Confensiwn Cemegolion
Confensiwn Cemegolion, 1990 oedd y 77fed sesiwn o'r Confensiwn Llafur Rhyngwladol a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 1990 yn Genefa. Pwrpas y confensiwn oedd nodi pwysigrwydd diogelu'r amgylchedd, y cyhoedd a gweithwyr diwydiannol rhag cemegau.
Enghraifft o'r canlynol | Confensiwn y Sefydliad Llafur Rhyngwladol |
---|---|
Dyddiad | 1990 |
Lleoliad | Genefa |
Mae'n nodi perthnasedd Confensiwn Budd-daliadau Anafiadau Cyflogaeth, 1964, Confensiwn ac Argymhelliad Bensen, 1971, Confensiwn Canser Galwedigaethol ac Argymhelliad 1974, Confensiwn Amgylchedd Gwaith (Llygredd Aer, Sŵn a Dirgryniad), 1977, y rhestr o glefydau galwedigaethol a ddiwygiwyd ym 1980, Confensiwn ac Argymhelliad Iechyd a Diogelwch Galwedigaethol, 1981, Confensiwn ac Argymhelliad Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol, 1985 a Chonfensiwn ac Argymhelliad Asbestos 1986. Mae'n nodi pwysigrwydd y drefn o hysbysu gweithwyr am y cemegau a ddefnyddir a lleihau'r posibilrwydd o salwch ac anafiadau yn y gwaith.[1]
Cwmpas a diffiniadau
golyguMae'r ddwy erthygl gyntaf yn ymdrin â'r diffiniadau o'r gwahanol dermau i'w defnyddio yn y confensiwn hwn a'r meysydd cymhwyso neu gwmpasau cymhwyso.
Erthygl 1
golyguMae'r confensiwn hwn yn berthnasol i bob cangen o economi, lle defnyddir cemegau. Ar ôl asesiad o'r peryglon dan sylw a mesurau amddiffynnol i'w defnyddio, gall sefydliad gael ei eithrio gan awdurdod cunrhyw aelod-wladwriaeth os deuir ar draws problemau arbennig, os darperir amddiffyniad digonol, neu os na fydd y rhagofalon a gymerir i ddiogelu gwybodaeth gyfrinachol yn peryglu diogelwch gweithwyr. Nid yw'r confensiwn hwn yn berthnasol i erthyyglau nad ydynt yn ymwneud â gweithwyr mewn gweithleoedd lle ceir cemegau peryglus. Nid yw'n berthnasol i organebau, ond mae;n berthnasol i gemegau sy'n deillio o organebau.
Erthygl 2
golyguDiffinnir y term cemegau fel elfennau a chyfansoddion naturiol neu synthetig ar gyfer y confensiwn hwn.Mae'r term cemegolion peryglus yn golygu unrhyw gemegyn a ddosberthir fel un peryglus o dan Erthygl 6 neu y mae gwybodaeth yn bodoli ar ei gyfer sy'n nodi ei fod yn beryglus.Mae'r term eitem yn awgrymu gwrthrych sydd â siâp neu batrwm penodol wrth ei weithgynhyrchu neu sydd ar ffurf naturiol ac y mae ei ddefnydd yn dibynnu'n gyfan gwbl neu'n rhannol ar ei siâp neu batrwm.Mae cynrychiolwyr gweithwyr yn bersonau a gydnabyddir gan gyfraith neu ymarfer cenedlaethol yn unol â Chonfensiwn Cynrychiolwyr y Gweithwyr, 1971 .
Darpariaethau cyffredinol
golyguErthygl 3
golyguRhaid ymgynghori â sefydliadau mwyaf cynrychioliadol y cyflogwyr a'r gweithwyr dan sylw ar y mesurau a gaiff eu gweithredu.
Erthygl 4
golyguBydd pob aelod-wladwriaeth yn llunio, gweithredu ac yn adolygu o bryd i'w gilydd bolisi cydlynol ar gyfer diogelwch wrth ddefnyddio cemegau yn y gweithle.
