Gwyrddling
Myrica gale | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
Urdd: | Fagales |
Teulu: | Myricaceae |
Genws: | Myrica |
Rhywogaeth: | M. gale |
Enw deuenwol | |
Myrica gale Carl Linnaeus | |
Cyfystyron | |
Gale palustris |
Llwyn neu goeden bychan blodeuol a deugotyledon yw'r Gwyrddling (neu'r Helygen Fair). Derbynir y ddau enw, o statws hafal, oherwydd tras hir y cyntaf ac arferiad cyfoes (ond anghywir o ran ei dacsonomeg - nid yw'n aelod o deulu'r helyg) yr ail. Mae'n perthyn i'r teulu Myricaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Myrica gale a'r enw Saesneg yw Bog myrtle.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Helygen Fair, Bwrli, Cwrli, Gwrling, Gwrddling, Gwyrddling, Madrwydd, Madywydd, Madywydd Bêr, Mordywydd a Myrtwydd y Gors.
Gall dyfu i uchder o ddwy fetr ac mae'n perthyn yn agos i'r llawryf.
Disgrifiad
golyguLlwyn bychain collddail, yn aml yn tyfu'n glystyrau sy'n gorchuddio darnau helaeth o dir corsiog. Y blodau melyn-frown yn debyg i gynffonau wyn back byrrion. Fe'u peillir gan y gwynt yn gynnar yn Ebrill a Mai a cheir y blodau gwrywaidd a benywaidd fel arfer ar blanhigion gwahanol. Gorchuddir y planhigyn a chwarennau bychain melyn, llawn ystor persawrus - tebyg i eucalyptus - sy'n gwneud y dail hirgrwn a'r blagur yn arbennig o aroglus.
Ecoleg
golyguCynefin a thiriogaeth
golyguYn tyfu yn bennaf ar weundiroedd yn rhannau gogledd orllewinal a mwy glawog Prydain ac Iwerddon.[2] Yn lled gyffredin yng Ngwynedd a rhannau o Fôn ar dir na chaiff ei bori ond yn ysgafn ond yn gyfyngedig iawn mewn ardaloedd eraill o Gymru. Yn tyfu fel arfer gyda glaswellt y gweunydd Molinia caerulea a migwyn (rh. Sphagnum). Yn Ewrop mae ganddo ddosbarthiad arfordirol Atlantaidd gogleddol yn ymestyn o Galicia, ar hyd arfordir yr Iwerydd, y Baltig, a hyd gogledd Norwy.[3]
Palaeobotaneg
golyguGellir adnabod olion hynafol y gwyrddling ar ffurf paill ac fel olion yn ymylu ar fod yn ffosil. Er hyn, bu dryswch erioed rhwng paill y gwyrddling a phaill y gollen a bu'n rhaid anwybyddu llawer o'r samplau mwyaf anargyhoeddiadol gyda bod anhysonderau rhwng tystiolaeth yr olion paill a thystiolaeth yr olion macrosgopig yn dod i'r amlwg. Yn y ffynhonnell sydd dan sylw yma,[4] fe gyfyngwyd y dystiolaeth i'r olion macrosgopig yn unig.
