Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Canada

tîm rygbi'r undeb dynion

Mae Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Canada (Ffrangeg: Équipe du Canada de rugby à XV) yn cynrychioli Canada ar y lefel ryngwladol ym myd chwaraeon rygbi'r undeb. Fe'i dosbarthir gan World Rugby (y corff a adnebir fel Fwrdd Rygbi Rhyngwladol y Byd, yr IRB) yn yr ail ddosbarth cryfder (ail lefel). Chwaraewyd y gêm ryngwladol gyntaf ym 1932 yn erbyn Siapan. Mae'r tîm cymwyso ar gyfer pob Cwpan Rygbi'r Byd a chyrraedd ym 1991 gyda'r mynediad i'r rowndiau terfynol yn ganlyniad gorau. Bu'r tîm hefyd yn cymryd rhan yn y "Churchill Cup" a chwaraewyr, gan mwyaf gan timau Canada, UDA a Lloegr a thimau gwahodd eraill rhwng 2003 - 2011. Enw swyddogol undeb rygbi Canada yw "Rugby Canada" (gan osgoi yr angen am enw dwyieithog).

Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Canada
Lliwiau cartref
Lliwiau oddi cartref
Cwpan y Byd
Ymddangosiadau8

Mae'r tîm hefyd yn cymryd rhan yng nghystdleuaeth flynyddol Pencampwriaeth Rygbi yr Americas ("Americas Rugby Championship") sy'n cynnwys timau'r UDA, Wrwgwái, Brasil, Yr Ariannin a Tsile. Sefydlwyd y gystadleuaeth yn 2009 ac fe'i cymherir i Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ar gyfer gyfandiroedd America.[1]

Llysenwau a Chit

golygu
 
Arwyddlun Rugby Canada

Llysenwau'r tîm cenedlaethol yw Canucks (llysenw boblogaidd ar bobl o Ganada), a Les Rouges, sef "y cochion" yn Ffrangeg. Symbol y tîm yw'r ddeilen Masaren sy'n nodweddiadol fel symbol genedlaethol y wlad. Mae'r tîm yn chwarae mewn crysau coch, siorts gwyn a sannau coch. Ond ceir hefyd cit sy'n cynnwys crys du a choch.

 
Tîm Canada mewn cit du a choch, CRB 2007
 
Canada (yn y coch) v yr Almaen, gêm ragbrofol CRB, 2018 ym Marseille

Cyflwynwyd i gêm, neu ffurfiau cynnar o'r gêm i'r wlad drwy wladychwyr, miliwyr garison ac aelodau o'r Llynges Frenhinol Brydeinig o ganol 19g ymlaen yn enwedig yn nhrefi Halifax, Nova Scotia, Toronto, a Montréal. Yna wrth cyrheaddodd Vancouver, Columbia Brydeinig a oedd, oherwydd ei hinsawdd mwynach a mwy ffafrio a thraddodid Brydeinig gref, ddatblygodd yn gadarnle i'r gêm yng Nghanda.[2]

Nodir y ceir y cyfeiriad achredig gynharaf i'r gêm o rygbi a hynny yn 1864 mewn gêm rhwng dynion magnelwyr milwrol ("artillery men") ym Montreal.[3]

Ym 1874 cynhaliwyd y gêm rygbi ryngwladol gyntaf yng Ngogledd America yng Cambridge, Massachusetts yn yr UDA rhwng prifysgolion Prifysgol McGill o Ganada a Havard o'r UDA.[2] Hyd yn oed heddiw, mae'r ddwy brifysgol yn cystadlu bob mis Tachwedd ac yn chwarae am "Gwpan Covo" ar ôl y rheolau rygbi gwreiddiol. Clwb rygbi hynoaf Canada nad yw'n brifysgol yw'r Westmount RFC [4] a sefydlwyd yn 1876 ym Montreal.

Sefydlwyd y Canadian Rugby Football Union ("Rugby Canada", bellach) yn 1884.

