Daloni Metcalfe
Cyflwynydd teledu a radio yw Daloni Metcalfe (ganwyd 9 Chwefror 1968) sydd yn cyflwyno rhaglen Ffermio ar S4C.
Daloni Metcalfe | |
---|---|
Ganwyd | 9 Chwefror 1968 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyflwynydd radio |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguFe'i magwyd ar fferm fechan ym mhlwyf Llanrhychwyn yn Nyffryn Conwy, ynghanol defaid a gwartheg. Bu hefyd yn cadw merlen cob adran B am flynyddoedd a bu'n aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanrwst.
Cafodd ei haddysg uwch ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.
Gyrfa
golyguDaeth yn adnabyddus fel cyflwynydd ar Newyddion S4C ac yna ar raglenni Heno a Wedi 7.
Yn Ionawr 2005, daeth Daloni yn un o gyflwynwyr y rhaglen Ffermio ar S4C sy'n darlledu bob nos Lun. Cynhyrchir y gyfres gan Teledu Telesgôp. Ei chyd-gyflwynwyr ar gyfnod ail-lansiad y rhaglen oedd Iola Wyn, Alun Elidyr a Mererid Wigley. Wedi ymadawiad Iola Wyn a Mererid Wigley o'r gyfres yn Ionawr 2010, mae Daloni bellach yn cyflwyno'r gyfres gydag Alun Elidyr a'r cyflwynydd newydd, Meinir Jones.
Bu hefyd yn cyflwyno y rhaglen Fferm Ffactor rhwng 2009 a 2013.
Bywyd personol
golyguMae Daloni bellach yn ffermio gyda'i gŵr Wil a'u pum plentyn, Ifan, Lili, Robin, Nansi a Wil Wmffra yn Nhudweiliog ym Mhenrhyn Llŷn, lle maen nhw'n cadw defaid a gwartheg masnachol. Mae Daloni ei hun newydd ddechrau cadw lloi Aberdeen Angus.