Heddiw cyfyngir y gwyrddling i gorsydd nad ydynt ar y naill law yn rhy sûr (asidig) nac ar y llaw arall, yn rhy 'felys' (ewtroffig). Ar raddfa amser ôl-rewlifol mae bron y cwbl o'r cofnodion yn digwydd ar ôl diwedd Parth Paill VIIa [tua 500CC, dechrau'r Oes Haearn a'r Is-Atlantaidd pan oedd yr hinsawdd yn cynhesu, yn wlypach a phan oedd gweithgareddau amaethyddol llwythau'r Oes Haearn yn gyflym tanseilio'r gorchudd o goed a oedd tan hynny yn ymestun dros 90% o'r tir.[5]] Hyd ddyddiau Pennington (1969) ni chafwyd tystiolaeth o'r gwyrddling ym Mhrydain cyn hynny (ac eithrio un cofnod o'r cyfnod Atlantaidd 6-3 mil o flynyddoedd CC) ond newidiodd hynny yn ddiweddarach[6] gyda chynrychiolaeth llawer mwy helaeth o'r cyfnod Atlantaidd yn dod i'r fei. Golyga hyn bod y gwyrddling yn rhan o fflora y Mesolithig hwyr a'r Neolithig pan oedd coed yn gorchuddio oddeutu 90% o'r dirwedd
Mae perthynas y gwyrddling a hinsawdd gynnes yn cynnwys hoffter am hinsawdd arfordirol hefyd fel mae ei ddosbarthiad yn Ewrop yn ei awgrymu heddiw gan mai cyfyngedig i arfordiroedd gogledd a gorllewin Ffrainc ac arfordir gogledd Portiwgal [!Galicia?] ydyw.[7]
Gofynion hinsoddol a thopograffig
golyguMae'n ffynnu mewn hinsawdd cefnforol o lawiad yn cyrraedd o leiaf 200 o ddyddiau glaw y flwyddyn. Mae'n blanhigyn sydd yn hoffi'r golau ac mae'n brin lle mae'r golau yn llai na 40% (ond dan rhai amgylchiadau mae'n gallu byw dan gysgod coed). Mae'n arwydd cryf o safle gwlyb, ac yn ffynnu mewn corsdiroedd ac ar y llethrau o'u cwmpas.[6]
Edaffig (yn ymwneud a'r pridd)
golyguMae rôl y gwyrddling fel gosodydd nitrogen yn peri iddo effeithio'n sylweddol ar gyfansoddiad y cymunedau y mae'n rhan ohonynt ac mae'r rhinwedd hwn yn caniatau iddo dyfu ar briddodd o argaeledd isel o Nitrogen. Mae'n tyfu yn nodweddiadol ar gorsydd lefelau isel neu ar lethrau uwch, lle bo'r mawn yn fas (50±80 cm) ac o pH 3.8-6.1.
Mae ei ymlediad trwy'r gwreiddiau yn arwain at batrwm dosbarthiad clystyrog. Gall hyn arwain at dranc glystyrau o'r math oherwydd cysgodi fel sydd yn ymddangos yn yr is-gymuned Carex panicea-Scirpus cespitosus-Erica tetralix sef y gymuned rhostir gwlyb. Profwyd cyd-berthynas negyddol gref iawn rhwng gorchudd a lledaeniad y gwyrddling a lefelau CO2 a H2S.[6]
Mae gwreiddiau'r gwyrddling yn gweithredu fel stôr bwyd at y gaeaf. Mae egin yn brin yn y maes, a chenhedlu yn dibynnu'n helaeth ar rheisomau.[6]
Botanegol
golyguMae'r gwyrddling yn blanhigyn deuoecaidd (y ddau ryw ar blanhigion ar wahan) yn groes i'w gefndryd yn y genws. Cyfyd hyn gwestiynnau ynglŷn â'r llwybrau esblygiad rhwng monoeceidd-dra a deuoeceidd-dra.[6] Mae'r graddfa uwch o frig gwryw yn y gwyrddling yn eithriadol mewn rhywogaethau deuocaidd neu led-deuocaidd y tu allan i deulu moron (Umbelliferae).[6]
Terminoleg cynefin
golyguEir i'r dudalen Cors am gymhlethdodau terminoleg y cynefin hwn.
Adwaith i ffactorau biotig
golyguTra gall y gwyrddling dyfu i uchder o 250 cm[6] mae pori yn gostwng hyn i 50 cm. Mae geifr yn gostwng y level i lai na hanner yr hyn mae defaid yn ei wneud.[6] Mae gan y gwyrddling nifer o bathogenau ffyngaidd ac yswyr pryfedol. Ymddengys fod yr olew yn cael effaith negyddol ar bryfed sydd yn ei ysu.
