Cwpan Pêl-droed y Gwlff

twrnamaint pêl-droed gwledydd Arabaidd Gwlff Persia

Twrnamaint pêl-droed yw Cwpan Pêl-droed Cenhedloedd y Gwlff neu Cwpan y Gwlff Arabaidd, neu Cwpan y Gwlff (Arabeg: كأس الخليج العربي ; Saesneg: The Gulf Cup) a gynhelir bob dwy flynedd (fel rheol) rhwng cenhedloedd Arabaidd Gwlff Persia ynghyd ag Irac ac Yemen. Cowait yw'r mwyaf llwyddiannus, a Bahrain gynhaliodd y gystadleuaeth am y tro cyntaf. Fel mae enw'r twrnamaint yn awgrymu dim ond gwledydd Arabaidd sy'n cystadlu am y cwpan a dydy Iran (sydd ddim yn wlad Arabaidd) ond sydd ag arfordir hir iawn ar hyd ochr ogleddol y Culfor, ddim yn rhan o'r digwyddiad.

Cwpan Pêl-droed y Gwlff
Organising bodyArab Gulf Cup Football Federation
Founded1970
Number of teams8
Current champions Bahrein
 (teitl 1af)
Most successful team(s) Coweit
 (10 teitl)
Website[1]
24ain Cwpan Arabaidd y Gwlff
Tlws Cwpan y Gwlff ers y twrnamaint gyntaf yn 1970

Hanes golygu

Crëwyd y bencampwriaeth hon ym 1968 yn ystod y Gemau Olympaidd yn Ninas Mecsico gan Bahrain, Kuwait, Saudi Arabia a Qatar. Cynhelir y twrnamaint yn ystod misoedd y gaeaf oherwydd gwres llethol aral Gwlff Persia a Phenrhyn Arabia. Cynhaliwyd y twrnamaint cyntaf hwn yn Bahrain. Cyhoeddwyd y byddai'r Cwpan oedd i'w chynnal yn 2022 yn cael ei gohirio nes 2023 oherwydd "tagfa digwyddiadau".[1]

Rhifynnau golygu

Trefnwyd y gystadleuaeth 1af ym 1970 yn Bahrain, ac enillodd Kuwait.

Gan fod hon yn gystadleuaeth gyfeillgar, mae ei amseriad yn gallu bod yn afreolaidd.

Oherwydd y gwres, cynhlir y twrnamaint fel arfer yn y gaeaf.

Rhai Nodweddion Arbennig golygu

Cwpan y Gwlff 2007 golygu

Yn y 18fed rhifyn, trechodd y gwesteiwr Emiradau Arabaidd Unedig Oman 1-0 yn y rownd derfynol.

Cwpan y Gwlff 2009 golygu

Yn ystod y 19eg rhifyn, enillodd y wlad letyol, Oman, y tlws am y tro cyntaf yn ei hanes yn erbyn Saudi Arabia (0-0, 6-5 t.a.b)

Cwpan y Gwlff 2014 golygu

Cynhaliwyd 22ain rhifyn Cwpan y Gwlff ym mis Tachwedd 2014 yn Saudi Arabia.

Enillwyr golygu

 
Golygfa o stadiwm llawn-dop 18fed Cwpan Arabaidd y Gwlff yn Abu Dhabi, 2007
Enillwyr Cwpan Pêl-droed Cenhedloedd y Gwlff
Blwyddyn Enillydd Tîm Ffeinal Lleoliad
1970   Coweit Cowait   Bahrain Bahrain   Bahrain
1972   Coweit Cowait   Sawdi Arabia Arabia Sawdi   Sawdi Arabia
1974   Coweit Cowait   Sawdi Arabia Arabia Sawdi   Coweit
1976   Coweit Cowait   Irac Irac   Qatar
1979   Irac Irac   Coweit Cowait   Irac
1982   Coweit Cowait   Bahrain Bahrain   Emiradau Arabaidd Unedig
1984   Irac Irac   Qatar Qatar   Oman
1986   Coweit Cowait   Emiradau Arabaidd Unedig EAU   Bahrain
1988   Irac Irac   Emiradau Arabaidd Unedig EAU   Sawdi Arabia
1990   Coweit Cowait   Qatar Qatar   Coweit
1992   Qatar Qatar   Bahrain Bahrain   Qatar
1994   Sawdi Arabia Arabia Sawdi   Emiradau Arabaidd Unedig EAU   Emiradau Arabaidd Unedig
1996   Coweit Cowait   Qatar Qatar   Oman
1998   Coweit Cowait   Sawdi Arabia Arabia Sawdi   Bahrain
2000 canslwyd canslwyd canslwyd
2002   Sawdi Arabia Arabia Sawdi   Qatar Qatar   Sawdi Arabia
2003   Sawdi Arabia Arabia Sawdi   Bahrain Bahrain   Coweit
2004   Qatar Qatar   Oman Oman   Qatar
2007   Emiradau Arabaidd Unedig EAU   Oman Oman   Emiradau Arabaidd Unedig
2009   Oman Oman   Sawdi Arabia Arabia Sawdi   Oman
2010   Coweit Cowait   Sawdi Arabia Arabia Sawdi   Iemen
2013   Emiradau Arabaidd Unedig EAU   Irac Irac   Bahrain
2014   Qatar Qatar   Sawdi Arabia Arabia Sawdi   Sawdi Arabia
2017   Oman Oman   Emiradau Arabaidd Unedig EAU   Coweit
2019   Bahrain Bahrain   Sawdi Arabia Arabia Sawdi   Qatar

Canlyniad fesul Gwlad golygu

Pencamwpwr Gwlad Blwyddyn
10 tro   Coweit Cowait 1970, 1972, 1974, 1976, 1982, 1986, 1990, 1996, 1998, 2010
3 tro   Irac Irac 1979, 1984, 1988
3 tro   Sawdi Arabia Arabia Sawdi 1994, 2002, 2003
3 tro   Qatar Qatar 1992, 2004, 2014
2 tro   Emiradau Arabaidd Unedig EAU 2007, 2013
2 tro   Oman Oman 2009, 2017
1 tro   Bahrain Bahrain 2019

Nodyn: Cafodd Irac ei wahardd o'r gystadleuaeth o 1991 i 2003 oherwydd rhyfel.

  • Dim ond Yemen sydd byth wedi ennill y bencampwriaeth hon.

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu