Cysylltiadau rhyngwladol Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen
Roedd polisi tramor Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen (DDR) yn ddibynnol ar bolisi tramor yr Undeb Sofietaidd (UGSS).[1] Sefydlwyd y DDR ym 1949 o'r sector o'r Almaen a feddiannwyd gan yr Undeb Sofietaidd yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, tra cyfunodd y tair sector a feddiannwyd gan yr Unol Daleithiau, Ffrainc, a'r Deyrnas Unedig i ffurfio Gorllewin yr Almaen (Gweriniaeth Ffederal yr Almaen).
Enghraifft o'r canlynol | polisi tramor, Cysylltiadau rhyngwladol |
---|---|
Gwladwriaeth | Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen |
Ymdrechodd arweinyddiaethau'r DDR ac UGSS i gynnal y DDR fel gwladwriaeth gomiwnyddol ar flaen y Llen Haearn yn Ewrop yn ystod y Rhyfel Oer. Cafodd y DDR ei hintegreiddio i gymdeithas gwladwriaethau'r Bloc Dwyreiniol, ac yr oedd yn aelod o Gytundeb Warsaw a Comecon.
Cydnabyddiaeth ryngwladol
golyguCafodd safle'r DDR ar y llwyfan ryngwladol ei rwystro'n llym gan Athrawiaeth Hallstein, agwedd o Westpolitik Gorllewin yr Almaen o 1955 i tua 1970 oedd yn haeru ni ellir cynnal cysylltiadau diplomyddol â gwladwriaethau oedd yn cydnabod y DDR, er mwyn atgyfnerthu ei haeriad taw'r Weriniaeth Ffederal oedd yr unig wladwriaeth Almaenig gyfreithlon. O ganlyniad, cydnabuwyd y DDR gan wladwriaethau comiwnyddol eraill yn unig, gan ei gwneud yn "esgymun rhyngwladol" oedd yn ddibynnol ar yr Undeb Sofietaidd a gweddill y Bloc Dwyreiniol.[2] Dilynodd y DDR Athrawiaeth Ulbricht, gyda'r amcan o ennill cydnabyddiaeth Gorllewin yr Almaen. Roedd hyn nid yn unig yn brif nod polisi tramor y DDR, ond yn brif nod holl bolisi'r Blaid Undod Sosialaidd.[3] Pan ddaeth Willy Brandt yn Ganghellor Gorllewin yr Almaen ym 1969, ceisiodd ei Ostpolitik i normaleiddio cysylltiadau rhwng Gorllewin yr Almaen a'r Bloc Dwyreiniol, gan gynnwys y DDR. Roedd Brandt yn barod i gydnabod y DDR fel gwladwriaeth ar wahân, ond nid cenedl ar wahân, gan gadw'r nod o aduniad yn y pen draw.[4] Yn dilyn Cytundeb y Pedwar Pŵer ar Ferlin a Chytundeb Sylfaenol 1972, bu 'ton ddiplomyddol' o wladwriaethau newydd yn cydnabod y DDR.[5] Ym 1973 cytunodd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig trwy Benderfyniad 335 i dderbyn y ddwy wladwriaeth Almaenig yn aelodau'r Cenhedloedd Unedig. Erbyn y 1980au roedd y DDR yn cynnal cysylltiadau diplomyddol â mwy na 130 o wladwriaethau eraill.[5]
Y Trydydd Byd
golyguYn ystod y 1970au, ehangodd cysylltiadau tramor y DDR i'r Trydydd Byd, yn enwedig Affrica. Yn hwyr y 1960au a'r 1970au cynnar, ceisiodd y DDR i ennill cydnabyddiaeth ryngwladol o wledydd y Trydydd Byd yn gyfnewid am gymorth economaidd a thechnegol, gan hefyd portreadu Gorllewin yr Almaen fel 'gwir olynydd' yr Almaen ymerodraethol, ac felly lliwio'r DDR fel gwladwriaeth sosialaidd annhrefedigaethol. Cafodd y polisi hwn rhywfaint o lwyddiant: cydnabuwyd y DDR gan Swdan ym 1969 a nifer o wladwriaethau Arabaidd ar ddechrau'r 1970au. Bu nifer o gytundebau milwrol ac economaidd, ffurfiol ac anffurfiol, rhwng y DDR a gwladwriaethau'r Trydydd Byd (gan gynnwys Angola, Mosambic, ac Ethiopia) a mudiadau rhyddid (gan gynnwys yr ANC, y PLO, a ZAPU) oedd â chysylltiadau ag UGSS. Erbyn canol y 1980au, bu dros 2000 o bersonél milwrol y DDR mewn gwledydd y Trydydd Byd, yn bennaf mewn rôl cynghori ac hyfforddi.[6]
Cyfeiriadau
golyguFfynonellau
golygu- Dennis, M. The Rise and Fall of the German Democratic Republic, 1945–1990 (Harlow, Lloegr, Pearson Education, 2000).
- Larson, S. 'Government and Politics', yn East Germany: A Country Study, golygwyd gan S. R. Burant (Washington, D. C., GPO for the Library of Congress, 1988).
- Ludz, P. C. The German Democratic Republic from the Sixties to the Seventies (Cambridge, Massachusetts, Prifysgol Harvard, 1970).
- Olszewski, M. W. 'The Framework of Foreign Policy', yn The German Democratic Republic: A Developed Socialist Society, golygwyd gan Lyman H. Legters (Boulder, Colorado, Westview Press, 1978), tt. 179–98.
Darllen pellach
golygu- Winrow, G. M. The Foreign Policy of the GDR in Africa (Caergrawnt, Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2009).
- Plock, E. D. East German–West German Relations and the Fall of the GDR (Boulder, Colorado, Westview Press, 1993).
- Schulz, E., Jacobsen, H., Leptin, G., a Scheuner, U., gol. GDR Foreign Policy (Armonk, Efrog Newydd, M. E. Sharpe, 1982). Cyfieithwyd gan Michel Vale.