Entomolegol
golyguEr gwaetha rhinweddau gwrth-bryfedegol y planhigyn mae'n amlwg i amryw o bryfed ddatblygu'r gallu i ddygymod a hwynt, oherwydd mae'r gwyrddling yn fwyd pennaf i lindys y gwyfynod canlynol yng Nghymru neu Brydain:
- Teulu'r Pothellwyr Lyonetiidae
- Bucculatrix cidarella [8]
Turiwr i ddail gwern a gwyrddling. Gweddol gyffredin dros Brydain. Fe'u cafwyd ar y gwyrddling yng Nghymru yn y gogledd-orllewin yn unig, ym Môn a Chors Fochno. Ymddengys i'w boblogaeth fod yn sylweddol uwch ar y gwyrddling na phan fydd ar y gwern[9]
- Teulu'r Noswyfynod Noctuidae
- Bidog ffa'r gors Acronicta menyanthidis
- Crynwr llychlyd Orthosia gracilis
Mae'r poblogaethau gogleddol yn fwy amrywiol eu patrwn na'r rhai yn y de, ac efallai bod hyn rhywsut yn gysylltiedig â'r duedd i ffafrio gwyrddling fel bwyd gan y lindys yno, gan i'r rhywogaeth ffafrio helyg ymhellach i'r de. Gall poblogaethau amrywiol gydfyw â rhai unffurf yng Nghymru heb gyd-genhedlu[10]
- gwrid y gors Coenophila subrosea
Hynod brin. Nis cafwyd ym Mhrydain ar ôl c.1850 tan 9 Awst 1965 pan gafwyd sbesimen yng ngogledd Cymru (Morfa Harlech) Cafwyd rhagor ychydig yn ddiweddarach yng Nghors Fochno. Maent yn fwy eang eu bwyd ar y Cyfandir[9]
- Siobyn y sipsi Lymantria dispar[9]
Ym Mhrydain fe ddeorodd y lindys ar ôl ffafrio ymborthi ar wyrddling a chorhelygen dros goed fforest sydd fwyd pennaf iddynt ar y Cyfandir.
- Gwyfyn bwâu mawr[11]
Mae'r gwyrddling yn ffurfio rhan o fwyd y gwyfynod canlynol: Clai mannog, Xestia baja; gwyfyn bwâu arian Polia hepatica; pali hardd Lacanobia contigua; pali dwy aren Papestra biren; teulu'r gwyfynod tai (Oecophoridae), Dasystoma salicella.
CEIR ADRODDIAD MWY CYNHWYSFAWR O'R PRYFED SYDD YN EI YSU YMA[6]
Enwau
golygu- Lladin
Myrica gale (L.): myrica yn golygu persawr (myrike yn hen enw Groegaidd am y tamarisc, i'r hwn y mae'n debyg) a gale yn hen enw Saesneg am y planhigyn[12]
- Enwau Cymraeg eraill a'u hetymoleg[16]
Gellir gwahaniaethu 2-4 Grwp o'r enwau amgen hyn, sef a) Grwp Gwyrddling, b) Grwp Bwrli sydd efallai yn cyd-darddu a gwyrddling, c) Grwp Myrtwydd, tras Beiblaidd? ac ch) Grwp Madywydd, o myrtwydd efallai ond yn amwys ei ystyr?.
- Gwyrddling, gwrling, gwyrling, [gwyrdd1+elf. anh.]
Cyfeiriad cynharaf: 15g. (Diw. 16g.) Gwyn 3 175, A ffaling wrddling wyrdd-las / a phinagl aur a phen glas [Deio ab Ieuan Du i’r paun].
Cyfeiriad nodedig: 1682 E. Lhuyd: LL 75, Two or three small roots of Gwrddling [:- Sweet Gale].
