Defnyddiwr:Blogdroed/Blwch Tywod

Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop 2012, neu Euro 2012 oedd y 14eg tro i UEFA gynnal pencampwriaeth pêl-droed i ddynion. Cynhaliwyd y bencampwriaeth am y tro cyntaf yng Ngwlad Pwyl a'r Wcráin rhnwg 8 Mehefin a 1 Gorffennaf 2012.

Sbaen oedd yn fuddugol gan guro Yr Eidal 4-0 yn y rownd derfynol yn y Stadiwm Olympaidd yn Kiev, Wcráin[1].

Daeth Sbaen y tîm cyntaf yn hanes i ennill dau Bencampwriaeth Ewropeaidd o'r bron, a'r cyntaf i ennill tri prif bencampwriaeth pêl-droed o'r bron; Euro 2008, Cwpan y Byd 2010 ac Euro 2012[2].

Dewis Lleoliad golygu

Cafwyd pum cais i gynnal y bencampwriaeth gyda Croatia-Hwngari, Groeg, Gwlad Pwyl-Wcráin, Twrci a'r Eidal[3] yn rhoi eu henwau ger bron Uefa.

Ar 8 Tachwedd 2005, llyniwyd rhestr fer o dri chais gan Bwyllgor Gweithredol UEFA gyda ceisiadau Groeg a Thwrci yn cael eu diystyrru[4]. Yn dilyn ymweliadau â'r gweldydd oedd ar ôl yn y broses cafwyd pleidlais yn ystod cyfarfod Pwyllgor Gweithredol Uefa yng Nghaerdydd ar 18 Ebrill, 2007[5] gyda Gwlad Pwyl-Wcráin yn fuddugol ar ôl sicrhau wyth pleidlais, Yr Eidal yn cael pedair pleidlais a Croatia-Hwngari yn methu sicrhau yr un bleidlais.

Gemau Rhagbrofol golygu

Roedd 51 o dimau yn cystadlu ar gyfer 14 o lefydd yn y rowndiau terfynol ochr yn ochr â Gwlad Pwyl a'r Wcráin. Rhannwyd y timau i naw grŵp gydag ennillwyr pob grŵp yn sicrhau eu lle yn y rowndiau terfynol ynghyd â'r tîm oedd â'r record orau ar ôl gorffen yn yr ail safle. Cyfarfu'r wyth tîm arall oedd wedi gorffen yn ail yn eu grŵp mewn gemau ail gyfle er mwyn sicrhau'r pedwar tîm olaf fyddai'n cyrraedd Euro 2012[6].

Timau Llwyddianus golygu

Canlyniadau golygu

Grŵp A golygu

Team Ch E Cyf Coll + - GG Pt
  Y Weriniaeth Tsiec 3 2 0 1 4 5 −1 6
  Groeg 3 1 1 1 3 3 0 4
  Rwsia 3 1 1 1 5 3 +2 4
  Gwlad Pwyl 3 0 2 1 2 3 −1 2


8 Mehefin 2012
18:00 lleol = (UTC+2)
Gwlad Pwyl   1 – 1   Groeg
Lewandowski   17' (Saesneg) Adroddiad Salpingidis   51'
Stadion Narodowy, Warsaw
Torf: 56,070
Dyfarnwr: Carlos Velasco Carballo  

8 Mehefin 2012
20:45 lleol = (UTC+2)
Rwsia   4 – 1   Y Weriniaeth Tsiec
Dzagoev   15'79'
Shirokov   24'
Pavlyuchenko   82'
(Saesneg) Adroddiad Pilař   52'
Stadion Miejski, Warsaw
Torf: 40,803
Dyfarnwr: Howard Webb  

12 Mehefin 2012
18:00 lleol = (UTC+2)
Groeg   1 – 2   Y Weriniaeth Tsiec
Gekas   53' (Saesneg) Adroddiad Jiráček   8'
Pilař   8'
Stadion Miejski, Warsaw
Torf: 41,105
Dyfarnwr: Stéphane Lannoy  

Grŵp B golygu

Team Ch E Cyf Coll + - GG Pt
  yr Almaen 3 3 0 0 5 2 +3 9
  Portiwgal 3 2 0 1 5 4 +1 6
  Denmarc 3 1 0 2 4 5 −1 3
  yr Iseldiroedd 3 0 0 3 2 5 −3 0


Grŵp C golygu

Team Ch E Cyf Coll + - GG Pt
  Sbaen 3 2 1 0 6 1 +5 7
  yr Eidal 3 1 2 0 4 2 +2 5
  Croatia 3 1 1 1 4 3 +1 4
  Gweriniaeth Iwerddon 3 0 0 3 1 9 −8 0

Grŵp D golygu

Team Ch E Cyf Coll + - GG Pt
  Lloegr 3 2 1 0 5 3 +2 7
  Ffrainc 3 1 1 1 3 3 0 4
  Wcráin 3 1 0 2 2 4 −2 3
  Sweden 3 1 0 2 5 5 0 3

Cyfeiriadau golygu

  1. "Spain claim historic win".
  2. "Torres, Casillas & Xavi amongst record-breakers for Spain". Goal.com. 2012-07-01.
  3. "Bidding for the Final Tournament 2012" (PDF). UEFA.com. Union of European Football Associations. 7 November 2005.
  4. Chaplin, Mark (2005-11-08). "Trio in EURO 2012 running". UEFA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-03-12.
  5. "Euro joy for Poland and Ukraine". UEFA.com. Union of European Football Associations. 2007-04-18. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-10. Check date values in: |archivedate= (help)
  6. "Draw details and dates". UEFA. 2012-02-07.