Erthygl 5
golyguCaniateir i'r awdurdod cymwys wahardd rhai cemegau peryglus rhag cael eu defnyddio ar sail diogelwch neu ofyn am gymeradwyaeth i'w defnyddio, ymlaen llaw.
Dosbarthiad a mesurau cysylltiedig
golyguMae erthyglau chwech i naw yn ymdrin â dosbarthiad yr holl gemegau, cyflenwad, rhagofalon diogelwch ac argymhellion y Cenhedloedd Unedig. Mae'r mesurau'n cael eu cofnodi ar daflenni data diogelwch wedi'u haddasu.
Erthygl 6
golyguRhaid i'r awdurdod cymwys neu gorff a gymeradwyir neu a gydnabyddir gan yr awdurdod cymwys sefydlu systemau ar gyfer dosbarthu pob cemegyn.Gellir pennu priodweddau peryglus cymysgeddau ar sail pa mor beryglus yw'r cydrannau unigol.Efallai y bydd Argymhelliad y Cenhedloedd Unedig yn cael ei ystyried wrth gludo nwyddau peryglus.Mae'r systemau dosbarthu a'u cymhwysiad yn cael eu hehangu'n raddol.
Erthygl 7
golyguRhaid i bob cemegyn gael ei labelu. Rhaid marcio cemegau peryglus yn arbennig. Bydd y marciau hyn yn cael eu gwneud gan yr awdurdod cymwys ei hun neu bydd yr awdurdod cymwys yn caniatáu'r marcio. Wrth gludo nwyddau peryglus, rhaid ystyried argymhellion y Cenhedloedd Unedig.
Erthygl 8
golyguRhaid darparu taflenni data i gyflogwyr sy'n cynnwys gwybodaeth am beryglon, cyflenwyr, rhagofalon diogelwch a gweithdrefnau brys ar gyfer cemegau peryglus.Mae'r taflenni data'n amodol ar feini prawf a osodwyd gan yr awdurdod cymwys neu gyrff cydnabyddedig o dan Feini Prawf. Rhaid i'r enw a ddefnyddir ar y taflenni data gyfateb i'r enw ar y label.
Am weddill y rhestr, gweler gwefan y CU.
Cadarnhau
golyguYn Ionawr 2023, cadarnhawyd y confensiwn gan 23 o wledydd.[2]
Gwlad Belg | 14 Mehefin 2017 | Mewn grym |
Brasil | 23 Rhagfyr 1996 | Mewn grym |
Burkina Faso | 15 Medi 1997 | Mewn grym |
Tsieina | 11 Ionawr 1995 | Mewn grym |
Colombia | 06 Medi 1994 | Mewn grym |
Cyprus | 02 Awst 2016 | Mewn grym |
Côte d'Ivoire | 01 Tachwedd 2019 | Mewn grym |
Gweriniaeth Dominica | 03 Ionawr 2006 | Mewn grym |
Ffindir | 21 Ionawr 2014 | Mewn grym |
Almaen | 23 Tachwedd 2007 | Mewn grym |
Eidal | 03 Gorff 2002 | Mewn grym |
Libanus | 26 Ebrill 2006 | Mewn grym |
Lwcsembwrg | 08 Ebrill 2008 | Mewn grym |
Mecsico | 17 Medi 1992 | Mewn grym |
Iseldiroedd | 08 Mehefin 2017 | Mewn grym |
Norwy | 26 Tachwedd 1993 | Mewn grym |
Gwlad Pwyl | 19 Mai 2005 | Mewn grym |
Gweriniaeth Corea | 11 Ebrill 2003 | Mewn grym |
Sweden | 04 Tachwedd 1992 | Mewn grym |
Swistir | 25 Ebrill 2022 | Daw i rym ar 25 Ebrill 2023 |
Gweriniaeth Arabaidd Syria | 14 Mehefin 2006 | Mewn grym |
Gweriniaeth Unedig Tanzania | 15 Mawrth 1999 | Mewn grym |
Zimbabwe | 27 Awst 1998 | Mewn grym |