- Cwrli (Meirion), cwrlid, (Meirion), cwrli
Amr. ar yr uchod? Nid oes cyfeiriad yn GPC at cwrli na cwrlid yn yr ystyr arbennig dan sylw.
- Bwrli
Cyfeiriad nodedig: 1813 Welsh Botanology 162.
Gall bwrli (emetig) fod yn ffurf gysefin neu'n amrywiad ar gwrling ayb. Gall fod yn ffurf wallus o cwrli wedi ei gopio wedyn.
Bwrli: eg. Bot. Gwyrddling: sweet gale, bog myrtle.
Cyfeiriad cynharaf: 1784 T. Pennant: TW ii. (1883), 307, The Gale, or bog myrtle … is called Bwrli, or the emetic plant.
- Madywydd, Mordywydd,
madywydd [?mad1+ywydd] e.ll. neu eg. Bot. Helyg Mair, gwyrddling, Myrica gale: amr. mordywydd. Cyfeiriadau geiriadurol yn unig sydd i'r rhain ac eithrio: 1707 AB 281c, The Dutch Myrtle or sweet Gale is called in Cardiganshire Mordywydd d.g. myrtle
- Myrtwydd y gors, Madywydd bêr, Madrwydd, Mydywydd.
Myrtwydd [myrt+gwŷdd1] e.ll. (un. b. myrtwydden). Bot. Coed o’r tylwyth Myrtus, yn enw. M. communis, sef llwyn a chanddo ddail bytholwyrdd, blodau persawrus pinc neu wyn, ac aeron dulas: myrtles (cyfeiriadau Beiblaidd gan gynnwys yr enwog "1620 Sech i. 8, yr oedd efe yn sefyll rhwng y myrt-wŷdd (1588 Sech i. 8, myr-wŷdd)". Myrwydd [myrr1+gwŷdd1, cf. 1588 Sech i. 11, coed myrr] e.ll. Coed myrr, yn wallus am fyrtwydd: myrrh-trees, erron. for myrtle trees.
- Enwau'r ieithoedd Celtaidd
- Llydaweg: reed,[17] red (ret, 1492)[18]
- Gwyddeleg: raideog
- Gaeleg yr Alban: raidog, railleog neu roid roddag
- Manaweg: roddagagh
- Gwyddeleg: rideog (Gwyddeleg-ganol: raideog).
Ffurfiai'r enwau hyn sylfeini cyfenwau ac enwau lleoedd ym Mhrydain. Er enghraift, daw Auchreddie(New Deer heddiw) yn swydd Buchan o'r Gaeleg am "gae gwyrddling". Mae pentref Wyrley (Hen Saesneg: wir = gwyrddling; weah = tir wedi ei glirio, yn golygu 'man lle tyf y gwyrddling'. Oes cliw yma i darddiad yr gair gwyrddling?). Sonnir am y lle yn arolwg Doomsday fel Wirlega yn 1170 (Ekwall 1987). Yn ddiwedddarach cyfyd y cyfenw Worley. Mae tref fach Porsgrunn, yn Norwy wedi ei enwi ar ôl gwyrddling.[6]
Enwau lleoedd
golyguCors Gwrli (Meirionydd), Gwern y Gwrlid ar dir Gellirydd, Llanaber, Meirion, Werglodd gwrlid yn Betws Bach, Llanystumdwy, Arfon (TE).
Cafwyd y pedwar enw canlynol a allai gyfeirio at y gwyrddling yng Archif Melville Richards.[19] Dengys ffurf yr enw fel y'i cofnodwyd, y dyddiad cynharaf, yr ardal a'r "hen sir":
Blaen Cae'r Gwrli (1789, Cororion, Caernarfon); Cae'r-gwrle (1838, Llantrisant, sir amhendant); Gwern y gwrling (1600, Dolbenmaen, Caernarfon); Gwrlin bach (1844, Dolbenmaen, Caernarfon)
Defnydd
golyguGellir crynhoi rhinweddau'r gwyrddling o dan tri phennawd, Moddion lles a Meddygaeth, (moddion gwrth llyngyr a phryfed, erthylbair a chyfogbair), Diod (sawru brag), a Defnyddioldeb ymarferol (llifo gwlan a chrwyn, gwneud cwyr). Cyflwynir y tri yn fras yn eu trefn.
