Chaturanga Dandasana (Astell Isel)

asana neu safle ioga

Asana, neu osgo mewn ymarferion ioga yw Chaturanga Dandasana (Sansgrit: चतुरङ्ग दण्डासन; IAST: Caturaṅga Daṇḍāsana) neu Astell Isel.[1] Asana cydbwyso ydy'r asana yma, a chaiff ei ymarfer o fewn ioga modern fel ymarfer corff ac mewn rhai mathau o Surya Namaskar (Cyfarchiad i'r Haul), lle mae'r corff syth yn gyfochrog â'r llawr, ac yn cael ei gynnal gan fysedd y traed a chledrau'r dwylo. Mae'r penelinoedd ar ongl sgwâr ar hyd y corff. Cedwir y breichiau'n syth yn yr amrywiad Kumbhakasana neu Phalakasana (Astell Uchel).

Chaturanga Dandasana
Enghraifft o'r canlynolasana Edit this on Wikidata
Mathasanas lledorwedd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Amrywiad gyda breichiau'n syth: Kumbhakasana, Phalakasana (Astell Uchel)

Etymology a tharddiad golygu

Daw'r enw o'r Sansgrit: चतुर्; IAST catur, sy'n debyg iawn i'r gair Cymraeg "pedwar"; अङ्ग aṅga, "aelod (o'r corff)"; दण्ड daṇḍa, "ffon"; a आसन; âsana, "osgo" neu "siap y corff".[2] Y cyfieithiad llythrennol felly yw 'Ffon Pedwar Aelod'.

Nid yw'r ystum yn hysbys yn hen destunau canoloesol ioga hatha, tan yr 20g pan gyhoeddwyd Light on Yoga, ond mae'r ystum yn ymddangos yn Vyayama Dipika 1896, llawlyfr gymnasteg, fel rhan o'r dilyniant "hen iawn" o ymarferion danda. Mae Norman Sjoman yn awgrymu ei fod yn un o'r asanas a fabwysiadwyd gan ioga modern yn Mysore gan Krishnamacharya ac yn ffurfio "sylfaen" ar gyfer ei vinyasas gyda'r asanas yn llifo i'w gilydd yn llyfn. Wedi hynny, byddai ei ddisgyblion Pattabhi Jois a BKS Iyengar wedi cymryd yr ystumiau hyn yn rhan o'u hymarferion nhw.[3]

Amrywiadau golygu

Gall dechreuwyr ymarfer gyda'r pengliniau ar y llawr, neu gadw'r breichiau'n syth (yn Kumbhakasana, a elwir hefyd yn Phalakasana neu Astell Uchel), cyn ceisio'r ystum llawn. Defnyddir Astell Uchel hefyd mewn rhai ffurfiau o Gyfarchion yr Haul.[4]

Gweler hefyd golygu

Llyfryddiaeth golygu

  • Iyengar, B. K. S. (2005). Illustrated Light On Yoga. HarperCollins. ISBN 978-81-7223-606-9.
  • Kaminoff, Leslie (2007). Yoga Anatomy. The Breath Trust. ISBN 978-0-7360-6278-7.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Yoga Journal - Four-Limbed Staff Pose". Cyrchwyd 2011-04-09.
  2. Sinha, S. C. (1 Mehefin 1996). Dictionary of Philosophy. Anmol Publications. t. 18. ISBN 978-81-7041-293-9.
  3. Sjoman, Norman E. (1999) [1996]. The Yoga Tradition of the Mysore Palace. Abhinav Publications. tt. 54–55, 100–101. ISBN 81-7017-389-2.
  4. Hughes, Aimee. "Sun Salutation A Versus Sun Salutation B: The Difference You Should Know". Yogapedia.

Dolenni allanol golygu