Daearyddiaeth yr Eidal

Gwlad yn ne Ewrop sy'n ymestyn allan fel gorynys hir a'i hynysoedd perthynol i ganol Môr y Canoldir yw'r Eidal. Mae hefyd yn cynnwys nifer o ynysoedd; y mwyaf yw Sicilia a Sardinia. Mae'n ffinio ar y Swistir, Ffrainc, Awstria, Slofenia, ac mae San Marino a Dinas y Fatican yn cael eu hamgylchynu gan yr Eidal.

Lleoliad yr Eidal yn Ewrop

Gwlad fynyddig yw'r Eidal. Yn y gogledd, ceir yr Alpau, sy'n ffurfio ffîn ogleddol y wlad. Y copa uchaf yw Monte Bianco (Ffrangeg: Mont Blanc), 4,807.5 medr o uchder, ar y ffîn rhwng yr Eidal a Ffrainc. Mynydd adnabyddus arall yw'r Matterhorn (Cervino mewn Eidaleg, ar y ffîn rhwng yr Eidal a'r Swistir. Ymhellach tua'r de, mae mynyddoedd yr Apenninau yn ymestyn o'r gogledd i'r de ar hyd yr orynys. Ceir y copa uchaf yn yr Apenninau Canolog, y Gran Sasso d'Italia (2,912 m). Ceir nifer o losgfynyddoedd byw yn yr Eidal: Etna, Vulcano, Stromboli a Vesuvius.

Afon fwyaf yr Eidal yw Afon Po, sy'n tarddu yn yr Alpau Cottaidd ac yn llifo tua'r dwyrain am 652 km (405 milltir) i'r Môr Adriatig ar hyd gwastadedd eang. Y llyn mwyaf yw Llyn Garda yn y gogledd.