David Arthur Saunders Davies

gwleidydd Cymreig (1792–1857)

Roedd David Arthur Saunders Davies (9 Mehefin 179222 Mai 1857) yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin rhwng 1842 a 1857[1]

David Arthur Saunders Davies
Ganwyd9 Mehefin 1792 Edit this on Wikidata
Bu farw22 Mai 1857 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

Ganwyd Davies yng Nghaerfyrddin yn fab hynaf Dr David Davies, meddyg, a Susana (née Saunders) ei wraig. Roedd Susana yn ferch ac etifedd Erasmus Davies, ystâd y Pentre Maenordeifi.

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Harrow a Choleg Eglwys Crist, Rhydychen lle graddiodd BA ym 1814 ac MA ym 1817.

Ym 1826 priododd Elizabeth Maria, merch Cyrnol Owen Philipps a chwaer John Henry Scourfield AS Sir Benfro. Bu hi farw 19 Gorffennaf 1851; bu iddynt dri mab a dwy ferch. Bu farw eu hail fab Owen Gwyn yng ngwarchae Sabastopol, Rhyfel y Creimea[2]. Safodd eu mab hynaf, Arthur Henry, fel ymgeisydd seneddol i'r Rhyddfrydwyr yn etholaeth Ceredigion ym 1859 ac i'r Ceidwadwyr yn Sir Benfro ym 1895.

Gyrfa golygu

Fe'i galwyd i'r bar yn Lincoln's Inn ym 1818 a bu'n ymarfer y gyfraith yng nghylchdaith De Cymru gan wasanaethu fel cadeirydd Llysoedd Chwater Swydd Aberteifi ac fel un o Ynadon Heddwch Sir Gaerfyrddin. Ar farwolaeth ei dad ym 1829 daeth yn dirfeddiannwr ar ystâd helaeth a oedd yn cynnwys Pentre, Maenordeifi; Moel Ifor, Llanrhystud; Erw Wastod yn Llanedi a thiroedd yn ardal Abertawe. Roedd yr ystadau yn eu cyfanrwydd yn mesur tua 9,900 cyfer [3]

Gyrfa Wleidyddol golygu

Dewiswyd Davies i gynrychioli'r achos Geidwadol ar farwolaeth John Jones, Ystrad ym 1842 a chafodd ei ailethol yn ddiwrthwynebiad yn etholiadau cyffredinol 1847, 1852 a 1857. Ni fu ei yrfa seneddol yn un nodedig.

Marwolaeth golygu

Bu farw yn sydyn wrth giniawa gyda'i fab yng Nghlwb Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, Llundain yn 65 mlwydd oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. Williams, William Retlaw, The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895
  2. "ILAMENTEDDEATHOFDAVIDARTHURIiSAUNDERSDAVIESESQMPJ - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1857-05-29. Cyrchwyd 2017-01-22.
  3. Archifau Cymro - Archifdy Sir Benfro Papers of the Saunders-Davies family of Pentre Cyfeirgôd(au): GB 0213 D/PEN[dolen marw]
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
John Jones
Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin
18421857
Olynydd:
David Pugh