Charles Alfred Bell

Tibetolegwr Eingl-Indiaidd a aned yn Calcutta oedd Syr Charles Alfred Bell (31 Hydref 18708 Mawrth 1945). Cafodd yrfa hir fel swyddog gwleidyddol ac ysgrifennodd sawl cyfrol ar hanes, iaith, a diwylliant Tibet.

Charles Alfred Bell
Ganwyd1870 Edit this on Wikidata
Kolkata Edit this on Wikidata
Bu farw1945 Edit this on Wikidata
Victoria Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Raj Prydeinig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdiplomydd, gwleidydd, geiriadurwr, ieithydd, ysgrifennwr, arbenigwr mewn astudiaethau Tibetaidd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCydymaith Urdd St.Mihangel a St.Siôr, Knight Commander of the Order of the Indian Empire Edit this on Wikidata
Erthygl am y Tibetolegwr yw hon. Am yr anatomegydd gweler Charles Bell.

Astudiodd Bell yng Ngholeg Winchester, Lloegr. Ar ôl ymuno â Gwasanaeth Sifil India cafodd ei apwyntio yn Swyddog Gwleidyddol yn Sikkim yn 1908. Daeth yn ffigwr amlwg a dylanwadol yng ngwleidyddiaeth Sikkim a Bhwtan, ac yn 1910 cyfarfu a'r 13eg Dalai Lama, a oedd wedi ffoi i alltudiaeth dros dro yn India ar ôl i Tsieina ymyrryd yn Nhibet. Daeth i adnabod y Dalai Lama yn weddol dda ac yn nes ymlaen ysgrifennodd ei fywgraffiad (Portrait of a Dalai Lama, cyhoeddwyd yn 1946).

Treuliodd gyfnodau fel Swyddog Gwleidyddol Prydeinig, yn cynrychioli buddianau yr India Brydeinig, yn Bhwtan, Sikkim a Tibet, gan gynnwys cyfnod yn Lhasa. Rhoes hyn y cyfle iddo deithio'n eang a dysgu Tibeteg. Ffrwyth hyn oll oedd cyfres o lyfrau pwysig ar Dibet a'i diwylliant sy'n amlygu ei gydymdeimlad amlwg â'r wlad a'i phobl, cydymdeimlad sy'n mynd mor bell ag i gondemnio polisïau Prydain yn yr ardal, a adawodd Dibet yn agored i ymyrraeth gan Tsieina.

Fel ieithydd, cyhoeddodd ramadeg Tibeteg a geiriadur Saesneg-Tibeteg, a gyhoeddwyd yn 1905. Roedd yn adnabod yr ieithydd Tibeteg a geiriadurwr Sarat Chandra Das ac yn ymgynghori ag ef yn ei fila yn Darjeeling.

Ymddeolodd i Rydychen yn 1920, lle ymroddodd i ysgrifennu ei gyfrolau ar Dibet. Gadawodd nifer o'i luniau o Dibet i Amgueddfa Pitt Rivers yn Rhydychen, lle maent i'w gweld o hyd. Bu farw yn Canada yn 1945.

Llyfryddiaeth golygu

  • English-Tibetan Colloquial Dictionary (cyhoeddwyd yn ddwy ran, gyda gramadeg, fel Manual of Colloquial Tibetan, yn Calcutta, 1905; argraffiad newydd un gyfrol, 1920; adargraffiad, Calcutta, 1986)
  • Tibet Past and Present (Rhydychen, 1924)
  • The People of Tibet (Rhydychen, 1928)
  • The Religion of Tibet (Rhydychen, 1931)
  • Portrait of the Dalai Lama (Llundain, 1946)