Christine James
Mae'r Athro Brifardd Christine James (ganed Chwefror 1954)[1] yn athro emerita yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe. Enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau yn 2005 am ei chasgliad o gerddi rhydd ar thema o'i dewis ei hun.[2] Enw'r casgliad oedd Llinellau Lliw, a chyflwynodd y gwaith o dan y ffugenw "Pwyntil". Maent yn gerddi egffrastig - hynny yw, cerddi sy'n ymateb i weithiau celf. Hi hefyd oedd bardd gwadd y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch, 2008.
Christine James | |
---|---|
Christine James yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2018. | |
Ganwyd | Chwefror 1954 Tonypandy |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, llenor, person dysgedig |
Priod | E. Wyn James |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Fe etholwyd Christine James yn aelod o Fwrdd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn 2010 ac fe'i henwebwyd gan Fwrdd yr Orsedd i fod yn Archdderwydd o 2013-2016.[3]. Fe'i gorseddwyd yn Archdderwydd Cymru yng Nghaerfyrddin, 29 Mehefin 2013, yn ystod Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014.
Fe'i hetholwyd yn Gofiadur Gorsedd y Beirdd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017.
Ei chefndir a'i gwaith
golyguGaned Christine James (née Mumford) yn Nhonypandy. Daeth teulu ei thad o ganolbarth Lloegr a theulu ei mam o dde-orllewin Lloegr, ond ganwyd ei rhieni yng Nghwm Rhondda Fawr. Nid oedd ei rhieni yn siarad Cymraeg heblaw am ambell air o ddyddiau ysgol, felly Saesneg oedd iaith yr aelwyd.[1] Aeth i Ysgol Gynradd Tonypandy ac ymlaen i Ysgol Ramadeg y Merched, Y Porth lle dysgodd y Gymraeg fel ail iaith. Astudiodd y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth lle enillodd radd BA yn y dosbarth cyntaf yn 1975. Aeth ymlaen i olygu testun o Gyfraith Hywel, cyfreithiau hanesyddol Cymru, ar gyfer doethuriaeth, a ddyfarnwyd iddi yn 1984.
Rhwng 1979 a 1981, bu'n gynorthwyydd golygyddol yn yr Academi Gymreig, yn gweithio ar Cydymaith i Lenydddiaeth Cymru. Yn 1985, fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe, lle y mae erbyn hyn yn Athro Emerita.[4] O ran ei hymchwil academaidd, y mae'n arbenigo ar lenyddiaeth yr Oesoedd Canol a'r cyfnod modern cynnar ac ar lenyddiaeth cymoedd diwydiannol de Cymru. Mae hi'n un o gymrodyr etholedig yr Academi Gymreig a Chymdeithas Ddysgedig Cymru.
Yn 2001, cyhoeddwyd ei golygiad o gerddi'r bardd D. Gwenallt Jones, Cerddi Gwenallt: Y Casgliad Cyflawn (Gwasg Gomer).
Bu hefyd yn golygu'r cylchgrawn Taliesin ar y cyd â Manon Rhys rhwng 2000 a 2009.[4].
Dechreuodd farddoni ar ôl cyfnod o salwch, fel modd i ddygymod â'r anhwylder. Dywedodd mewn cynhadledd i'r wasg ar ôl iddi ennill y Goron yn 2005:
"Fe gefais i salwch a chyfnod o wendid hir yn dilyn hynny ac yr oedd peidio â gallu gweithio yn sioc i'r system ac fe gychwynais i farddoni fel ffordd o ddod mas o'r salwch - ac yr oedd yn rhyw fath o gatharsis i weithio fy ffordd drwy'r dryswch a'r gwendid."[5]
Cyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, rhwng y llinellau, gan Gyhoeddiadau Barddas yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych yn 2013. Y gyfrol hon oedd enillydd categori Barddoniaeth cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2014.
Bywyd personol
golyguMae'n byw yng Nghaerdydd gyda'i gŵr, yr Athro E. Wyn James, a fu tan ei ymddeoliad yn ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae ganddynt dri o blant, sef Eleri, Emyr ac Owain, a phump o wyrion.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Holi bardd y Goron. BBC Cymru (Rhagfyr 2005). Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2016.
- ↑ Coron i Christine Gwefan Newyddion y BBC. 1-08-2005. Adalwyd ar 12-07-2009
- ↑ Gwefan y BBC
- ↑ 4.0 4.1 "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-12-25. Cyrchwyd 2013-11-29.
- ↑ Coron 2005 Darluniau Christine. Gwefan y BBC. Adalwyd 12-07-2009