Cadwaladr Bryner Jones
Roedd Syr Cadwaladr Bryner Jones Kt, CB; CBE, LLD, MSc, FHAS MRASE (6 Ebrill, 1872 – 10 Rhagfyr, 1954) yn academydd a gwas sifil o Gymru, a oedd yn arbenigo mewn ymchwil amaethyddol ac amgylcheddol.[1]
Cadwaladr Bryner Jones | |
---|---|
Ganwyd | 6 Ebrill 1872 Dolgellau |
Bu farw | 10 Rhagfyr 1954 Birmingham |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | academydd, gwas sifil, athro cadeiriol |
Swydd | llywydd corfforaeth |
Perthnasau | Cadwaladr Jones |
Gwobr/au | CBE |
Cefndir
golyguGanwyd Syr Bryner yng Nghefnmaelan Dolgellau. Roedd yn blentyn i Enoch Jones, amaethwr a Jane (née Lewis) ei wraig. Cafodd ei enwi'n Cadwaladr ar ôl ei daid ar ochr ei dad, Cadwaladr Jones, Yr Hen Olygydd, gweinidog Annibynnol a golygydd Y Dysgedydd, a Bryner ar ôl fferm deuluol ei fam, Maesybryner, Llanelltud. Bu farw ei fam pan oedd yn blentyn a chafodd ei fagu gan ei nain a'i daid ym Maesybryner.[2] Fe'i addysgwyd yn ysgolion cynradd y Brithdir a Dolgellau ac yn Ysgol Ramadeg Dolgellau. Ar ôl gorffen ei yrfa ysgol, bu am ddwy flynedd yn ddisgybl amaeth yng Ngwyddelwern; cyn mynd ymlaen i goleg amaeth Aspatria, Swydd Cumberland (Cumbria bellach). Yn Aspatria enillodd dystysgrif dosbarth cyntaf Cymdeithas Amaeth Brenhinol Lloegr a thystysgrif cyffelyb Gymdeithas Frenhinol Amaethyddol Ucheldir yr Alban.[3] Fel rhan o'i gwrs dyfarnodd Adran Gwyddoniaeth a Chelf, llywodraeth Prydain iddo dystysgrifau mewn Amaethyddiaeth, Cemeg a Botaneg.
Gyrfa
golyguBangor
golyguAr ôl graddio o Goleg Aspatria cafodd Jones swydd fel is athro sirol mewn amaethyddiaeth yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor. Dyletswydd is athrawon sirol oedd sicrhau bod cymdeithas ehangach dalgylch y coleg yn cael budd o waith y brifysgol, nid y myfyrwyr mewnol yn unig, trwy gynnal darlithoedd a chyrsiau allanol yn nhrefi a phentrefi siroedd y gogledd.[4] Ar y pryd, Saesneg oedd unig iaith addysg Prifysgol Cymru. Gan fod Jones yn darlithio'n bennaf i'r gymuned amaethyddol Cymraeg ei hiaith, bu'n orfodaeth ymarferol iddo ddarlithio yn y Gymraeg hefyd, gan hynny daeth yn arloeswr yn natblygiad addysg uwch trwy'r Gymraeg.
Newcastle upon Tyne
golyguYm 1903 fe'i penodwyd yn ddarlithydd mewn Rheolaeth Amaethyddol ac Ystadau yng Ngholeg Gwyddoniaeth Prifysgol Durham (coleg Armstrong), Newcastle upon Tyne.[5] yn Newcastle bu alw mynych arno i ddychwelyd i Gymru i roi darlithoedd i gymdeithasau amaeth a llenyddol. Ar y cyd efo prifathro Coleg Armstrong Syr Isambard Owen a Charles Francis Lloyd, arweinydd cymdeithas gorawl South Shields, sefydlodd gangen o'r Cymrodorion yn Newcastle.[6] Dyfarnwyd MSc er anrhydedd iddo gan Brifysgol Durham ym 1906.[7]
Aberystwyth
golyguYm 1890, sefydlodd Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, adran amaethyddiaeth, wedi'i selio ar yr un ym Mangor, a oedd yn cynnwys ffermio ymarferol yn ei gwricwlwm. Pan aeth yr adran i anhrefn ar ymadawiad y darlithydd cyntaf ym 1907, penododd y coleg Bryner Jones i'r gadair Amaeth newydd.[8] Ffynnodd yr adran o dan ei arweiniad, a daeth Jones yn arweinydd addysg amaethyddol yng Nghymru.
