Gwyneth Glyn

bardd a cherddor Cymreig
(Ailgyfeiriad o Gwyneth Glyn Evans)

Bardd, llenor a cherddor o Gymru ydy Gwyneth Glyn Evans (ganed 14 Rhagfyr 1979).

Gwyneth Glyn
Gwyneth Glyn yng Ngŵyl Werin y Smithsonian, 2013 Washington, D.C.
Ganwyd14 Rhagfyr 1979 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Cymru Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbardd, canwr, cyfansoddwr caneuon, llenor Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://gwynethglyn.com/ Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

golygu

Fe'i ganed yn Ysbyty Dewi Sant, Bangor a magwyd yn Llanarmon, Eifionydd.

Aeth i'r ysgol yn Ysgol Gynradd Nefyn, Ysgol Glan y Môr, Pwllheli a Choleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli, cyn mynd ymlaen i ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Athroniaeth a Diwinyddiaeth o Goleg Yr Iesu, Rhydychen.

Ymunodd â'r band Coca Rosa and the Dirty Cousins cyn rhyddhau ei halbym gyntaf, Wyneb dros dro, ar label Slacyr yn 2005. Rhyddhawyd Tonau, ei hail albym, gan ei label hi ei hun, Recordiau Gwinllan yn 2007. Ei thrydydd albym ydy Cainc, a ryddhawyd ar y cyntaf o Fehefin, 2011, hefyd ar label Gwinllan. Yn ogystal, mae hi wedi rhyddhau sengl ar y cyd gyda Cowbois Rhos Botwnnog, Paid â Deud.

Hi oedd Bardd Plant Cymru, 20062007.

Mae hi hefyd yn ysgrifennu sgriptiau ar gyfer rhaglenni teledu. Mae hi wedi ysgrifennu ar gyfer Rownd a Rownd, cyfres y bu'n actio ynddi pan yn iau, a hefyd mae wedi bod yn ysgrifennu sgript Pobol y Cwm.[1][2]

Gwaith

golygu

Llyfrau

golygu

Albymau

golygu

Gwobrau ac anrhydeddau

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Awdur:Gwyneth Glyn Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback gwefan Y Lolfa
  2. Farming and rural news in brief:Bright lights The Daily Post 24.2.11
  3. "Gwyneth Glyn - Tro". Discogs (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-10-15.

Dolenni allanol

golygu