Cerddoriaeth draddodiadol Cymru

canu traddodiadol o Gymru

Mae cerddoriaeth draddodiadol Gymreig yn cyfeirio at gerddoriaeth sy'n cael ei chanu neu ei chwarae yn draddodiadol yng Nghymru, gan Gymry neu sy'n dod o Gymru.

Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolcerddoriaeth yn ôl gwlad neu ardal, music by ethnic group, genre gerddorol Edit this on Wikidata
MathCerddoriaeth Cymru, British folk music Edit this on Wikidata
Gwlady Deyrnas Unedig, Cymru Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
LleoliadCymru Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y band Calan.

Mae artistiaid nodedig yn cynnwys; bandiau traddodiadol Calan ac Ar log; y telynorion Sian James, Catrin Finch a Nansi Richards a'r canwr gwerin a phrotest Dafydd Iwan.

Traddodiad telynGolygu

Llawysgrif Robert ap Huw yw’r gerddoriaeth delyn gynharaf sydd wedi goroesi yn Ewrop ac mae’n dod o Gymru.[1]

Cerdd DantGolygu

Mae'r traddodiad hwn yn tarddu o'r ffurf a ddefnyddiwyd gan y beirdd cynnar i ganu eu barddoniaeth i frenhinoedd, tywysogion a thywysogesau Cymreig.[1]

PlygainGolygu

Eglura'r canwr Arfon Gwilym fod "traddodiad y plygain wedi goroesi yn bennaf yn Sir Drefaldwyn ac yn digwydd mewn eglwysi a chapeli dros gyfnod o chwe wythnos yn ystod y Nadolig a'r flwyddyn newydd."

"Ar ôl gwasanaeth byr, mae'r plygain yn cael ei ddatgan yn agored a gall unrhyw un yn y gynulleidfa gymryd rhan, fel unigolion neu fel partïon bach, y parti mwyaf cyffredin yw tri o bobl, yn canu mewn harmoni clos. Mae'r canu bob amser yn ddigyfeiliant ac yn y gorffennol roedd yn cael ei ddominyddu gan ddynion a oedd yn canu mewn arddull gwerin syml a oedd yn unigryw."[1]

 
Catrin Finch, telynores Gymreig yn InterCeltic Festival yn Lorient, Awst 2008.

gwerin traddodiadol a balediGolygu

Eglura'r gantores Siân James mai "baled a ddaliodd fy nychymyg o oedran ifanc iawn oedd yr hynod brydferth Yr Eneth ga'dd ei esgus - baled o'r 19g o ardal Cynwyd ger y Bala, Gwynedd, sy'n adrodd hanes y stori merch ifanc sydd, yn ei chael ei hun allan o briodas, yn cael ei thaflu allan o'i chartref teuluol gan ei thad, ei halltudio gan ei chymuned a'i gadael yn amddifad." "Mae'n dod i ben gyda'r ferch yn boddi ei hun. Fe'i darganfyddir gyda nodyn dwr-sodden yn ei llaw, yn gofyn am gael ei chladdu heb garreg fedd, felly byddai ei bodolaeth yn cael ei anghofio."[1]

Riliau dawnsGolygu

Diolch i waith unigolion fel Arglwyddes Llanofer yn y 18g, mae llawer o riliau dawns traddodiadol Cymru wedi goroesi.[1]

Macaronic: Caneuon dwyieithogGolygu

Datblygodd caneuon macaronig yn ystod y chwyldro diwydiannol pan unodd Cymry Cymraeg â gweithwyr mudol i ffurfio caneuon dwyieithog.[1]

Adfywiad gwerin CeltaiddGolygu

Yn y 1960au a'r 1970au cynyddodd actifiaeth Gymraeg yn sylweddol. Grŵp canu gwerin Cymreig adnabyddus yw Ar Log: “Erbyn yr wythdegau cynnar roedd Ar Log yn teithio Ewrop a Gogledd a De America am tua naw mis o’r flwyddyn gyda chyfoeth o gerddoriaeth werin Gymreig draddodiadol ar gael inni, o ganeuon dirdynnol a alawon telyn, i donau dawns swynol, a siantis môr cynhyrfus."[1]

Caneuon gwerin a phrotest modernGolygu

Canwr a chyfansoddwr o Gymru yw Dafydd Iwan sy’n adnabyddus am ei weithgarwch gwleidyddol yn ystod y 1960au, 1970au a’r 1980au ac ymgyrch dros y Gymraeg gan Gymdeithas yr Iaith, Mudiad yr Iaith Gymraeg. Dywed fod "caneuon wedi bod yn gyfrwng naturiol i fynegi emosiynau cryf a phrotest wleidyddol ers canrifoedd, ac yma yng Nghymru mae traddodiad hir o faledi â thema gymdeithasol a gwleidyddol gref".[1]

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 "Ten of the best: A history of Welsh folk music tradition". BBC News (yn Saesneg). 2013-10-24. Cyrchwyd 2022-04-27.