Ym 1912, gwnaed trefniant i greu dau gynllun swyddogol yn ymwneud ag addysg amaethyddol a gwella da byw o dan Gomisiynydd Amaethyddol, i'w cynghori gan Gyngor Amaethyddol Cymru. Daeth Bryner Jones yn gomisiynydd a chadeirydd y Cyngor, wrth gadw ei swydd fel Athro Amaethyddiaeth y brifysgol. Daeth Jones bellach yn ffigwr o ddylanwad aruthrol yn natblygiad amaethyddol Cymru a chymerodd ran ym mron pob mudiad i hybu ei buddiannau, gan gynnwys datblygiad Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, sefydlu Bridfa Blanhigion, Cylchgrawn Amaethyddiaeth Cymru ac Adran Economeg Amaethyddol y Brifysgol.
Pan gafodd y Bwrdd Amaethyddiaeth ei integreiddio i’r Weinyddiaeth Amaethyddiaeth a Physgodfeydd ym 1919 sefydlodd adran Gymreig yn Aberystwyth, gyda Bryner Jones, yn gweithredu fel Ysgrifennydd Cymreig cyntaf i'r Weinyddiaeth Amaeth. Am yr ugain mlynedd nesaf bu'n llywyddu ar adran a dyfodd yn araf ond yn gyson wrth i waith y weinidogaeth ehangu. Roedd y weinidogaeth yn gyfrifol am addysg amaethyddol a gwaith cynghori ar bob lefel ynghyd â gwella da byw.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu'n gyfrifol am y Pwyllgorau Gweithredol Amaethyddol Rhyfel Sirol yng Nghymru, gyda chyfrifoldeb am sicrhau diogelwch a chynnydd cynhyrchiant bwyd. Ar ôl ymddeol o'i swyddi yn y Brifysgol a'r Weinyddiaeth Amaeth ym 1944 parhaodd i wasanaethu fel Cadeirydd Is Gomisiwn Tir Cymru.
Yn ogystal â'i waith proffesiynol yn ymwneud ag amaeth bu hefyd yn hynod brysur fel swyddog gwirfoddol i nifer o sefydliadau a chymdeithasau er enghraifft:[9]
- 1908-1910; Anrhydeddus Cyfarwyddwr Sioe Frenhinol Cymru,
- 1913-1919; Llywydd Cymdeithas Lyfrau Praidd Defaid Mynydd Cymreig,
- 1944-1945; Llywydd Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig,
- 1944–53 Cadeirydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru,
- 1954; Llywydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru
Bu hefyd yn feirniad rheolaidd mewn sioeau amaethyddol sirol a lleol. Yn ogystal â bod yn feirniad ar draethodau yn ymwneud ag amaeth a chefn gwlad mewn eisteddfodau, bu hefyd yn feirniad poblogaidd ar y cystadlaethau adrodd.
Tu allan i faes amaethyddiaeth ar amgylchedd bu hefyd yn gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Dr Williams Dolgellau am dros 25 mlynedd. Bu'n gadeirydd Cymdeithas Hynafiaethau Ceredigion o 1934 i 1954.[10]
Anrhydeddau
golyguI gydnabod ei wasanaeth i addysg uwch dyfarnodd Prifysgol Cymru iddo radd LL.D. ym 1938. Penodwyd ef yn Gadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig ym 1920, yn Gadlywydd Urdd y Baddon ym 1936, ac yn farchog ym 1947.
