C.P.D. Y Drenewydd

Clwb pêl-droed o'r Drenewydd, Powys ydy Clwb Pêl-droed Y Drenewydd (Saesneg: Newtown Association Football Club). Mae'r clwb yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru, prif adran pêl-droed yng Nghymru ac maent wedi codi tlws Cwpan Cymru ar ddau achlysur; ym 1878-79 a 1894-95[1].

C.P.D. Y Drenewydd
Enw llawn Clwb Pêl-droed
Llysenw(au) Y Sêr Gwyn
Sefydlwyd 1875 (fel Sêr Gwyn Y Drenewydd)
Maes Parc Latham
Cadeirydd Baner Cymru Elwyn Preece
Rheolwr Baner Cymru Chris Hughes
Cynghrair Uwch Gynghrair Cymru
2022/23 6.

Maent yn chwarae eu gemau cartref ar Barc Latham, Y Drenewydd, maes sy'n dal uchafswm o 5,000 o dorf gyda 1,110 o seddi.

Hanes golygu

Mae'r clwb presennol yn deillio o uniad rhwng clybiau pêl-droed Newtown White Star a Newtown Excelsior yn ystod y 1870au. Ffurfiwyd Newtown White Star ym 1875 gan ddod yn aelod gwreiddiol o Gymdeithas Bêl-droed Cymru[1]. Chwaraeodd Excelsior a chlwb o'r enw Newtown yng nghystadleuaeth cyntaf Cwpan Cymru ym 1877[2] gyda gêm Y Drenewydd yn erbyn Y Derwyddon ar 13 Hydref, 1877 y gêm gyntaf erioed yn hanes y gystadleuaeth[3].

Ymunodd y clwb â chynghrairâ'r Combination League ym 1899-1900[4] ond, ar ôl tymor yn unig, dychwelodd Y Drenewydd i chwarae mewn cynghreiriau lleol. Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf ymunodd Y Drenewydd â Chynghrair Canolbarth Cymru gan ennill y bencampwriaeth ym 1975–76, 1978–79, 1981–82, 1986–87 a 1987–88[5].

Ar sail eu pencampwriaethau yn y 1970au a'r 1980au sicrhaodd Y Drenewydd eu lle ym mhyramid pêl-droed Lloegr gan ymuno ag Adran 1 o'r HFS Loans League - tair rheng yn is na Chynghrair Lloegr - ynghyd â chlybiau Cymreig eraill fel Bangor, Y Rhyl, Bae Colwyn a Chaernarfon, ond ym 1992 dychwelodd Y Drenewydd i Gymru er mwyn ymuno â chynghrair newydd cenedlaethol Cymru.

Record yn Ewrop golygu

Tymor Cystadleuaeth Rownd Clwb Cymal 1af 2il Gymal Dros Ddau Gymal
1996-97 Cwpan UEFA Rd. Rhag   Skonto Riga 1-4 0-3 1-7
1998-99 Cwpan UEFA Rd. Rhag   Wisla Krakow 0-0 0-7 0-7
2015–16 Cynghrair Europa UEFA Rhag 1   Valletta 2-1 2-1 4-2
Rhag 2   F.C. København 0-2 1-3 1-5

Anrhydeddau golygu

Chwaraewyr nodedig golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "NewtownFC: History". Unknown parameter |published= ignored (help)[dolen marw]
  2. "Welsh Football Data Archive: Welsh Cup 1877-78". Unknown parameter |publshed= ignored (help)
  3. "Chris and Kit make Welsh Cup Semi-Final Draw". Unknown parameter |published= ignored (help)[dolen marw]
  4. "Combination League 1899-1900". Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "NewtownFC: Honours". Unknown parameter |published= ignored (help)[dolen marw]
Uwch Gynghrair Cymru, 2021–2022

Aberystwyth | Caernarfon | Cei Connah | Derwyddon Cefn | Hwlffordd | Met Caerdydd |
Pen-y-Bont | Y Bala | Y Barri | Y Drenewydd | Y Fflint | Y Seintiau Newydd