- Moddion lles a Meddygaeth
- Moddion gwrth bryfed a llyngyr
Ceir amryw o gyfeiriadau at ddefnyddio cwrlid neu helyg Mair i gael gwared o chwain o welyau,[20] e. e. "gosod canghenau o hono o amgylch y gwely, a [hel] ymaith y chwain".[21] Ategir hynny gan un enw arno o Northumberland, sef "fleawood".[22] Disgrifir ei ddefnydd i'r perwyl hwn yn fyw iawn gan Richard Adams, Abererch yn ei atgofion am weini fel gwas back yn Crugan, Llanbedrog lle byddai'n lletya yn y llofft stabl yno ac yn cael ei boenydio'n arw gan chwain:
“ | "Hen le felly fyddai'r llofft stabal yn aml iawn. Mae gen i gof mynd, tua 1930, hefo'r hwsmon, William Davies, Dinas, i gors Rhyd John, Llanbedrog i hel helyg Mair. Roeddem yn mynd a fo i'w roi yn y matresi i gael gwared o chwain. Roedd y chwain yn casáu ei oglau, and wrth lwc roedd yn ddigon derbyniol i mi. Byddai William Davies yn ffyddiog iawn o rinweddau'r helyg Mair ac roedd o'n effeithiol iawn hefyd. Rwy'n cofio iddo ddweud un tro ei fod wedi llenwi'r fatres a'r dail: "a cael fy neffro 'n nos am ddau o gloch y bora gan ryw swn crafu mawr y chwain yn methu mynd allan dan drws achan!"[23] | ” |
Diolch i'r llwch sych sawrus a oruchuddia'r dail,[24] mae'n dda i gael gwared o lyngyr o'r cylla a cheir amryw o gyfeiriadau at hynny o'r 18g a dechrau'r 19g: "An infusion of the leaves as tea, and an external application of them to the abdomen, are considered as a certain and efficacious vermifuge."[25] "Tarflyngyr llesol ydyw'r llyswydd hwn (y Gwyrddling), gan gymeryd y flail nail! ai yn bylor, neu gwedi eu mwydo mewn dwr berwdig."[20]
Rhoddid y dail, wedi eu sychu, yn y cwpwrdd dillad i roi arogl hyfryd ar y dillad ac i amddiffyn rhag y pry dillad. "Cyn dyddiau'r moth balls doedd dim gwell i'w cael na dail helygen Mair rhwng y dillad i gadw'r gwyfynod neu'r pry cadach draw ohonynt."[26]
Mae'n dda rhag pryfed brathog yn yr haf. Ar Ynys Islay arferir crogi bwnsied o helyg Mair yn y gegin i gadw pryfed ymaith.[27] Mae'n arfer cyffredin gan rai i rwbio'r dail ar eu talcen, gwddw a garddyrnau, neu i roi sbrigyn o'r planhigyn yn y cap i'r un diben. Bydd pysgotwyr yn gwisgo sbrigyn ohono, os yw'n gyfleus ar gael, pan yn eistedd mewn cwmwl o wybed ar lan llyn neu afon yn Eryri.