Teulu
golyguNi fu Bryner Jones yn briod. Roedd wedi dyweddïo ac wedi trefnu priodi ym Mehefin 1900, ond ychydig ddyddiau cyn y dyddiad fe aeth yn ddifrifol sâl, a bu'n orweddog am fron i flwyddyn. Gyda rhagolygon am wellhad yn edrych yn anobeithiol ar y pryd, rhoddwyd ef heibio gan ei ddyweddi.[11]
Marwolaeth
golyguBu farw yn Ysbyty'r Frenhines Elizabeth, Birmingham yn 82 mlwydd oed,[12]. Cynhaliwyd gwasanaeth angladd iddo yng nghapel annibynwyr Portaland Street Aberystwyth a chladdwyd ei weddillion ger bedd Cadwaladr Jones, ei daid, ym mynwent capel annibynwyr y Brithdir.
Gwobr goffa
golyguErs 1957 mae Gwobr Goffa Syr Bryner Jones yn cael ei rhoi bob blwyddyn gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru i rywun o wahanol ran o’r diwydiant ffermio sydd wedi cyrraedd y lefel cyflawniad uchaf yn y sector a ddewiswyd ar gyfer y flwyddyn. Mae enw'r enillydd yn cael ei gyhoeddi a'r wobr yn cael ei gyflwyno ar ddiwrnod agoriadol y Sioe Frenhinol.[13]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ JONES, Syr CADWALADR BRYNER (1872 - 1954), gŵr amlwg yn hanes addysg amaethyddol Cymru a gwas sifil o fri. Y Bywgraffiadur Cymreig. Adferwyd 5 Hyd 2024
- ↑ Papur Pawb, 18 Ionawr 1902 Mr C. Bryner Jones, M.R.A.S.E., F.H.A,S. Darlithydd Ar Amaethyddiaeth, Coleg Y Brifysgol, Bangor adalwyd 5 Hydref 2024
- ↑ Y Genedl Gymreig, 4 Gorffennaf 1893, Coleg y Gogledd, Bangor adalwyd 5 Hydref 2024
- ↑ The Montgomery County Times and Shropshire and Mid-Wales Advertiser 28 Hydref 1893 University College Of North Wales, Bangor. —Schoolmasters Class in Agriculture adalwyd 5 Hydref 2024
- ↑ Yr Wythnos a'r Eryr, 21 Ionawr 1903 Dyrchafiad i Gymro adalwyd 5 Hydref 2024
- ↑ Y Dydd, 10 Tachwedd 1905, Yma a Thraw adalwyd 5 Hydref 2024
- ↑ Y Cymro, 27 Medi 1906, Anrhydedd i Gymro adalwyd 5 Hydref 2024
- ↑ Evening Express, 26 Ionawr 1907 Welshman Appointed adalwyd 5 Hydref 2024
- ↑ "Jones, Sir Cadwaladr Bryner, (1872–10 Dec. 1954)". WHO'S WHO & WHO WAS WHO (yn Saesneg). doi:10.1093/ww/9780199540884.013.u239243. Cyrchwyd 2024-10-05.
- ↑ Ceredigion : cylchgrawn Cymdeithas Hynafiaethwyr Sir Aberteifi, Cyf 2, rhif 3, tud 124 adalwyd 5 Hydref 2024. Sir Cadwaladr Bryner Jones, C.B., C.B.E., M.Sc., LL.D., 1872-1954
- ↑ Carnarvon and Denbigh Herald and North and South Wales Independent 29 Mehefin 1900, Local and District News adalwyd 5 Hydref 2024
- ↑ The Daily Telegraph 11 Rhagfyr 1954 Obituary
- ↑ lizrees (2023-08-03). "Cyhoeddi enillydd Gwobr Goffa Syr Bryner Jones". Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru. Cyrchwyd 2024-10-06.