Plasdy Cymreig ger Corwen, Sir Ddinbych yw'r Rug (ceir y ffurfiau Rhug a Rûg weithiau hefyd, yn enwedig mewn ffynonellau Saesneg). Roedd yn ganolfan diwylliant Cymraeg yn yr ardal am ganrifoedd. Mae'n adnabyddus heddiw oherwydd Capel y Rug gyda'i murlun trawiadol a'r gerddi hardd o'i gwmpas.

Y Rug
Plasty Rug c.1778; allan o'r gyfrol A Tour in Wales gan Thomas Pennant (1726-1798).
Mathplasty, plasty gwledig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYstâd Rhug Edit this on Wikidata
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9807°N 3.3941°W Edit this on Wikidata
Map
Y Porthdy ger mynedfa'r plasdy.

Gorwedda'r Rug tua milltir i'r gogledd-orllewin o Gorwen. Ceir plasdy - mwy diweddar na'r un gwreiddiol - a pharcdir helaeth sy'n cynnwys mwnt hynafol ar lan llyn bychan. Mae'r capel preifat enwog yn sefyll ar bwys yr A494 wedi ei amgylchynnu gan lwyni rhododendron.

Roedd perchnogion gwreiddiol y Rug yn ddisgynyddion i Tudur ap Gruffudd Fychan, Arglwydd Gwyddelwern ac un o frodyr y Tywysog Owain Glyndŵr. Priododd Ieuan ap Hywel ap Rhys o'r Rug Wenhwyfar, gor-wyres Tudur ap Gruffudd. Trwy briodas Marged Wen, aeres Ieuan, a Pyrs Salsbri roedd perthynas agos â Salbriaid Bachymbyd a Lleweni hefyd. Daeth y Rug i feddiant Wynniaid Wynnstay yn nes ymlaen.[1]

Roedd teulu'r Rug yn noddi'r beirdd Cymraeg o'r 15g hyd ganol yr 17g pan basiodd y Rug o'i ddwylo. Un o'r beirdd a gai nawdd yn y Rug yn ail hanner yr 16g oedd y clerwr Robin Clidro, o Ddyffryn Clwyd. Canai i Salbriaid Bachymbyd hefyd.[2] Canai rai o feirdd mawr eraill y cyfnod yno hefyd, fel Tudur Aled a Siôn Tudur. Canodd Tudur Aled gywydd marwnad i Hywel ap Rhys ap Dafydd ap Hywel o'r Rug sy'n agor gyda phennill sy'n cynnwys y llinell adnabyddus "Hoedl a thir, hudoliaeth yw":

Duw gwyn! er digio ennyd,
Ai difa'r iaith yw dy fryd?
Hynt oedd oer, hwnt, a dderyw,—
Hoedl a thir, hudoliaeth yw![3]

Capel y Rug golygu

Adeiladwyd Capel y Rug yn 1637 gan y Cyrnol William Salisbury o'r Rug fel capel anwes i'r teulu. Adeilad plaen ydyw o'r tu allan, ond y tu mewn ceir to paentiedig hardd a murlun o sgerbwd sy'n cynrychioli Angau yn y dull canoloesol. Ceir cerfiadau ar lawer o'r meinciau, yr oriel a'r ysgrîn Grog.

Yn ymyl y capel ceir croes ganoloesol a symudwyd yno gan un o'r teulu o'i safle gwreiddiol ger Dinbych.

Ymhlith edmygwyr y capel gellid nodi'r pensaer enwog Syr Edwin Lutyens.[4]

Heddiw mae Capel y Rug a'r gerddi yng ngofal Cadw ac yn atyniad twristaidd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Enid Rowlands (gol.), Gwaith Siôn Tudur, 2 gyfrol (Caerdydd, 1980), cyfrol 2, tud. 61.
  2. Gwaith Siôn Tudur, cyfrol 2, tud. 512.
  3. T. Gwynn Jones (gol.), Gwaith Tudur Aled, 2 gyfrol (Caerdydd, 1926), cyfrol 2, cerdd LXXXIV.
  4. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-10. Cyrchwyd 2009-03-06.

Dolenni allanol golygu