Yr 20g

golygu

Yn 1909 cyflwynodd y Pedwerydd Iarll Grey y "Cwpan Grey" i'r tîm rygbi gorau yng Nghanada. Yn ystod yr amser hwn, fodd bynnag, dechreuodd rygbi Canada ystumio a datblygu ar drywydd wahanol iawn i rygbi traddodiadol Prydain. Gydag amser, esblygodd yn raddol i Bêl-droed Canadaidd (Canadian Football) yn dilyn amryw o newidiadau i'r rheol - gan ymdebygu i Bêl-droed Americanaidd (American Football). Bellach, cyflwynir y Grey Cup fel tlws i bencampwr Cynghrair Pêl-droed Canadaidd.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd, daeth y gêm rygbi i ben, ond yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel, profodd y gamp hon fath o ddadeni. Chwaraeodd 1919 ddetholiad o fyddin Canada ar gyfer Cwpan y Brenin yn erbyn detholiadau o luoedd amrywiol Prydain, yn ogystal â grym alldeithiol Dominons Seland Newydd, Undeb De Affrica ac Awstralia. Ym 1929, ailsefydlwyd y gymdeithas o dan yr enw "Rugby Union of Canada" a 1932 oedd y gêm ryngwladol gyntaf, lle collodd y Canadiaid ychydig yn erbyn Japan.

Cwpan Rygbi'r Byd

golygu
 
Y Tîm, wedi gêm yn Naoned, CRB, 2007

Mae safon canlynidau Canada yng Nghwpan y Byd wedi bod yn anwastad gan ennill peth llwyddiant mewn rhai twrnameintiau a pheidio cymwyso ar gyfer un arall.

  • 1987 - Roedd Canada yn un o'r 16 gwlad a wahoddwyd gan yr hen IRB (World Rugby, bellach) i Gwpan Rygbi'r Byd gyntaf a chwaraewyd yn 1987. Yn eu gêm gyntaf yng Nghwpan y Byd, curodd y Canadiaid Tonga 37: 4, ond collon nhw'r gemau grŵp eraill yn erbyn Iwerddon a Chymru.
  • 1991 - Yng Nghwpan y Byd 1991, fe gyrhaeddon nhw rownd yr wyth olaf gyda buddugoliaethau yn erbyn Ffiji a Rwmania yn ogystal â threchu yn erbyn Ffrainc. Yno, fodd bynnag, cawsant eu curo gan y Seland Newydd.

Ym mis Tachwedd 1993, enillodd y Canadiaid yn emosiynol yn erbyn Cymru ac ym mis Mehefin 1994 yn erbyn Ffrainc.

  • 1995 - Yng Nghwpan y Byd 1995, fodd bynnag, dim ond Rwmania y gellid ei drechu, bedair blynedd yn ddiweddarach dim ond Namibia y lwyddodd Canada i drechu.
  • 2003 - Yng Nghwpan y Byd 2003, dim ond unwaith y gallent ennill, yn erbyn Tonga.
  • 2007 - Yng Nghwpan y Byd 2007, gêm gyfartal gyda Siapan oedd yr unig bwynt a enillwyd.
  • '2011 - Canada oedd y tîm cenedlaethol cyntaf i gymhwyso ochr yn ochr â'r timau cyn-gymhwyso ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2011. Cyflawnwyd hyn trwy fuddugoliaeth dros yr UDA ddwy flynedd cyn dechrau'r twrnamaint. Yng Nghwpan y Byd yn Seland Newydd, er gwaethaf buddugoliaeth o 25:20 dros Tonga a gêm gyfartal gyda Japan dim ond y pedwerydd safle yng Ngrŵp A y gellid ei gyflawni.
  • 2015 - Bu'n rhaid i Ganada chwarae gemau rhag-brofol er mwyn cymhwyso ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2015 a gynhaliwyd yn Lloegr. Collodd Canada bob yn gêm ac ennill dim un pwynt.

Canada a Chymru

golygu

Curodd Canada dîm Cymru, 26–24 yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd ar 10 Tachwedd 1993 - canlyniad a achosodd peth sioc a newyddion yn y byd rygbi. Fel arall, mae Canada wedi chwarae yn erbyn Cymru 12 gwaith a dim ond ennill unwaith.[5][6]

Record

golygu
30 safle uchaf ar 10 Chwefror 2020[7]
Safle Newid* Tîm Pwyntiau
1     De Affrica 094.19
2     Seland Newydd 092.11
3     Lloegr 087.80
4     Iwerddon 085.36
5     Cymru 084.28
6     Ffrainc 082.37
7     Awstralia 081.90
8     Japan 079.28
9     Yr Alban 078.58
10     Yr Ariannin 078.31
11     Ffiji 076.21
12     Georgia 072.70
13     Yr Eidal 072.04
14     Tonga 071.44
15     Samoa 070.72
16     Sbaen 068.28
17     Unol Daleithiau America 068.10
18     Wrwgwái 067.41
19     Rwmania 065.11
20     Portiwgal 062.40
21     Hong Cong 061.23
22     Canada 061.12
23     Namibia 061.01
24     Yr Iseldiroedd 060.08
25     Rwsia 059.90
26     Brasil 058.89
27     Gwlad Belg 057.57
28     Yr Almaen 054.64
29     Chile 053.83
30     De Corea 053.11
*Newid o'r wythnos flaenorol
Safleoedd blaenorol Canada
 
