Cilwg yn Ôl (drama)
Cyfieithiad y dramodydd John Gwilym Jones o'r ddrama lwyfan Look back in Anger yw Cilwg yn Ôl neu Cilolwg yn Ôl. John Osborne yw awdur y ddrama wreiddiol. Ni chafodd y cyfieithiad ei gyhoeddi.
Awdur | John Osborne |
---|---|
Cyhoeddwr | ni chafodd ei gyhoeddi |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Genre | Dramâu Cymraeg |
Cymeriadau
golygu- Jimmy Porter - yw'r "gŵr ifanc blin" sy'n anfodlon iawn efo'r uwch ddosbarth Prydeinig
- Alison Porter - ei wraig anfoddedig
- Helena Charles - cyfaill cariadus Jimmy o'r uwch ddosbarth
- Cliff Lewis - cyd letywr Jimmy ac Alison o'r dosbarth gweithiol
- Cyrnol Redfern - tad Alison a chyn-gyrnol Prydeinig.
Cynyrchiadau nodedig
golygu1960au
golyguLlwyfannwyd y cyfieithiad Cymraeg am y tro cyntaf gan Gymdeithas Ddrama Prifysgol Cymru Bangor yn y 1960au gyda Maureen Rhys a John Ogwen ymysg y myfyrwyr oedd yn perfformio.[1] Cyfarwyddwr John Gwilym Jones; cast
- Alison Porter - Maureen Rhys
- Helena Charles
- Jimmy Porter - John Ogwen
- Cliff Lewis
- Cyrnol Redfern
Dyma'r cynhyrchiad osododd seiliau carwriaethol i briodas John a Maureen, yn ôl Maureen Rhys mewn erthygl yn 2015: "Roedden ni'n 'nabod ein gilydd i ddweud helo gan fod ni'n dau'n astudio drama yng Ngholeg Bangor o dan John Gwilym Jones. Ond gymerodd hi berfformiad o addasiad Cymraeg o ddrama John Osborne Look Back in Anger i ni ddod at ein gilydd fel petai. [...] Roedd y ddau ohonon ni'n aelodau o gast Cilwg yn Ôl, ond gan fod na ddau gast gwahanol ar gyfer gwahanol berfformiadau, roeddan ni ar wahân am y rhan helaeth o'r perffomiadau. Ond, roeddan ni yn digwydd bod yn yr un cast am dair noson, ac roedd fy nghymeriad i fod i roi peltan i gymeriad John, a wedyn ei gusanu. A dyna pryd wnaeth o ddigwydd!", ychwanegodd.[1]
1970au
golyguLlwyfannwyd y cyfieithiad gan Gwmni Theatr Cymru ym 1970.[2] Cyfarwyddwr Wilbert Lloyd Roberts a Beryl Williams.[3]
- Alison Porter - Gaynor Morgan Rees
- Helena Charles - Iona Banks
- Jimmy Porter - John Ogwen
- Cliff Lewis - Gwyn Parry
- Cyrnol Redfern - David Welch
1980au
golyguLlwyfannwyd y ddrama gan Theatr Fach Llangefni ym 1985.[4]
- Alison Porter
- Helena Charles
- Jimmy Porter
- Cliff Lewis
- Cyrnol Redfern
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Er gwell, er gwaeth!". BBC Cymru Fyw. 2015-01-22. Cyrchwyd 2024-09-10.
- ↑ "Jan 15, 1970, page 12 - The North Wales Weekly News at Newspapers.com". Newspapers.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-10.
- ↑ "Rhagorol online catalogue". diogel.gwynedd.llyw.cymru. Cyrchwyd 2024-09-10.
- ↑ "archifau".