Castell Nadolig
Bryngaer Geltaidd sy'n perthyn i Oes yr Haearn,[1] wedi'i lleoli ger Penbryn, Ceredigion, Cymru, yw Castell Nadolig.
Math | caer lefal |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.1257°N 4.4868°W |
Cod OS | SN29855040, SN2985050400 |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CD053 |
Disgrifiad
golyguSaif y fryngaer hon ar fryn isel 212m uwch lefel y môr ar ymyl lôn yr A487 naw milltir i'r dwyrain o Aberteifi a thua 3 milltir i'r de-orllewin o Langrannog. Mae ar diriogaeth y Demetae, llwyth Celtaidd Dyfed.
Nid yw'n safle cryf ynddo'i hun, ond cafodd ei amddiffyn â dau glawdd sylweddol. Mae'r ddau glawdd consentrig yn sefyll tua 60m oddi wrth ei gilydd, a chredir fod y tir agored rhyngddyn nhw yn cael ei ddefnyddio gan breswylwyr y gaer i gadw eu gwartheg ac anifeiliaid eraill. Mae'r gaer yn enghraifft dda o'r math o gaerau bychain ar gyfer teuluoedd estynedig sydd mor nodweddiadol o dde-orllewin Cymru. Gellid eu cymharu â'r caerau cyffelyb yn Iwerddon a elwir yn rhathau.[1]
Mae Castell Nadolig yn adnabyddus i archaeolegwyr am fod dwy lwy efydd o wneuthuriad cain, wedi'u haddurno â phlethwaith Celtaidd, wedi eu darganfod ar y safle. Mae'n bosibl eu bod yn waith gofydd metel o dde-orllewin Lloegr, gan fod llwyau cyffelyb wedi'u darganfod yno, yn arbennig yng Nghernyw. Mae'r llwyau i'w gweld yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Cefndir
golyguCofrestrwyd y fryngaer hon gan Cadw a chaiff ei hadnabod gyda'r rhif SAM unigryw: CD053.[2] Ceir tua 300 o fryngaerau ar restr CADW o henebion, er bod archaeolegwyr yn nodi bod oddeutu 570 ohonyn nhw i gyd yng Nghymru.
Fel arfer, fel mae'r gair yn ei awgrymu, ar fryn y codwyd y caerau hyn, er mwyn i'r amddiffynwyr gael mantais milwrol. Un o'r bryngaerau mwyaf trawiadol yng Nghymru ydy Tre'r Ceiri, a hon yw'r fryngaer Oes Haearn fwyaf yng ngogledd-orllewin Ewrop.[3] Mae ei harwynebedd oddeutu 2.5ha.[4] Y mwyaf o ran maint (arwynebedd), fodd bynnag ydy Bryngaer Llanymynech sydd ag arwynebedd o 57 hectar.[5]
Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol oedd eu pwrpas felly, cyn y goresgyniad Rhufeinig; a chafodd cryn lawer ohonynh nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yng ngogledd Cymru. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Christopher Houlder, Wales: An Archaeological Guide (Llundain, 1978)
- ↑ Cofrestr Cadw.
- ↑ References Wales gan John May; Gwasg Prifysgol Cymru.
- ↑ "Gwefan y BBC". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-11. Cyrchwyd 2012-03-04.
- ↑ "Gwefan CPAT". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-07. Cyrchwyd 2012-03-04.