Erbyn hyn mae cwmni o'r Alban (Scotica Pharmaceuticals) [ddim yn bod bellach 2017?] yn gwerthu eli o'r helygen Fair ar gyfer cerddwyr sy'n cael eu plagio gan y pryfed duon brathog Albanaidd.[28] Mae tyddynwyr ar Ynys Skye hefyd yn marchnata cynnyrch fath dan yr enw Myrica.[29]
- Moddion peri erthylu a chyfogi
Adnabuwyd yn Ffrainc fel erthylbair dan yr enw Herba Myrti Rabantini[24]
"The Gale or bog myrtle... is called Bwrli, or the emetic plant."[30]
"The poor inhabitants [of North Wales] are not inattentive to its virtues, they term it Bwrle, or the emetic plant, and use it for this purpose".[30]
Mae'r dail yn cynnwys olewau anweddol a gwenwynig, sydd hefyd yn chwerw a thynhaol ar y croen (astringent).
- Diod
Fe'i defnyddiwyd fel amnewidyn i hopys yn swydd Efrog lle gelwid y cwrw yn Gale Beer. Sychwyd yr 'aeron' (conau neu moch coed) i'w cynnwys fel sbeis mewn potes[24] Lle nad oedd hopys ar gael i roi blas chwerw ar gwrw defnyddid canghennau'r gwyrddling i'r un diben.[31] Ond, yn ôl Thomas Parry, Glan Gors: "mae yn gofyn ei hir ferwi, neu y mae y ddiod yn chwannog o godi dolur yn y pen"[21]
Yn 2011 rhoddwyd caniatad i berchennog bragdy gasglu cwrlid o dir Cefn uchaf [Llanbedr]. Bwriadai ei ddefnyddio i gynyrchu cwrw. Darllenais hefyd eu bod
Llun: y diweddar Wil Jones
yn ei ddefnyddio i baratoi ‘snapps’ mewn rhai gwledydd. Evie M Jones yn Llais Ardudwy (trwy law Haf Meredydd) Chwi gofiwch (Bwletin 38) mai o gwyrddling y daw “cwrlid”, sef yr helygen Fair yn amlach i lawer ohonom heddiw.
- Defnyddioldeb ymarferol
Yn y 18g, pan wehyddid brethyn cartref yn gyffredin yng Nghymru, defnyddid y rhisgl i liwio gwlan yn felyn ac i lifo crwyn llouau.[24][32] Ceid yr un defnydd ohono yn Sweden ac yn yr Alban.[27] Gorferwid yr 'aeron' mewn dwr i greu sorod o gwyr i wneud canwyllau.[24] Yng Ngogledd America defnyddir aelod arall o deulu Myrica, y "wax myrtle" neu helygen Fair gwyrog, i'r diben hwn. Berwir y cwyr aroglus i wneud canhwyllau sydd a gales?? mawr amdanynt mewn siopau crefft am eu bod yn gollwng persawr hyfryd with losgi [Baker, M. (1996), Discovering the Folklore of Plants, Shire Books]
Nodweddion eraill
golyguByddai ffermwyr yn ceisio cadw eu gwartheg godro rhag pori helyg Mair am y byddai blas chwerw y planhigyn yn dod trwodd i'r llefrith a'r 'menyn.
Mae bathodyn llwyth Albanaidd y Campbell wedi ei seilio ar y gwyrddling
Llyfryddiaeth
golygu- 1 Gledhill, D., The Names of Plants (1989).
- 2 Peeing, F.H. a Waiters, S.M., Atlas of the British Flora (1990).
- 3 Ellis, R G., Flowering Plants of Wales (1983).
- 4 Awbery, Cr., Blodau'r Maes a'r Ardd ar Lafar Gwlad, Llyfrau Llafar Gwlad, rhif 31 (1995).
- 5 Davies, D. a Jones, A., Enwau Cymraeg ar Blanhigion (1995).
- 6 Hayes, D., Planhigion Cymru a'r Byd, Gwasg Mats Onn (1995).
- 7 Evans, J., A Tour Through Part of North Wales in the Year 1798, and at Other Times (1800) Llundain, tud 149.
- 8 Vickery, Roy, Dictionary of Plant-Lore (1995).