Ffynhonnell: World Rugby - Diweddarwyd y graff i 7 Ionawr 2019[7]

Mae'r tabl isod yn cynrychioli gemau prawf a chwaraewyr gan Ganada hyd at 20 Awst 2019.[8]

Gwrthwynebwr Chware Ennill Colli Cyfartal % Ennill Pwyntiau o blaid Pwyntiau yn erbyn Gwahaniaeth
  Yr Ariannin 9 3 6 0 33.3% 159 277 –118
  Awstralia 6 0 6 0 0.0% 60 283 –223
  Barbados 1 1 0 0 100.0% 69 3 +66
 Y Barbariaid 2 0 1 1 0.00% 7 32 –25
  Gwlad Belg 1 1 0 0 100.0% 43 12 +31
  Brasil 4 2 2 0 50.0% 130 72 +58
  British and Irish Lions 1 0 1 0 0.00% 8 19 –11
  Chile 6 6 0 0 100.0% 245 62 +183
  Lloegr 6 0 6 0 0.0% 73 273 –200
  England XV 6 1 5 0 16.7% 40 159 –119
  Lloegr U23 2 0 2 0 0.0% 22 55 –33
Nodyn:RuA 3 0 3 0 0.0% 41 132 –91
  Ffiji 12 3 9 0 25.0% 221 409 –188
  Ffrainc 9 1 8 0 11.1% 119 315 –196
  France XV 1 0 1 0 0.0% 9 24 –15
Nodyn:RuA 1 0 1 0 0.0% 15 34 –19
  Georgia 7 3 4 0 42.9% 141 145 –4
  Yr Almaen 1 1 0 0 100.0% 29 10 +19
  Hong Cong 7 6 1 0 85.7% 209 109 +100
  Iwerddon 8 0 7 1 0.0% 105 328 –223
  Ireland XV 1 0 1 0 0.0% 21 24 –3
  yr Eidal 9 2 7 0 22.2% 128 246 –118
  Japan 25 8 15 2 32.0% 581 612 –31
  Cenia 1 1 0 0 100.0% 65 19 +46
  Namibia 2 2 0 0 100.0% 89 24 +65
  Seland Newydd 5 0 5 0 0.0% 54 313 –259
  New Zealand XV 1 0 1 0 0.0% 10 43 –33
  Māori All Blacks 2 0 2 0 0.0% 36 95 –59
  Portiwgal 4 4 0 0 100.0% 138 53 +85
  Rwmania 8 2 6 0 25.0% 142 138 +4
  Rwsia 5 4 1 0 80.0% 157 91 +66
  Samoa 6 0 6 0 0.0% 103 169 –66
  yr Alban 5 1 4 0 20.0% 59 153 –94
  Scotland XV 1 1 0 0 100.0% 24 19 +5
Nodyn:RuA 1 0 1 0 0.0% 10 15 –5
  De Affrica 2 0 2 0 0.0% 18 71 –53
  Sbaen 2 2 0 0 100.00% 97 49 +48
  Tonga 8 5 4 0 55.55% 216 188 +28
  Unol Daleithiau America 62 38 22 2 62.9% 1433 1119 +314
  Wrwgwái 13 8 5 0 61.5% 370 232 +138
  Cymru 12 1 11 0 8.3% 207 460 –253
  Wales XV 3 0 3 0 0.0% 37 138 –101
  Cymru U23 1 0 1 0 0.0% 0 8 –8
Total 173 107 160 6 40.29% 5740 7032 –1292

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. http://www.americasrugbynews.com/2015/09/04/americas-six-nations-start-february/
  2. 2.0 2.1 https://www.thecanadianencyclopedia.ca/en/article/rugby
  3. https://www.rugbyfootballhistory.com/canada.html
  4. http://www.westmountrugby.com/
  5. http://news.bbc.co.uk/sport1/hi/rugby_union/5386980.stm
  6. http://news.bbc.co.uk/sport1/hi/rugby_union/5386998.stm
  7. 7.0 7.1 "Men's World Rankings". World Rugby. Cyrchwyd 30 Medi 2019.
  8. Canada Rugby Stats
  Eginyn erthygl sydd uchod am rygbi'r undeb. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.