Defnyddiwr:Jason.nlw/WiciBrosiect Addysg/Teulu Crawshay, Cyfarthfa

Data cyffredinol


Adnoddau Dysgu
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma
CBAC
Radicaliaeth a Phrotest
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg

Bu sawl cenhedlaeth o deulu Crawshay, Cyfarthfa yn ddylanwadol yn hanes ardal Merthyr Tudful ers diwedd y 18fed ganrif. Y penteulu a ymsefydlodd yng Nghymru oedd Richard Crawshay (1739 – 1810). Daeth gyda’i deulu o Swydd Efrog i Gymru, ac roeddent o gefndir amaethyddol yn wreiddiol. I ddechrau, sefydlodd Crawshay fusnes gydag Anthony Bacon, perchennog Gwaith Haearn Plymouth ym Merthyr, cyn mynd ymlaen i sefydlu Gwaith Haearn Cyfarthfa fel gweithfeydd haearn byd enwog erbyn dechrau’r 19eg ganrif. Bu Richard Crawshay yn bwysig yn y gwaith o sefydlu Camlas Sir Forgannwg rhwng Merthyr a Chaerdydd diwedd y 18fed ganrif. [1]

Bu ŵyr Richard, William Crawshay II, yn rheoli Gwaith Haearn Cyfarthfa adeg Gwrthryfel y gweithwyr ym Merthyr Tudful.[2]

Prif aelodau'r teulu oedd:

Roedd nifer o ddiwydianwyr pwysig eraill â chysylltiadau â'r teulu yma. Roedd Richard Crawshay yn ewythr i Crawshay Bailey a'i frawd Joseph Bailey, ac roedd ei ferch Charlotte yn briod â Benjamin Hall (1778-1817).

Meistri haearnGolygu

 
William Crawshay II (1788–1867)

Daeth Merthyr Tudful yn ganolfan hollbwysig i’r diwydiant haearn oherwydd presenoldeb y deunyddiau crai angenrheidiol yn yr ardal. Roedd ganddi’r haearn crai, cyflenwadau cyfleus o ddŵr, gweithlu gweithgar efo’r sgiliau

angenrheidiol ac oherwydd hynny denodd ddynion busnes oedd â’r arian i fuddsoddi yn y diwydiant newydd. Erbyn diwedd y 18fed ganrif roedd pedwar o weithfeydd haearn mawr ym Merthyr:

  • Penydarren, o dan berchenogaeth teulu’r Homfrays
  • Plymouth, o dan berchenogaeth Anthony Bacon ac yna Richard Hill
  • Dowlais, o dan berchenogaeth Josiah John Guest
  • Cyfarthfa, o dan berchenogaeth teulu’r Crawshays

Cyfarthfa a dyfodd fwyaf, gan gynhyrchu canran fawr o haearn Prydain, ac yn wir haearn y byd. Daeth William Crawshay II yn un o’r dynion mwyaf cyfoethog a welwyd erioed ym Mhrydain – yn ôl gwerthoedd 2020 byddai ei gyfoeth wedi bod yn werth mwy na £5 biliwn. Roedd angen yr haearn ar gyfer y Chwyldro Diwydiannol, ac wrth i’r diwydiant ehangu roedd galw cynyddol am lo, ac o ganlyniad felly cafodd llawer o gloddfeydd eu datblygu gan y meistr haearn.[3] Roedd yn ddyn busnes oedd â llygad am fenter, gan ychwanegu Gwaith Haearn Hirwaun a gwaith tunplat ger Pontypridd at ei deyrnas haearn. Yn wir, roedd William Crawshay yn cael ei alw'n Frenin Haearn Merthyr. [1]

 
Tu mewn i Weithfeydd Haearn Cyfarthfa gyda'r nos, Penry Williams, (1825)

O blith meistri haearn yr oes honno, y ddau mwyaf dylanwadol oedd William Crawshay, perchennog Cyfarthfa, a Josiah John Guest, perchennog Dowlais. Gwnaeth y ddau gyfraniad at fywyd ym Merthyr. Adeiladodd teulu Guest lyfrgell, capeli ac ysgolion i’w gweithwyr, ond er eu bod yn byw yng nghyffiniau Merthyr, roedd y cyfoeth a arddangoswyd ganddynt yn amlwg mewn gwrthgyferbyniad â’r gweithwyr. Yn 1825 comisiynodd ac adeiladodd Crawshay gastell iddo’i hun yn edrych dros waith Cyfarthfa. Costiodd bron £30,000, ac roedd y ffordd roedd Castell Cyfarthfa yn tra-arglwyddiaethu dros y dref yn adlewyrchiad arall o’u rheolaeth dros bron bob agwedd ar fywyd ym Merthyr.[3]

Roedd William Crawshay a John Guest wedi dangos eu cefnogaeth i ymgyrch y Radicaliaid a oedd yn galw am ddiwygio’r Senedd ar ddechrau’r 19eg ganrif. Ond enynnodd William Crawshay llid y gweithwyr yn 1831 pan gyhoeddodd ei fod am dorri cyflogau gweithwyr haearn Cyfarthfa. Torrwyd cyflogau’r gweithwyr a gwaethygwyd y sefyllfa gan Crawshay pan ddiswyddodd 84 o bwdleriaid. Bu hyn yn ffactor pwysig a arweiniodd at Derfysg Merthyr ym Mehefin 1831.[3]

Pan fu farw William Crawshay II yn 1867 gadawodd wahanol rannau o’i ymerodraeth fusnes i’w blant. Bu ei ferch-yng-nghyfraith, Rose Mary Crawshay (1828-1907), a oedd yn briod â’i fab ieuengaf, Robert Thompson Crawshay, yn amlwg iawn gyda chyfleusterau addysg a mentrau er lles menywod.[1]

Daeth cysylltiad y teulu â Merthyr a’r gweithfeydd haearn i ben pan brynwyd y busnes gan gwmni Guest, Keen a Nettlefolds yn 1902.[1][2]

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Davies, John, 1938-, Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 2008. tt. 191–192. ISBN 978-0-7083-1954-3. OCLC 213108835.CS1 maint: others (link)
  2. 2.0 2.1 "CRAWSHAY family, of Cyfarthfa, Glamorganshire, industrialists | Dictionary of Welsh Biography". biography.wales. Cyrchwyd 2020-04-08.
  3. 3.0 3.1 3.2 "Radicaliaeth a Phrotest" (PDF). CBAC.