffermydd ardal Tyddewi. Peidiwyd y gwaith ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Solfach (pob oed) (865)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Solfach) (258)
  
30.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Solfach) (536)
  
62%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Solfach) (166)
  
42.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Pobl o Solfa golygu

Magwyd pêl-droediwr Cymru Simon Davies yn y pentre a'r canwr Meic Stevens, ysgrifennodd gân adnabyddus am y pentref, Ysbryd Solfa.

Oriel golygu

Ffynhonnell golygu

  • Christopher John Wright, A Guide to the Pembrokeshire Coast Path (Constable, 1986)

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. "Gwefan Senedd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-11-10. Cyrchwyd 2021-11-10.
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. Gwefan yr Ymddiriodolaeth Genedlaethol
  5. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  7. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolen allanol golygu