Canu serch

(Ailgyfeiriad o Cerddi serch)

Barddoniaeth sy'n ymwneud â serch neu gariad yw canu serch. Yn y cyfnod diweddar mae'n tueddu i gael ei gysylltu â cherddi personol, rhamantaidd, ond mae'n genre lenyddol gyda hanes hir iddi ac yn cynnwys rhai o gerddi mawr y byd. Gall canu serch fod yn ganu erotig ond ei brif nodwedd yw mynegi teimlad y bardd neu brydyddes. Mae perthynas agos rhwng canu serch a hanes y delyneg, er nad oes rhaid i ganu serch fod yn ganu delynegol fel y cyfryw.

Canu serch
 
Caniad Solomon: y carwyr brenhinol (llawysgrif ganoloesol)

Ceir enghraifft nodedig o ganu serch cynnar yn yr Hen Destament, sef Caniad Solomon. Er bod diwinyddion yn ei ddadansoddi fel cerdd serch alegorïol am y berthynas rhwng Duw a dyn, mae modd ei darllen fel cerdd serch ddwys am ferch yn y cnawd hefyd. Mae canu serch cyfriniol fel hyn yn nodweddiadol o waith y beirdd Sŵffi hefyd, fel Jalal al-Din Muhammad Rumi a'r beirdd Persiaidd Hafiz ac Omar Khayyam.

Yn yr Henfyd ceir enghreifftiau niferus o gerddi serch yng ngwaith y beirdd: Ofydd yw bardd serch enwocaf y cyfnod (cafodd ddylanwad mawr ar farddoniaeth yr Oesoedd Canol).

Yn llenyddiaeth glasurol India mae gan ganu serch personol - ac erotig yn aml - le pwysig iawn hefyd, e.e. yng ngwaith Bhartrihari.

Yn yr Oesoedd Canol ceir dau fath o ganu serch, sef y canu serch confensiynol a elwir yn serch llys a chanu mwy poblogaidd sy'n gallu bod yn fasweddus. Ceir enghreifftiau da o gonfensiynau serch llys yng ngwaith y Trwbadwriaid a chafodd ddylanwad ar Gymru hefyd. Perthyn rhai o'r cerddi poblogaidd i draddodiad y clerici vagantes ("clerigwyr crwydrol").

Canu serch Cymraeg

golygu

Ceir y cerddi serch cynharaf yn y Gymraeg yng ngwaith rhai o Feirdd y Tywysogion (12g a'r 13eg), e.e. gan Gwalchmai ap Meilyr a Hywel ab Owain Gwynedd.

Mae'n bosibl mai damwain a hap sy'n gyfrifol am y ffaith fod cymharol ychydig o ganu serch o'r cyfnod cyn 1300 ar glawr heddiw. Ond yng nghyfnod Beirdd yr Uchelwyr daw canu serch, ochr yn ochr a'r canu mawl traddodiadol a ffurfiau eraill, i'r amlwg. Cedwir cerddi serch gan nifer o feirdd y cyfnod, yn cynnwys Iolo Goch, "bardd Glyndŵr", ond prif feistr y canu hwn yw Dafydd ap Gwilym. Mae'n bwysig sylwi nad oes fawr o'r elfen "ramantaidd" niwlog a gysylltir â chanu serch yn y meddwl poblogaidd heddiw i'w cael yn y cerddi hyn; mae llawn cymaint o le i droeon trwstan, hiwmor ac eironi â serch fel y cyfryw.

Un o gonfensiynau'r canu serch Cymraeg yw gyrru llatai (negesydd serch) gan y bardd at ei gariadferch.

Gweler hefyd

golygu

Darllen pellach

golygu
  • Glennis Byron ac Andrew J. Sneddon (goln), The Body and the Book: Writings on Poetry and Sexuality (Amsterdam: Rodopi, 2008).