Cymanwlad y Gwladwriaethau Annibynnol

(Ailgyfeiriad o CIS)

Corff rhyngwladol yw Cymanwlad y Gwladwriaethau Annibynnol (CIS) (Rwsieg: Содружество Независимых Государств (СНГ) - Sodruzhestvo Nezavisimykh Gosudastv) sy'n hybu cysylltiadau rhwng 12 o'r 15 o wladwriaethau a oedd yn rhan o'r Undeb Sofietaidd blaenorol. Nid yw'r gwledydd Baltaidd yn aelodau.

Cymanwlad y Gwladwriaethau Annibynnol
Enghraifft o'r canlynolsefydliad rhyngwladol, cymanwlad, sefydliad rhynglywodraethol Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu8 Rhagfyr 1991 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganYr Undeb Sofietaidd, Soviet empire Edit this on Wikidata
Map
SylfaenyddGwladwriaeth Ffederal, Sosialaidd, Sofietaidd Rwsia, Gweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin, Gweriniaeth Sofiet Sosialaidd Belarws Edit this on Wikidata
Isgwmni/auUnion State Edit this on Wikidata
PencadlysMinsk Edit this on Wikidata
Enw brodorolMüstəqil Dövlətlər Birliyi Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://e-cis.info/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner CGA
Gwledydd Cymanwlad y Gwladwriaethau Annibynnol.

Yng Cytundebau Belovezh cytunodd arweinyddion Rwsia, Belarws a'r Wcráin sefydlu'r CIS ar 8 Rhagfyr 1991 yn Belovezhskaya Pushcha ger Brest ym Melarws, ac felly daeth yr Undeb Sofietaidd i ben. Arwyddwyd Protocol Alma-ata, sef cytundeb gan yr aelod-wladwriaethau eraill ar 21 Rhagfyr 1991 (heblaw am Georgia, a ymunodd ym 1993).

Er nad oes fawr o bŵer gan y Gymanwlad, mae hi'n bwysig serch hynny am ei bod yn cydlynu polisïau'r aelodau ym materion masnach, cyllid, y gyfraith ac amddiffyn. Un o'r materion pwysicaf i'r corff oedd sefydlu ardal masnach rydd yn 2005.

Aelodau
Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.