Cen Llwyd
Gweinidog, bardd ac ymgyrchydd o Dalgarreg oedd Cen Llwyd (29 Mawrth 1952 - 12 Mehefin 2022).[1][2]
Cen Llwyd | |
---|---|
Ganwyd | 29 Mawrth 1952 |
Bu farw | 12 Mehefin 2022 |
Man preswyl | Talgarreg |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl, ymgyrchydd, bardd |
Bywyd teuluol
golyguRoedd yn briod ag Enfys Llwyd, ac mae ganddynt ddau o blant, Heledd a Gwenllian.[3] Bu'n dioddef o glefyd Parkinson's ac o effeithiau strôc.[4] Cyn mynd i'r weinidogaeth, bu Cen Llwyd yn gweithio mewn ffatri wlân.[1]
Gyrfa fel gweinidog
golyguRoedd yn gweithio fel gweinidog gyda'r Undodiaid ar gapeli Cribyn, Ciliau Aeron, Rhydygwin, Capel y Groes, Caeronnen Cellan ac Alltyblaca. Bu'n cyflwyno Munud i Feddwl ar Radio Cymru, ac fe gyhoeddodd gyfrol o'i gyfraniadau yn 2018.[1]
Ymgyrchydd
golyguBu'n weithgar fel ymgyrchydd gyda Chymdeithas yr Iaith ac CND Cymru. Roedd yn aelod gweithgar o CND ac yn heddychwr a bu'n rhan o'r ymgyrch yn erbyn lleoli taflegrau niwclear yng Nghomin Greenham yn yr 1980au.[5] Fel rhan o'r ymgyrch dros sefydlu S4C, fe ddringodd fast Moel y Parc gydag Emyr Hywel a bu'n rhan o griw wnaeth feddiannu mast Nebo.[6] Ar Ionawr 27, 1979, carcharwyd Cen Llwyd ynghyd â'i wraig Enfys Llwyd a Twm Elias am iddynt wrthod dalu ffi'r drwydded. Ym 1986, fe berswadiodd yr archesgob Desmond Tutu, oedd yn ymweld ấ Chymru ar y pryd, i lofnodi deiseb dros Ddeddf Iaith newydd.[7]
Cafodd ei ethol i Gyngor Sir Ceredigion i gynrychioli Llandysiliogogo ar ran Plaid Cymru ym 1999 ac eto yn 2004.
Bardd
golyguCyhoeddodd y gyfrol o gerddi Diwrnod Bant ym 1982 fel rhan o Gyfres y Beirdd Answyddogol.[8] Yn ddiweddarach, daeth yn fuddugol ar gystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod Felinfach yn 2012, enillodd gadair Eisteddfod Abergorlech yn 2013 ac eto yn 2016, Cadair Eisteddfod Cenarth yn 2015, a Chadair Eisteddfod Pumsaint yn 2017. [9]
Englynion coffa
golyguCyfansoddwyd englynion i Cen Llwyd gan Siôn Aled Owen, Annes Glynn a Dylan Iorwerth yn dilyn marwolaeth Cen.
Englyn coffa gan Aled Siôn Owen
golyguCen[10]
- Y cleniaf o’r eithafwyr - arweinydd
- ar drin yr heddychwyr;
- y gwiriaf o’r gwladgarwyr:
- sicrach, cadarnach na dur.
Englyn coffa gan Annes Glynn
golyguCafwyd englyn gan Annes Glynn[11]
Cen Llwyd
- Un Cen oedd. Drwy'i acen e - yn ddi-ffael,
- treiddiai'i ffydd a'r Pethe,
- hithau'r iaith; ers mynd 'sha thre
- yn ei eglwys mae gwagle.
Englyn coffa gan Dylan Iorwerth
golyguCyhoeddwyd englyn gan Dylan Iorwerth yng nghylchgrawn Cymdeithas yr Iaith[12]
- Ar y Sul, am roi sylwedd – yn dawel
- Ein diolch diddiwedd,
- Yn oes ofn, am leisio hedd
- A rhoi’i raen ar wirionedd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 "Colli Cen Llwyd y gweinidog addfwyn". Clonc360. 2022-06-13. Cyrchwyd 2022-06-13.
- ↑ "Y Parchedig Cen Llwyd wedi marw yn 70 oed". Newyddion S4C. 13 Mehefin 2022.
- ↑ "Yr ymgyrchydd, heddychwr a gweinidog Cen Llwyd wedi marw". BBC Cymru Fyw. 2022-06-13. Cyrchwyd 2022-06-13.
- ↑ "twitter.com/cenllwyd". Twitter (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-06-13.
- ↑ "Tributes paid to minister and campaigner who 'gave his life and soul to the Welsh language and Wales'". Daily Post. 13 Mehefin 2022.
- ↑ S4C Pwy Dalodd Amdani. ISBN 9781847713124.
- ↑ Tomos, Angharad (Haf 2022). "Cofio Cen Llwyd". Y Tafod: 8. https://cymdeithas.cymru/sites/default/files/2022%20-%2002%20Tafod%20Haf_0.pdf.
- ↑ "Diwrnod Bant (9780862430269) | Cen Llwyd | Y Lolfa". www.ylolfa.com. Cyrchwyd 2022-06-13.
- ↑ "RHESTRAU O ENILLWYR". CASGLU'R CADEIRIAU (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-06-13.
- ↑ "Cen". Facebook bersonol Siôn Aled Owen. 13 Mehefin 2022.
- ↑ "Cen Llwyd". Cyfrif Twitter bersonol Annes Glyn @Yr_Hen_Goes. 16 Mehefin 2022.
- ↑ Iorwerth, Dylan (Haf 2022). "Cofio Cen Llwyd". Y Tafod: 8. https://cymdeithas.cymru/sites/default/files/2022%20-%2002%20Tafod%20Haf_0.pdf.