Cymdeithas Melinau Cymru

Cymdeithas er gwarchod, adnewyddu a chofnodi hanes melinau Cymru

Ffurfiwyd Cymdeithas Melinau Cymru (Saesneg: Welsh Mills Society) o ganlyniad i’r pryder a dyfodd yn ystod y 1970au a’r 1980au, am y sefyllfa druenus a oedd yn wynebu nifer fawr o felinau Cymru. Sylweddolwyd y pryd hynny bod angen gweithredu ar frys i’w hachub a’u hatgyweirio, neu o leiaf eu cofnodi, gan fod cymaint ohonynt yn cael eu troi’n anedd-dai, neu’n cael eu chwalu’n gyfan gwbl.[1]

Cymdeithas Melinau Cymru
Dechrau/Sefydlu1984 Edit this on Wikidata
Melin Maengwyn ger Gaerwen, Ynys Môn yn 2016, enghraifft o felin mewn perygl o droi'n fyrddin

Sefydlu golygu

 
Melinfaen Loggerheads, Dyffryn Alyn, Sir Ddinbych
 
Melin Lechi Ynysypandy, Gwynedd yn 2017 - enghraifft o'r angen dros Gymdeithas Melinau Cymru

Ar ddechrau 1984 ffurfiwyd gweithgor i ystyried y posibilrwydd o sefydlu partneriaeth a fyddai’n dod ag unigolion a sefydliadau ynghyd a oedd â diddordeb mewn astudio, cofnodi ac atgyweirio melinau traddodiadol, yn ogystal â chefnogi’r rhai a oedd yn dal i weithio.

Yr oedd eisoes, gan yr S.P.A.B. (Society for the Protection of Ancient Buildings), adran felinau, ond teimlwyd bod pellter y sefydliad hwn, yn Llundain, yn ei wneud yn ddieithr i’r mwyafrif. Byddai hyn hefyd yn ei gwneud yn anodd brwydro’n effeithiol a chynnal diddordeb yng Nghymru.

Erbyn haf 1984 lluniwyd Cyfansoddiad drafft, a threfnwyd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf. Cynhaliwyd y Cyfarfod Sefydlu ar 20 Hydref 1984 yng Ngholeg Addysg Uwch Powys yn y Drenewydd. Daeth 65 person ynghyd, a chadeiriwyd y cyfarfod gan Dr Eurwyn Wiliam o Amgueddfa Werin Cymru. Amlinellwyd amcanion y Gymdeithas arfaethedig, a thrafodwyd, a chytunwyd ar Gyfansoddiad; gyda’r amcanion o:[1]

‘…astudio, cofnodi, dehongli a rhoi cyhoeddusrwydd i felinau gwynt a dŵr Cymru; i hybu diddordeb ynddynt ymysg y cyhoedd; i roi cyngor ynglŷn â’u cadw a’u defnyddio, ac i roi cefnogaeth i felinwyr…’.

Gweithredu golygu

Cytunwyd y dylid cynnal dau gyfarfod y flwyddyn: y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Hydref, a Chyfarfod y Gwanwyn ym mis Ebrill, gyda lleoliad y cyfarfodydd hyn yn amrywio rhwng y gogledd, y canolbarth a’r de. Mae’r drefn hon wedi gweithio’n dda dros y blynyddoedd, a cheir tua 50 i 70 yn mynychu pob cyfarfod.

O fewn saith mis i’r cyfarfod cyntaf roedd yr aelodaeth wedi codi i 97, ac mae’r twf yma wedi parhau. Erbyn heddiw mae gan y Gymdeithas dros ddau gant o aelodau. Yn unol ag amcanion y Gymdeithas i hybu melinau gweithredol, argraffwyd taflen yn 1986 i roi cyhoeddusrwydd i felinau a oedd ar agor i’r cyhoedd. Argraffwyd 14,000 o’r taflenni hyn, gyda 60% o’r gost yn cael ei dalu gan Fwrdd Croeso Cymru fel rhan o’r cynllun marchnata-ar-y-cyd. Yn dilyn llwyddiant y daflen gyntaf, penderfynwyd cyhoeddi taflen newydd yn flynyddol, gyda 40 – 50,000 yn cael eu hargraffu a’u dosbarthu pob blwyddyn, yn aml heb unrhyw gymorth ariannol allanol. Serch hynny, daeth yn amlwg yn ystod y blynyddoedd diwethaf nad oedd hyn bellach yn ffordd mor effeithiol o dargedi ymwelwyr ac ennyn aelodau newydd. Felly, yn 2001 penderfynwyd sefydlu gwefan ac i ganolbwyntio’r cyhoeddusrwydd ar y we.