- 9 Parry, Thomas, Llysieuaeth Feddygol, Arg. H. Humphreys, Caernarfon (c.1860), tud 48.
- 10 Williams, Mair, Yn Ymyl Tŷ'n y Coed (1999).
- 11 Davies, Hugh, Welsh Botanology (1813).
- 12 Grigson, Geoffrey, The Engishman's Flora (1958).
- 13 Adams, Richard, "Helyg Mair", Ffenn a Thyddyn 4 (1989).
- 14 Darwin, Tess, The Scots Herbal (1996).
- 15 Mabey, R., Flora Britanica (1996)
- 16 Baker, Margaret, Discovering The Folklore of Plants, Shire Books (1996).
- 17 Pennant, T., Tours in Wales (1883), tud 307.
Gweler hefyd
golygu- Y Bywiadur Gwefan Llên Natur
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
- ↑ Ellis, R.G. (1983), Flowering Plants of Wales
- ↑ onlinelibrary.wiley.com; adalwyd 14 Awst 2017.
- ↑ Pennington, W. (1969), The History of the British Vegetation
- ↑ Linnard, W. (2000), Welsh Woods and Forests, Gwasg Gomer
- ↑ 6.00 6.01 6.02 6.03 6.04 6.05 6.06 6.07 6.08 6.09 Skene, K.R. et al (2000), Journal of Ecology 88(6) BES
- ↑ History of the British Flora, CUP
- ↑ http://ukmoths.org.uk/species/bucculatrix-cidarella/
- ↑ 9.0 9.1 9.2 Heath, J. & Emmet, J.M (1985), The Moths and Butterflies of Great Britain and Ireland, Harlequin Books
- ↑ http://www.ukmoths.org.uk/species/orthosia-gracilis/
- ↑ http://www.llennatur.cymru/Y-Bywiadur#Eurois%20occulta Eurois occulta
- ↑ Gledhill, D. (1989), The Names of Plants
- ↑ Awbery, G. (1995), Blodau'r Maes a'r Ardd ar Lafar Gwlad, Llyfrau Llafar Gwlad, rhif 31
- ↑ Davies, D. a Jones, A. (1995), Enwau Cymraeg ar Blanhigion, Amg. Gen. Cym.
- ↑ Hayes, D. (1995), Planhigion Cymru a'r Byd, Gwasg Maes Onn
- ↑ http://welsh-dictionary.ac.uk/gpc/gpc.html
- ↑ Châtel, T. (2016), Bleunioù Struzh Breizh
- ↑ Deshayes, A. (2003), Dictionnaire Etymologie du Breton, Chasse-Marre
- ↑ http://www.e-gymraeg.co.uk/enwaulleoedd/amr/cronfa.aspx
- ↑ 20.0 20.1 Davies, H. (1813), Welsh Botanology
- ↑ 21.0 21.1 Parry, T. (1860), Llysieuaeth Feddygol Caernarfon
- ↑ Grigson, G. (1958), The Englishman's Flora
- ↑ Adams, Richard (1989), "Helyg Mair", Fferm a Thyddyn 4
- ↑ 24.0 24.1 24.2 24.3 24.4 A Modern Herbal (1931), Mrs. M. Grieve Penguin 1980
- ↑ J Evans (1800), A tour through part of North Wales in the year 1798 and at other times, Llundain, tud. 149
- ↑ Mair Williams (1999), Yn Ymyl Tŷ'n y Coed
- ↑ 27.0 27.1 Vickery, R. (1995), Dictionary of Plant Lore
- ↑ Darwin, Tess, The Scots Herbal (1996)
- ↑ Mabey, Flora Britannica
- ↑ 30.0 30.1 Pennant, T. (1883) Tours in Wales
- ↑ http://zythophile.co.uk/2009/03/11/gale-warning/
- ↑ Evans, J. (1800), A Tour through part of North Wales in the year 1798, and at other times, Llundain, tud 149