Cyngor y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Cyngor y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau ar 11 Hydref 2024 yng Nghaeredin.
Math o gyfrwng | Corff |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 11 Hydref 2024 |
Gwladwriaeth | Y Deyrnas Unedig gan gynnwys Cymru, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a rhanbarthau Lloegr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyn y cyfarfod, cyhoeddwyd fod Sue Gray yn dechrau rôl fel cennad Prif Weinidog y Deyrnas Unedig ar gyfer y cenhedloedd a'r rhanbarthau.[1]
Cynrychiolaeth Cymru
golyguDywedodd arweinydd Plaid Cymru fod Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan a Llywodraeth Cymru yn osgoi gofyn i Keir Starmer am fwy o arian i Gymru oherwydd y posibilrwydd o'r “embaras” os byddai yn gwrthod.
Yn dilyn hyn, dywedodd Eluned Morgan yn y Senedd ar Hydref 9 ei bod hi “yn rhoi pwysau” ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig am “fwy o degwch” ariannol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru;
“Bydd y Prif Weinidog yn mynychu cyfarfod cyntaf Cyngor y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau ddydd Gwener,”
“Mae hwn yn gyfle mawr i ddechrau cyfnod newydd o bartneriaeth gyda dwy lywodraeth yn cydweithio ar weledigaeth gyffredin ar gyfer dyfodol Cymru.”[2]
Effaith
golyguDywedodd yr athro Huw Williams fod y Cyngor “fel ymgais gan y Blaid Lafur i wireddu” perthynas well rhwng y llywodraethau cenedlaethol ond fod y “Cyngor yn gallu cael ei ystyried yn rhywbeth sydd yn eithaf arwynebol… a rhywbeth sydd ddim wir yn mynd i newid y sefyllfa yn y tymor canolig, neu’r hir dymor.”[2]
Y cyfarfod cyntaf
golyguBu'r canlynol yn bresennol yn y cyfarfod cyntaf:
Cynrychiolaeth llywodraeth y Deyrnas Unedig
golygu- Prif Weinidog y Deyrnas Unedig
- Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn
- Y Gweinidog Gwladol dros Fuddsoddi
- Cafwyd ymddiheuriad gan y Dirprwy Brif Weinidog
Prif weinidogion y cenhedloedd
golygu- Prif Weinidog yr Alban
- Prif Weinidog Cymru
- Prif Weinidog Gogledd Iwerddon (a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon)
Rhanbarthau
golygu- Maer Swydd Gaergrawnt a Peterborough
- Maer Dwyrain Canolbarth Lloegr
- Maer Manceinion
- Maer Rhanbarth Dinas Lerpwl
- Maer Llundain
- Maer Gogledd-ddwyrain Lloegr
- Maer De Swydd Efrog
- Maer Tees Valley
- Maer Gorllewin Canolbarth Lloegr
- Maer Gorllewin Lloegr, ac Efrog a Gogledd Swydd Efrog
- Cafwyd ymddiheuriad gan Faer Gorllewin Swydd Efrog[3]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Rôl newydd i Sue Gray yn Llywodraeth y DU gyda chyfrifoldeb am y cenhedloedd". newyddion.s4c.cymru. 2024-10-20. Cyrchwyd 2024-10-20.
- ↑ 2.0 2.1 "Cyngor y Cenhedloedd a'r Rhanbarthau 'yn eithaf arwynebol'". Golwg360. 2024-10-10. Cyrchwyd 2024-10-20.
- ↑ "Council of the Nations and Regions: Inaugural meeting on 11 October 2024". 17 October 2024.