Chaniaeth y Crimea
Un o wladwriaethau olynol y Llu Euraid a sefydlwyd ym 1441 oedd Chaniaeth y Crimea, a fu'n wladwriaeth gaeth i'r Ymerodraeth Otomanaidd o 1475 i 1772, a chafodd ei gyfeddiannu gan Ymerodraeth Rwsia ym 1783. Roedd ei thiriogaeth yn cynnwys holl orynys y Crimea, ac eithrio'r arfordiroedd deheuol a gorllewinol, a'r stepdiroedd cyfagos sydd heddiw yn rhannau o dde-ddwyrain yr Wcráin a rhanbarth Kuban yn ne Rwsia. Tatariaid o'r ffydd Islamaidd oedd y boblogaeth. Prifddinas Chaniaeth y Crimea oedd Bağçasaray, preswylfa frenhinol y Giray.
Math | gwlad ar un adeg |
---|---|
Prifddinas | Bakhchysarai, Chufut-Kale, Staroselye |
Poblogaeth | 1,500,000 |
Sefydlwyd | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Turki, Tyrceg Otomanaidd, Tatareg y Crimea |
Daearyddiaeth | |
Arwynebedd | 400,000 km² |
Yn ffinio gyda | Y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd, Moscovia, yr Ymerodraeth Otomanaidd |
Cyfesurynnau | 44.755°N 33.8525°E |
Crefydd/Enwad | Islam, Swnni |
Wrth i'r Llu Euraid ymddatod yn y 14g, brwydrodd y cadlywydd Hacı Giray, a hawliodd linach Genghis Khan, i fod yn chan dros y rhan hon o'r cyn-Ymerodraeth Fongolaidd. Cafodd ei gydnabod yn Chan y Crimea erbyn 1441, gan sefydlu brenhinllin y Giray. Byddai ei fab, Meñli I Giray, yn gwahodd penseiri o'r Eidal i adeiladu Palas y Chan a Madras Zincirli yn Bağçasaray ac yn noddi arlunwyr a llenorion yn ei deyrnas, gan ennill amlygrwydd i'r Crimea fel ganolfan ddiwylliannol i Fwslimiaid yn rhanbarth y Môr Du.[1]
Ers canol y 13g, bu Gweriniaeth Genoa yn sefydlu gwladfeydd o'r enw Gazaria ar hyd arfordir deheuol y Crimea er mwyn masnachu yn y Môr Du. Sefydlwyd hefyd Tywysogaeth Theodoro ar yr orynys gan y Groegiaid yn nechrau'r 14g fel un o ôl-wladwriaethau'r Ymerodraeth Fysantaidd. Ym 1475 gorchfygwyd y tiroedd Cristnogol hyn gan yr Otomaniaid, gan ffurfio rhan o dalaith Rumelia (ac yn ddiweddarach talaith Kefe), a daeth Chaniaeth y Crimea yn wladwriaeth gaeth i'r ymerodraeth honno a chanddi radd uchel o ymreolaeth. Byddai'r chaniaeth yn darparu lluoedd, gan gynnwys eu saethwyr-farchogion enwog, i'r Otomaniaid yn fynych yn yr 16g a'r 17g, er enghraifft ar gyfer y fuddugoliaeth fawr dros Hwngari ym Mrwydr Mohács (1526) a'r ymgyrch yn erbyn Ymerodraeth y Safavi (1578–90).
Byddai'r chaniaeth yn lansio ymgyrchoedd achlysurol yn erbyn Uchel Ddugiaeth Moscfa yn ei blynyddoedd cynnar, ond nid oedd y Tatariaid bellach yn fygythiad milwrol mawr i'r Rwsiaid, hyd yn oed wedi i'r Crimea ddod dan dra-arglwyddiaeth yr Otomaniaid ym 1475. Parhaodd Moscfa i dalu arian teyrnged i'r amryw chaniaethau nes i'r Uchel Dywysog Ifan III ddatgan annibyniaeth ei deyrnas ym 1480. Er gwaethaf, trwy gydol ei hanes, byddai lluoedd o'r Crimea yn aml yn dwyn cyrchoedd ar dywysogaethau Rwsia a thiroedd Slafig eraill i anrheithio ac i herwgipio gwerinwyr Rwsiaidd, Wcreinaidd, a Phwylaidd ar gyfer y fasnach gaethweision. Cawsant eu gwerthu mewn marchnadoedd ym mhorthladdoedd Kefe a Gözleve i farsiandïwyr Tyrcaidd, Persiaidd, ac Eifftaidd, a'u hallforio ar draws y byd Mwslimaidd. Yn ôl cofnodion trethi, gwerthwyd mwy na miliwn o gaethweision yn y Crimea yn yr 16g a'r 17g.[1]
Trwy gydol yr 16g, ymladdwyd cyfres o ryfeloedd rhwng Rwsia, a ddatganwyd yn tsaraeth ym 1547, a Chaniaeth y Crimea a Llu'r Nogai, un arall o wladwriaethau olynol y Llu Euraid. Llwyddodd y Tsar Ifan IV i orchfygu'r ddwy brif chaniaeth arall, Kazan ac Astrakhan, ond parhaodd y Crimea yn gadarnle o elyniaeth Dataraidd rhwng Rwsia a'r Môr Du. Erbyn diwedd yr 16g, Chaniaeth y Crimea oedd y cilcyn olaf o diriogaeth Dataraidd i orllewin Mynyddoedd yr Wral a oedd yn dal i wrthsefyll tra-arglwyddiaeth y Rwsiaid. Ymdrechai'r Tywysog Vasily Golitsyn ddwywaith, yn aflwyddiannus, i ddarostwng y Crimea ym 1687 a 1689.[2]
Byddai'r chaniaeth yn goroesi am gan mlynedd arall ym mron, gan ddwyn rhagor o gyrchoedd i'r gogledd nes i Catrin Fawr ei dwyn dan iau Rwsia yn ystod ei theyrnasiad. Yn ystod Rhyfel Rwsia a'r Otomaniaid (1768–74), gorfodwyd i'r chaniaeth dderbyn "cynghrair a chyfeillgarwch tragwyddol" gyda Rwsia ym 1772, ac yn sgil Cytundeb Küçük Kaynarca (1774) bu'n rhaid i'r chaniaeth dorri ei chysylltiadau â'r Ymerodraeth Otomanaidd. Cydnabuwyd annibyniaeth i'r chan olaf, Şahin Giray, weinyddu ei wlad dan dra-arglwyddiaeth Rwsia, ond cafodd yr ymdrech hon ei hystyried yn fethiant gan Catrin Fawr ac o'r diwedd penderfynodd hi gyfeddiannu'r Crimea yn rhan o'i hymerodraeth ym 1783.[1] Hon oedd y chaniaeth olaf ond un; cwympodd Chaniaeth y Casachiaid yng Nghanolbarth Asia o'r diwedd ym 1847.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Alan Fisher, "Crimean Khanate" yn Encyclopedia of Russian History. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 9 Rhagfyr 2021.
- ↑ (Saesneg) Khanate of Crimea. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Rhagfyr 2021.