Cyhoeddwyd rhifyn cyntaf cylchgrawn y Gymdeithas, sef Melin, yn 1985. Er mai’r bwriad gwreiddiol oedd cael cylchgrawn achlysurol, llwyddwyd i’w gyhoeddi’n flynyddol. Ceir tair neu fwy o erthyglau ym mhob rhifyn, yn ymwneud â melinau neu agweddau ar felinyddiaeth yng Nghymru. Mae Rhif 1 bellach allan o brint, yr un modd Rhif 5, sef rhifyn arbennig o astudiaeth y diweddar Athro Gordon Tucker o felinau sir Faesyfed. Yn ogystal â’r cylchgrawn, mae’r tâl aelodaeth o £20 yn cynnwys pedwar cylchlythyr y flwyddyn.[1]

Llwyddiannau golygu

 
Melin Llynnon Llanddeusant, Ynys Môn a achubwyd yn yr 1970au. Er nad CMC adnewyddodd y felin wynt, mae'n arwydd o'r hyn gellir gyflawni

Ers sefydlu’r Gymdeithas yn 1984, achubwyd ac adferwyd dros 15 melin yng Nghymru, ac mae’r aelodaeth yn parhau i roi cymorth i gynnal a chadw ac achub rhai eraill.

Erbyn heddiw, cydnabyddir Cymdeithas Melinau Cymru fel y prif sefydliad sy’n cynrychioli melinau, a melinwyr yng Nghymru. Yn 1993, bu’n gyfrifol am lywyddu wythfed gynhadledd y Gymdeithas Felinyddol Rhyngwladol (The International Molinological Society) ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn 2000, llywyddodd gyfarfod penwythnos arbennig ar ran Adran Melinau’r S.P.A.B., sef Molicon 2000, yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Bu achlysuron fel y rhain yn gyfle i godi proffil y Gymdeithas a’i osod ar flaen y llwyfan melinyddol rhyngwladol.

Logo'r Gymdeithas golygu

Defnyddir dyluniad gan Gerallt D. Nash, Cadeirydd o Gymdeithas, o felinmaen waelod (fel yn y darlun uchod o felinmaen Loggerheads) ar gyfer logo y Gymdeithas gyda map o Gymru ar ei phen. Gall y rhychau hefyd edrych a chynrychioli pelen wlân.[2]

Cadeirydd golygu

Cadeirydd y Gymdeithas yw Gerallt D. Nash.[1] Roedd teulu Nash yn rhedeg milinau yn ardal Tyddewi a dyna sbardunodd ei ddiddordeb yn yr hen adeiladau gan ei ysgogi i deithio ar hyd y sir i'w cofnodi â chamera. Derbyniodd swydd gydag Amgueddfa Werin Cymru a chreu grŵp i ganolbwyntio ar felinau Cymru oddi fewn iddo. Newidiwyd yr enw Saesneg o 'Welsh Mills Group' i 'Welsh Mills Society' yn 1989. Nid oedd angen newid yr enw yn y Gymraeg gan mai 'Cymdeithas' oedd y term a arddelwyd eisoes o'r cychwyn.[2] Mae Cymdiethas Melinau Cymru yn gymdeithas annibynnol Gymreig.

Aelodaeth allannol golygu

Mae Dr Rosie Plummer sy'n aeloda o Gymdeithas Melinau Cymru yn aelod o Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae tymor ei haelodaeth ar Fwrdd CNC yn estyn hyd Hydref 2024.[3]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 "Hanes Cymdeithas Melinau Cymru". Gwefan Cymdeithas Melinau Cymru. Cyrchwyd 8 Chwefror 2024.
  2. 2.0 2.1 "THE WELSH MILLS SOCIETY: LOOKING BACK OVER THE LAST (OR FIRST) 30 YEARS – A PERSONAL VIEW" (PDF). 'Melin' rhif 29 Cylchgrawn CMC. Cyrchwyd 8 Chwefror 2008.
  3. "Amdanom Sut Cawn ein Rheoli". Gwefan Cymdeithas Melinau Cymru. Cyrchwyd 8 Chwefror 2024.

Dolenni allanol golygu